Yr Harri-Parris ar eu ffordd i Gaerdydd

27 Mawrth 2015

Datganiad i’r wasg.

Mae’r teulu llwyfan poblogaidd, yr Harri-Parris, sef teulu ffermio anarferol ar y naw o Sir Benfro sy’n canu ac yn dawnsio, a grëwyd gan gwmni Mai oh Mai, yn paratoi i ymddangos yn eu hail ddrama gomedi, gyda chaneuon gwreiddiol newydd, yn ystod Gwanwyn 2015.  (Chapter Dydd Mawrth 31 Mawrth-dydd Sadwrn 4 Ebrill, 8pm)

The Harri-Parris: The Big Day fydd ail gynhyrchiad y cwmni, a’r ail i ddilyn helyntion yr Harri-Parris. Perfformiwyd y cyntaf, The Leaving Do, mewn lleoliadau ar draws Cymru ac yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2013.

Daw Anni Harri-Parri, unig ferch y teulu a’r gallaf (o bosib) ohonynt i gyd gartref o Fanceinion, gyda newyddion mawr, a gwestai annisgwyl iawn. Beth fydd barn yr Harri-Parris am ddyn Anni? A beth fydd ei farn yntau am ei deulu yng nghyfraith newydd o Orllewin Cymru? Chwiliwch am eich hetiau smart er mwyn ymuno â’r Harri-Parris am noson o ganeuon arbennig, chwerthin a digon o gacen, mewn sioe newydd sy’n ymchwilio i’r gwrthdaro rhwng dau ddiwylliant gwahanol iawn.

Magwyd yr awdur a’r perfformwraig Llinos Mai, a sefydlodd Mai oh Mai, ar fferm yn Sir Benfro, ac mae hi wedi defnyddio hyn fel ysbrydoliaeth gomig ar gyfer ei sioeau comedi erioed. Mae Llinos ar hyn o bryd yn ysgrifennu comedi sefyllfa radio yn seiliedig ar sioeau’r Harri-Parris i BBC Radio Wales, fydd yn cael ei darlledu yn hwyrach eleni. Mae hefyd wedi ysgrifennu un bennod o Cara Fi, drama gomedi i Touchpaper a S4C. Fel actores, yn ogystal â chwarae Anni Harri-Parri yn sioea’r Harri-Parris, mae credydau theatr Llinos yn cynnwys: Green Man/Red Woman (National Theatre Wales), Fun Palaces (Agent 160), Here Be Monsters (Theatr Iolo), A Midsummer Night’s Dream (Torch Theatre, Mappa Mundi), The Devoted Friend (Sherman Cymru), The Happy Prince, Danny the Champion of the World (Theatr y Sherman), Gardd Gerdd Hudol Iori (Canolfan Mileniwm Cymru), The Music Box Maker (Theatr Gwent) a The Big Bad Wolf (Theatr na n’Og).

Mae’r cyfarwyddwr Owen Lewis wedi cyfarwyddo The Man Who gan Peter Brook, Summerfolk gan Maxim Gorky, DNA gan Denis Kelly ac yn fwyaf diweddar The Respectable Wedding gan Brecht i’r Guildhall School. Enwebwyd ei sioe Eric and Little Ern, am Morecambe a Wise, am Wobr Olivier am yr Adloniant Gorau. Mae ei brosiectau diweddar eraill yn cynnwys: This Is Ceilidh (Assembly Spiegeltent, Caeredin); Grumpy Old Women – 50 Shades of Beige (taith genedlaethol); The Only Way Is Downton (Trafalgar Studios, Llundain, Caeredin a thaith genedlaethol) a Suggs: My Life Story (Garrick Theatre, Llundain a thaith genedlaethol). Mae Owen hefyd wedi derbyn Gwobr cyfarwyddwr RSC Buzz Goodbody.

Mae credydau llwyfan yr aelod o’r cast Rhian Morgan yn cynnwys: Dyled Eileen, Tir Sir Gâr a Cariad Mr Bustl (Theatr Genedlaethol Cymru), The Harri-Parris: The Big Day (Canolfan Celfydydau Chapter), Corilan/us (National Theatre Wales), Deep Cut (Tricycle & Traverse Theatres a thaith), The Importance of Being Earnest (Mappa Mundi), Amazing Grace (Wales Theatre Company), Noye’s Fludde (Hermiola Young Musicians), Siwan a Punishment Without Revenge (Theatr Gwynedd), August (Clwyd Theatre Cymru) a Hamlet (Theatrig Theatre Company). Mae ei chredydau teledu yn cynnwys: Gwaith/ Cartref , Sioe Caryl Parry Jones a A Small Country (S4C), Stella (Sky), Tir (Joio TV), Ar Y Tracs (Tidy Productions), Eros Unleashed (ITV Cymru), Jennie Y Daith Anorfod/The Jennie Project (Cambrensis), A470 (ITV Cymru/S4C), Mine All Mine (Red Productions/ITV), Llafur Cariend (Taliesen Films), Electra (Dubrovnic Theatre Festival), A Mind To Kill (Lluniau Lliw), O’r Grand (Teledu Daffodil), Rhian Xmas Show (Ffilmiau Elidir) a Pobol Y Cwm (Teledu BBC). Mae ei chredydau ffilm yn cynnwys: The Black Dog a August.

Mae credydau llwyfan diweddar yr aelod o’r cast Dan Rochford yn cynnwys Dean yn nau bennod o Hinterland/Y Gwyll arobryn, Guy yn ffilm enillydd Gwobr Iris Tim Marshall Followers, ac yn ddiweddar mae wedi ymddangos yn Gwaith/Cartref a Pobol Y Cwm. Mae Dan yn ddrymiwr talentog ac mae wedi recordio a chwarae gyda llawer o fandiau a chynyrchiadau theatr dros y blynyddoedd.

Ers pedair blynedd, mae’r aelod o’r cast Rhys ap Trefor wedi bod yn chwarae rhan Simon yn Gwaith/Cartref (S4C). Bydd hefyd yn ymddangos yng nghyfres nesaf Hinterland (S4C) yn hwyrach eleni. Mae Rhys wedi gweithio ar lawer o gynyrchiadau theatr gyda’r awdur/cyfarwyddwr Sera Moore Williams yn Theatr Arad Goch, a hefyd gyda Hijinx Theatre, Caerydd. Mae ei gredydau teledu eraill yn cynnwys: Istanbwl a Talcen Caled (S4C), Pobol y Cwm (BBC Cymru) a Belonging (BBC Cymru). Yn fwy diweddar, mae wedi chwarae Prys ar Frys, y ditectif di-ofal yn y gyfres fywiog i blant Llan-ar-goll-en (S4C). Pan nad yw’n gweithio, mae Rhys yn adeiladu bydoedd newydd, yn lladd sombîs ac yn bwyta cacen ar Minecraft gyda’i fab Twm.

Hyfdorddodd yr aelod o’r cast Oliver Wood fel actor yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae ei gredydau llwyfan yn cynnwys: Adventures in the Skin Trade (Theatr Iolo), The Future for Beginners (Live Arts Show), A High Street Odyssey (Inspector Sands), My Life In CIA a Rude (Give It A Name), The Bloody Ballad and Apparitions of Spirits (Gagglebabble), The Village Social a A Good Night Out in the Valleys (National Theatre Wales), Cinderella a Dick Whittington (Torch Theatre), Sleeping Beauty (New Wolsey Theatre), Fiddler on the Roof (Canolfan Celfyddydau Aberystwyth), The Merchant of Venice, Twelfth Night a Cymbeline (The Wales Theatre Company), Shadow Of A Boy a Waves In The Chatroom (Theatr y Sherman), Electricity (West Yorkshire Playhouse), The Owl Service (Theatre Royal Plymouth) a Romeo and Juliet (English Touring Theatre). Mae ei gredydau teledu yn cynnwys: Tati’s Hotel (ITV), Crash, Green Green Grass, High Hopes a Belonging (BBC).

 

Dydd Mawrth 31 Mawrth-dydd Sadwrn 4 Ebrill, 8pm

Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd

Swyddfa docynnau: 029 2030 4400 / www.chapter.org

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma