Yr Adarwr Dinesig: Y Dylluan Sbwriel

6 Mai 2016

Nid sbwriel yn unig sydd yn nhomen y dre, fel gwnaeth Dylan Foster Evans ddarganfod ….

Dechrau’r gwanwyn yw’r amser gorau i glirio a gwaredu, fel y gŵyr pawb. Gorchwyl diflas, er bod gweld y bin ailgylchu yn graddol lenwi yn magu rhyw hunanfoddhad deublyg.

Ond mae tomen arall yn ymgasglu – nid pob dim a aiff i’r bagiau gwyrdd. Does dim amdani ond ymweld ag un gyfleusterau casglu sbwriel y Cyngor: Bessemer Close, Wedal Road neu Lamby Way.

A’r mwyaf o’r rhain yw tomen sbwriel Lamby Way. Heddiw, ar fore gaeafol, mae mynd a dod rhyfeddol yno. Ceir, tryciau, lorïau, jaciau-codi-baw … a thylluan.

Cefais gip arni’n gyntaf drwy gornel fy llygaid.

Aderyn tywodlyd ag adenydd llydan. Rhy dywyll i fod yn wylan, rhy olau i fod yn fwncath. Ond diflannodd y tu ôl i’r gwrych cyn imi gael golwg iawn.

Amynedd, felly.

O fewn munud hedfanodd brân dyddyn i lawr o’r domen sbwriel ac y tu ôl i’r gwrych. Allan o’i chuddfan y daeth yr aderyn arall a throi’n gywrain yn yr awyr wrth i’r frân fynd amdani.

© Jeff Slocombe

© Jeff Slocombe

Y tro hwn fe’i gwelais yn iawn: rhan uchaf ei chorff yn frith-frown ac o dan ei hadenydd yn olau—y lliw a oedd wedi dal fy llygaid yn y lle cyntaf—ac eithrio blaenau’r prif blu a marc du fel coma yn nes at ei chorff.

Tylluan glustiog.

Nesaf at y frân roedd yn syndod mor fychan yr ymddangosai. Gyda’i hadenydd llydan golau a’i dull herciog o hedfan roedd fel gwyfyn enfawr.

Cofiais wedyn nad nepell o’r domen sbwriel y gwelais fy nhylluan glustiog ddinesig gyntaf – ar y morglawdd ger Glanfa Fawr Rhymni.

Cododd y dylluan honno o’r llawr yn ddirybudd o’m blaen. A’r un foment, saethodd hebog tramor o’r awyr tuag ati.

Troes y dylluan o gyrraedd y crafangau ar yr eiliad olaf. Cael a chael. Bywyd anodd sydd i’r tylluanod yn y gornel hon o Gaerdydd.

Mae llefydd gwaeth o lawer i fynd am dro nag ar hyd ymylon tomen sbwriel Lamby Way. Ar y domen honno y gwelais yr unig ysgyfarnog imi ei gweld yn y ddinas.

© Jeff Slocombe

© Jeff Slocombe

O Lamby Way mae llwybr yn cydredeg â Ffos Cors y Crychydd hyd at y morglawdd a Glanfa Fawr Rhymni. Mae’r ffos yn eang – digon mawr heddiw ar gyfer dau bâr o elyrch dof, ynghyd ag ieir dŵr, cwtieir ac un wyach fach. O’r morglawdd mae modd edrych allan dros y fflatiau llaid llanw.

Ond byd arall yw hwnnw.

Dylan Foster Evans (@diferionDFE)

Gyda diolch i Jeff Slocombe am y lluniau. 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma