Yr Hen Lyfrgell: noson wych a rhagorol.

29 Mai 2016

Os nad ydych wedi bod i’r Hen Lyfrgell, chi’n ‘colli mas’.

Ac os nad ydych wedi bod yno ar noson lle mae ‘na ddigwyddiad arbennig, chi’n ‘colli mas’ hyd yn oed mwy.

‘Roedd enghraifft o hyn nos Wener, pan fu neb llai na Meic Stephens a Heather Jones yn diddanu torf o tua 200 o bobl – o bob rhan o Gaerdydd a thu hwnt.

Eisteddais efo par hyfryd o Ystrad Mynach (roedd fy ngwraig gyda mi hefyd, wrth gwrs). ‘Roedd y ddau yn dysgu Cymraeg – ac wedi astudio Can Walter, un o ganeuon gorau Meic. Pleser pur iddynt, felly, oedd gweld y gwr ei hun yn canu’r gan – tra hefyd yn cael cyfle i ymarfer yr iaith a mwynhau’r cwrw arbennig a werthir yn y cafe / bar (cwrw o micro-breweries Cymru. Tair potel am ddeg punt. Yfais ormod ohonynt – ond hapus oeddwn).

Heather oedd yn canu’n gyntaf – gydag ambell stori am ei dyddiau cynnar efo Meic, Huw Jones, Geraint Jarman a Dewi Pws, rhoddodd i ni wledd a hanner. Gwych iawn oedd gweld hyd yn oed y ‘criw wrth y bar’ yn distewi wrth iddi ganu. Rhoddodd i ni fersiwn anhygoel o Colli Iaith. Byddech wedi gallu clywed pin yn gollwng.

heatherjones03m

Ac wedyn, Meic. ‘Roedd e mewn hwyliau da iawn (dim ond unwaith y cafodd y criw wrth y bar gweir am beidio a gwrando’n ddigon astud). ‘Roedd ei waith gitar yn athrylithgar- a’i lais tyner mor hudolus ag erioed. Cawsom ganddo fersiwn hyfryd o Gan Walter, Bibopalwla, Erwan, Rue Sant Michel, y Brawd Houdini a llawer mwy. Oll yn fendigedig.

Ac am ail hanner cyngerdd Meic fe ddaeth Heather yn ol i’r llwyfan i ymuno ag ef. Oes modd cael gwell?

Hyfryd oedd gweld yr Hen Lyfrgell yn gwireddu’r weledigaeth a arweiniodd at ei sefydlu. Mwynhau, yn gwbl naturiol, noson yng nghwmni ffrindiau hen a newydd. A mwynhau trafod yn y Gymraeg a gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg.

Gyda Chlwb y Diwc wedi dirwyn i ben (yn Nhreganna) dyma’r lle amlwg i fynd am noson o hwyl ac i fwynhau diod bach efo ffrindiau.

‘Rwyf am orffen drwy alw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod cyfraniad Meic a Heather i’n diwylliant. Dyma i chi ddau berson sydd wedi datblygu a rhannu ffordd newydd o edrych ar fywyd Cymru – a chreu stor o ganeuon gwych na fyddant yn heneiddio fyth.

Felly, Carwyn & Co, dyma gyfle i chi ddangos eich bod yn eu gwerthfawrogi a, thrwy hynny, dangos fod Llywodraeth Cymru yn fwy na peiriant llwyd biwrocrataidd. Ac eich bod yn deall pwysigrwydd ein diwylliant Cymraeg gwerthfawr ac unigryw.

Yn y cyfamser, ‘dwi methu aros am y noson nesaf yn yr Hen Lyfrgell.

Gyda diolch enfawr i Sian Lewis a’i thim yn Menter Caerdydd am drefnu’r noson.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma