Ymgyrch TAG: cyflwyno cwynion i Gomisiynwyr

2 Rhagfyr 2013

Mae aelodau Ymgyrch TAG, sy’n galw am sefydlu Ysgol Gymraeg yn Grangetown, wedi cyflwyno cwynion swyddogol am Gyngor Caerdydd i sylw’r Comisiynydd Plant, Comisiynydd Cydraddoleb a Hawliau Dynol a Chomisiynydd y Gymraeg.

Yn eu gohebiaeth mae’r Ymgyrch yn gofyn i’r Comisiynwyr ddefnyddio eu pwerau statudol er mwyn ymchwilio ac ymyrryd i fethiant Cyngor Caerdydd i adeiladu’r ysgol er fod y cynlluniau wedi derbyn sêl bendith y Llywodraeth ac arian cyfalaf wedi’i glustnodi ar ei chyfer. Mae’r ymgyrch yn hawlio bod hyn yn groes i ddeddfwriaeth cydraddoldeb, Mesur y Gymraeg a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Meddai Dr Dyfed Wyn Huws, cyd-gadeirydd Ymgyrch TAG:

“Mae’r ymgyrch wedi mynegi pryder sylfaenol ynglŷn â’r penderfyniad, nid yn yn unig am ei fod yn milwrio’n erbyn deddfwriaeth gyfredol, ond hefyd am y modd mae’r Cyngor wedi delio â’r holl broses – yn benodol sut mae’r Cabinet a’r swyddogion addysg yn fwriadol wedi trîn yr iaith Gymraeg yn wahanol ac yn anghydradd â’r Saesneg er mwyn cyfiawnhau peidio adeiladu’r ysgol. Cyfyd hyn gwestiynau mawr o ran dulliau gweithredu a dilyn prosesau cywir a phriodol.

“O safbwynt cynllunio startegol, mae bwriad y Cyngor i gronni addysg Gymraeg mewn un cornel o un ward mewn ychydig o ysgolion orlawn, gan amddifadu gweddill y ward ac ardaloedd cyfagos o fynediad hwylus at addysg Gymraeg yn gwbl ddiffygiol. Mae penderfyniad y Cyngor yn golygu na fedra plant amlethnig ardaloedd di-freintiedig Grangetown aThrebiwt fynychu ysgol Gymraeg yn eu cymuned. Nid yw gweledigaeth y Cyngor o ‘ysgolion lleol i blant lleol’ yn berthnasol i addysg Gymraeg, yn wir, mae’r Cyfarwyddwr Addysg wedi datgan ar goedd fod rhaid i blant mewn addysg Gymraeg dderbyn diffiniad gwahanol o gymuned. Ni roddodd unrhyw enghraifft eraill o wasanaethau cymunedol lle diffiniwyd ‘cymuned’ mewn ystyr mor eang. Mae’n ein synnu a’n tristau bod y Cyngor yn gwahaniaethu rhwng plant mewn addysg Gymraeg a phlant eraill mewn modd mor amrwd. Mae polisi clir o gamwahaniaethu yn erbyn y Gymraeg yma.”

Ychwanegodd Jo Beavan Matcher, cyd-gadeirydd Ymgyrch TAG:

“Rydym wedi ysgrifennu at y Comisiynydd Plant fel eiriolwr dros hawliau plant yng Nghymru, gan ein bod o’r farn fod y cyngor yn gweithredu’n groes i nifer o erthyglau Confensiwn y Cenedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Amcan y Confensiwn yw diogelu hunaniaeth plentyn, gan gynnwys cenedligrwydd, yr hawl i chwarae a chyfranogi mewn gweithgareddau hamdden a diwylliannol, yn ogystal â chydnabod fod cymuned yn nodwedd allweddol i iaith leiafrifol.

“Trwy wrthod adeiladu’r ysgol credwn nad yw Cyngor Caerdydd yn cefnogi hawliau plant yn yr ardaloedd hyn i dderbyn, dysgu a defnyddio eu hiaith frodorol a chenedlaethol, ac i wneud hynny o fewn eu cymuned leol. Mae plant Grangetown a Thre-biwt sy’n gorfod teithio allan o’u cymuned i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg ar hyn o bryd yn colli cyfleodd a phrofiadau amhrisiadwy fyddai’n cyfoethogi eu bywydau. Mae’r Cyngor yn colli cyfle i weithredu’n gadarnhaol er mwyn dod a’r Gymraeg yn nes at blant a theuluoedd Grangetown.”

Am fwy o wybodaeth am Ymgyrch TAG, cliciwch yma.

@YmgyrchTAG

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma