Y Llyfrgell: Catrin Stewart yn serenu – ddwywaith.

26 Awst 2016

Yikes.

Mae hwn yn un mawr.

Y Llyfrgell, ddim llai, sef ffilm wedi ei gyfarwyddo gan Euros Lyn (Dr Who, Sherlock, Belonging) ar sail y nofel gan Fflur Dafydd (nofel a enillodd i’r awdures Wobr Goffa Daniel Owen yn 2009). A dyma ddiolch i S4C, Ffilm Cymru a llu o gyrff eraill am ei ariannu.

Ddim yn aml y cawn weld cynhyrchu ffilm go iawn, yn Gymraeg. Wedi’r cyfan, sawl ffilm o’r fath a wyddoch chi amdanynt, ers rhyddhau’r un gyntaf (sef y Chwarelwr) yn 1935?

‘Roedd yna rhywfaint o densiwn a nerfusrwydd, felly, ymhlith y criw a aeth i weld noson gynta’r ffilm (yng Nghymru) yn Sinema Baker Street, yn y Fenni, adeg yr Eisteddfod. Pawb, fel petai, yn gobeithio am y gorau – ac yn awyddus i fwynhau’r ffilm a oedd (yn ol Fflur) yn ‘ddadansoddiad’ o’r llyfr.

Eisteddais innau yn eu plith, ar fy soffa symudol awtomatig.

Nawr, gan fy mod yn weddol chafaidd – ac yn un sy’n hollol ddieithr i’n diwylliant lenyddol Cymraeg (y peth olaf i mi ei ddarllen oedd Y Blaned Dirion yn 1968 – chwip o lyfr), nid oeddwn wedi darllen Y Llyfrgell. Beth fydd hwn felly? Drama? Ffilm arswyd? Thriler seicolegol? Stori am drosedd? Rom-com?

‘Dwi dal ddim yn siwr – ond mae’n sicr yn ffilm i’w fwynhau – ac yn un sy’n troi yn eich meddwl yn bell ar ol ei gwylio.

Cryfder amlwg y ffilm (heblaw’r cyfarwyddo crefftus a soffistigedig) yw perfformiad Catrin Stewart (Stella, Dr Who). Hi sy’n chwarae’r ddwy efeilles, Ana a Nan, sy’n ganolog i’r stori. A, iesgob, dyma berfformiad yw hwn! Llwyddodd i gyflwyno’r ddwy chwaer fel dau berson unfath o ran golwg, ond gyda gwahaniaethau bach, cyfrwys a chlyfar, o ran eu cymeriadau. Ychwanegwch at hyn y sgiliau technolegol a lwyddodd i’w dangos hi ar y sgrin ochr-yn-ochr, heb ddangos y gwaith asio, ac mae gennych gynhyrchiad sy’n wledd i’r llygad.

Yn Nan, yn enwedig, cawsom gymeriad rhywiol, savvy a rheibus. Mae’n anodd i mi anghofio’r golygfeydd ohoni yn cerdded, fel cath yn hela, drwy goridorau’r Llyfrgell yn ei sgert ddu, blows coch a’i sodlau uchel du. (A mawr ddiolch i Euros, gyda llaw, am yr olygfa o’r ddwy chwaer yn y bath. Mae negeseuon, fel hyn, am bwysigrwydd glendid personol yn werth eu cael).

A dal i ddatblygu wnaeth cymeriadau Ana a Nan drwy gydol y ffilm. Beth oeddent? Craff? Gwallgof? Drwg? Cyfiawn? Angheuol? Wedi eu niweidio? Ychydig o’r cyfan, efallai. Hollol wych.

Ac wedyn y Llyfrgell ei hunan. Pwy feddyliai fod modd i adeilad fod yn seren mewn ffilm? Fe lwyddodd Euros i rhoi cymeriad a bywyd i’r hen adeilad nad sy’n amlwg (gobeithio) i’r rheini sy’n mynd yno i weithio bob dydd. Fe ddangoswyd i ni sut gall ambell i ystafell gynnig ei hun fel lleoliad perffaith ar gyfer cynnal erchyllterau. Fel sawl adeilad arall yn y byd, mae ‘na ‘stafelloded yn y Llyfrgell Genedlaethol sy’n well i’w hosgoi.

Perffaith, hefyd, oedd Dyfan Dwyfor, fel y swyddog diogelwch haerllug (Dan), sy’n ffond o’i ganabis, ond ddim mor ffond o unrhyw fath o awdurdod. Gyda rol ddigon cymhleth i’w berfformio, fe lwyddodd i droedio’r llwybr cywir rhwng comedi, arswyd ac arwriaeth.

Hilariws iawn oedd Carwyn Glyn, fel y swyddog bach tew, di-glem, a welsom yn mwynhau’r pornograffi a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Lol, yn hapus ddyddiau’r saithdegau.

Tyner oedd perfformiad Sharon Morgan, fel mam Ana a Nan.

A digon cymhleth a throellog oedd y plot a glymai’r holl gymeriadau gyda’i gilydd. Mae angen canolbwyntio, wrth wylio hwn – a chwilio am y cliwiau a fydd yn eich helpu ar hyd y daith i ddatrys cyfrinach y Llyfrgell. Ar adegau, fodd bynnag, (gormod, efallai) mae ‘na ofyn i chi dderbyn sefyllfaeodd sydd rhywfaint yn anghredadwy.

Os oes unrhyw feirniadaeth o bwys, yna (yn anffodus) perfformiad Ryland Teifi (Eben) oedd y man gwan. Goractio oedd ei broblem – gyda symudiadau ac ochneidiau wedi eu gorliwio, ac ystumiau ailadroddus yn gwanhau ei berfformiad – fel gwestai digroeso sy’n gwrthod gadael. ‘Roedd arwyddocad ychwanegol i hyn, yn anffodus, gan fod gymaint o densiwn y ffilm yn troi o gwmpas ei gymeriad.

Er hynny, mae hon yn ffilm sydd, heb unrhyw amheuaeth, yn werth ei gweld. Mae ynddi stori diddorol a pherfformiadau gwych. Mae’n bwydo’r meddwl. Mae’n soffistigedig. Ac mae’n gadael ambell i gwestiwn heb eu hateb – fel y dylai.

Yn wir, ‘rwyf am ei gweld eto, rhag ofn i mi golli ambell i gliw y tro cyntaf.

Naw a hanner allan o ddeg.

 

Nodyn: Mae’r uchod yn gopi o erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma