Yr Hammers yn bwrw gobeithion Caerdydd

11 Ionawr 2014

Caerdydd 0 West Ham 2

Adroddiad Gwenda Richards

Roedd na awyrgylch sbesial yn Stadiwm Caerdydd cyn gêm yr Adar Gleision yn erbyn West Ham gyda’r rheolwr newydd Ole Gunnar Solskjaer yn anerch y dorf yn yr heulwen cyn y gic gyntaf. Roedd pawb hefyd yn cofio’r cweir diweddar gafodd yr Hammers yn ei ddwy gêm olaf. Felly roedd hi’n argoelu’n dda i Gaerdydd. Ond….

DSC_0377

Y ddau dîm yn chwarae dros y rheolwyr

Cafwyd gôl ym mhob hanner i’r ymwelwyr, yn ddigon i gadw Sam Allardyce yn ei swydd am y tro ond yn golygu fod Caerdydd yn syrthio i un o’r tri tîm ar waelod yr Uwchgynghrair, ac yn fwy poenus,  o dan West Ham yn y tabl. Nid dyma’r canlyniad oedd Ole y rheolwr newydd wedi’i obeithio am ei gêm gartref gyntaf.

Roedd llawer yn dibynnu ar y canlyniad heddiw. Roedd na bwyntiau prin yn y fantol; mond un gêm mae Caerdydd wedi ennill yn y 11 gêm ddiwethaf yn yr Uwchgynghrair felly roedden nhw am ddangos i’w rheolwr newydd fod na tro ar fyd.

Ar ddechrau’r hanner cyntaf roedd hi’n amlwg fod pawb ar bigau’r drain – llawer o gamgymeriadau ond digon o bethau yn digwydd ym mhob cwrt cosbi. Yn anffodus gafodd Guy Demel anaf wrth fynd am beniad gyda Frazier Campbell. Stopiodd y gêm am ddeng munud wrth iddo dderbyn triniaeth.  George McCartney ddaeth ymlaen yn ei le.

Carlton Cole yn sgorio gôl gyntaf West Ham

Carlton Cole yn sgorio gôl gyntaf West Ham

Daeth y gôl gyntaf ar ôl deugain munud wedi i amddiffynwyr Caerdydd fethu canolbwyntio. Pasiodd Matt Taylor ar draws y cae i Matt Jarvis ar yr asgell dde. Tarodd groesiad ar draws y gôl a dyna roedd Carlton Cole yn disgwyl yn eiddgar ac fe saethodd yntai yn syth at y gôl.

Roedd Caerdydd yn cadw ati i ymosod, gyda Craig Noone unwaith eto yn rhedeg at y gwrthwynebwyr fel winci. Cafodd ei ergyd ar yr ochr chwith ei flocio.  Aeth peniad Mark Hudson, nôl fel capten wedi cyfnod ar y fainc, ymhell dros y bar.

Steve Caulker yn dod yn agos

Steve Caulker yn dod yn agos

Gallech chi ddim feirniadu’r Adar Gleision am ddiffyg ymdrech oherwydd fe gafon nhw  fwy o’r bêl a mwy o ergydion ar y targed, ond yn anffodus, roedd llawer o’r ergydion yn mynd yn syth at Adrian, gôl geidwad West Ham. Ar ddiwrnod arall falle bydde rhain wedi ffeindio’r rhwyd – ond felna mae.

Roedd yr ail hanner yn gyffroes dros ben, yn enwedig pan ddaeth Craig Bellamy ymlaen yn lle Peter Odemwingie.

Bellamy yn ysbrydoli

Bellamy yn ysbrydoli

Cyflymodd pethau gyda Kim Bo, Noone ag yntau yn ymosod ond cadarn oedd amddiffyn West Ham. Saethodd Peter Whittingham, Frazier Campbell a hyd yn oed Gary Medel at y gôl ond roedd chwaraewyr West Ham yno i’w rhwystro. Aeth pethau’n fler gyda James Tomkins  yn cael cerdyn goch am gicio Campbell. Fe welon ni Magnus Wolff Eikrem yn dod ymlaen yn lle Medel, ac fe gafodd bedydd tân ym merw’r chwarae gan dderbyn pas gan Kim Bo a saethu, mond i weld unwaith eto y bêl yn syrthio i ddwylo Adrian.

Roedd pawb yn sicr y bydde gôl yn dod – ond nid i dîm o ddeg dyn. Daliodd Andy Carroll y bêl yn ddigon hir i adael i Mark Noble drwodd i saethu ar yr ochr dde. Yn y byr dymor dyw pethau ddim yn edrych yn dda, gyda siwrne i Fanceinion yr wythnos nesa i wynebu City.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma