Yr Adarwr Dinesig: Telor Cetti

20 Ebrill 2015

Y gyntaf mewn cyfres o golofnau achlysurol gan Dylan Foster Evans

Dechreuaf â rhybudd bach – peidiwch â disgwyl trafodaethau arbenigol am adar yn y golofn hon. Ond ni ddylai hynny fod yn broblem ichi. Rydym yn ffodus iawn fel Cymry Cymraeg fod gennym gynifer o arbenigwyr go iawn sy’n ysgrifennu a darlledu’n ddeallus a difyr am adar – pobl fel Iolo Williams, Daniel Jenkins-Jones o’r RSPB a Kelvin Jones o BTO Cymru.

Nid oes angen imi geisio cystadlu â nhw, diolch i’r drefn.

Na, fy mwriad yn y golofn hon yw troi natur amaturaidd fy ngwybodaeth yn rhinwedd o fath. Rwyf am geisio ysgrifennu am adar mewn ffordd na fydd yn gofyn am fawr ddim ymdrech nac amser ar fy rhan.

Telor Cetti ym Mae Caerdydd – llun @CardiffBirder

Am amryw byd o resymau, ni allaf godi yn y boreau bach i chwilio am yr adar mudol diweddaraf i gyrraedd ein glannau. Ac yn sicr nid oes gennyf yr wybodaeth angenrheidiol i ganfod gwylan brin ymhlith y miloedd sy’n cronni ar domen sbwriel enfawr Lamby Way, fel y gall sawl un y gwn amdano.

Yn hytrach, rwyf am ysgrifennu am adar o safbwynt un na fydd ond yn adarydda’n ysbeidiol iawn. Ond ni fyddaf yn ysgrifennu fel un sy’n anwybodus am adar, chwaith. Fel miloedd eraill o’m cenhedlaeth, bûm yn aelod bach brwd o’r YOC (y Young Ornithologists Club) yn y 1980au, ac mae gennyf wybodaeth gyffredinol weddol eang am ein cyfeillion pluog.

Ond at ei gilydd, cyffredinol yw’r gair.

Rwyf am geisio cadw at un rheol benodol yn y golofn, sef ysgrifennu am adar yng Nghaerdydd a’r Fro yn unig. Nid yw adar yn parchu ffiniau, wrth gwrs, ond rwyf innau am geisio gwneud hynny y gorau y gallaf. Ac rwyf am geisio sôn am yr adar sydd i’w gweld yn yr ardaloedd dinesig ac nid yn y parciau a’r maestrefi deiliog yn unig.

Felly fe ddechreuaf ag aderyn a welais dros y Pasg yn Grangetown. Neu, a bod yn fanwl gywir, ag aderyn na welais yn Grangetown.

Er treulio hanner awr yn craffu ar y man y gwyddwn ei fod yn llechu, ni welais ddim pluen ohono. Mae’r methiant hwnnw yn cadarnhau fy statws amaturaidd. Ond roedd gennyf ddigon o wybodaeth i adnabod yr aderyn hwn wrth ei gân gan fy mod wedi ei glywed sawl gwaith o’r blaen.

Cerdded ar lan afon Taf yng ngwaelodion Grangetown ger Pont Clarence Road yr oeddwn pan glywais y ffrwydriad o gân fer, frwdfrydig, swnllyd. Wedi munud neu ddau o dawelwch dyna hi eto – datganiad brysiog, egnïol a … swnllyd.

Telor Cetti ym Mae Caerdydd – llun @CardiffBirder

Nid oes ond un aderyn y gwn amdano â chân fel yna, sef telor Cetti (Cettia cetti). Mae’r enw yn un egsotig, a than yn ddiweddar felly hefyd yr oedd yr aderyn, o leiaf i ni yng Nghymru.

Nid tan Hydref 1973 y gwelwyd y telor Cetti cyntaf yng Nghymru. (Roedd hynny, fel mae’n digwydd, lai na dau fis cyn y’m gwelwyd innau am y tro cyntaf yng Nghymru, neu mewn unrhyw le arall o ran hynny.) Aderyn gwledydd cynhesach Ewrop oedd y telor hwn cyn hynny. Ond yn raddol bach mae telor Cetti wedi ymledu drwy’r wlad, i ble bynnag y mae yna dir gwlyb, corsiog, gyda digon o frwgaits a chyrs.

O gilcyn bach felly o dir ar lan afon Taf y clywais y gân, felly doedd dim dwywaith pwy oedd ei pherchennog.

Nid yw telor Cetti yn aderyn swil fel y cyfryw, ond mae’n hoff o lercian a llechu mewn tyfiant trwchus, a methais ei weld y tro hwn. Ond ambell dro mae modd cael golwg arbennig o dda arno – hoff gan rai ei gymharu â dryw bach mawr, fel petai. Ac yn sicr mae’n debyg i’r dryw o ran ei allu i gynhyrchu cân ryfeddol o bwerus.

Ymhlith y llefydd gorau i’w weld yn yr ardal y mae Gwarchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd a Llynnoedd Cosmeston. Crwydryn o’r Bae oedd yr aderyn yn y Grange, dybiwn i.

Ond adnabod ei gân yw’r ffordd orau o ddod o hyd i delor Cetti, a enwyd ar ôl Francesco Cetti, naturiaethwr o Eidalwr o’r ddeunawfed ganrif. Dyma raglen dau funud o’r gyfres ‘Tweet of the Day’ ar Radio 4 i’ch rhoi ar ben ffordd.

Glwyptiroedd Bae Caerdydd – llun @CardiffBirder

Rhowch wybod os clywch un y tro nesaf ichi fynd am dro i lawr i’r Bae.

Dylan Foster Evans (@diferionDFE)

Nodyn gan y golygydd: er bod Dylan wedi methu gweld telor Cetti – y tro yma, ta beth! – mae Pobl Caerdydd wedi llwyddo cael gafael ar luniau o’r creadur bach yn y gwlyptiroedd, diolch i Peter Howlett (@CardiffBirder). Dal ati, Dylan!

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma