Y Gymraeg yn niweidiol i Gymru, medd cynghorydd Penarth

9 Mehefin 2014

Mae un o gynghorwyr y Blaid Lafur ym Mhenarth wedi tynnu nyth cacwn am ei ben gyda’i sylwadau wrth Gymraeg.

Mewn cyfarfod o Gyngor Tref Penarth yr wythnos hon, fe ddwedodd y Cynghorydd Gwyn Roberts nad oedd angen datblygu’r iaith Gymraeg ym Mhenarth.

Cyng. Gwyn Roberts

Cyng. Gwyn Roberts

Roedd pwyllgor polisi’r cyngor yn trafod cais gan Menter Bro Morgannwg am gymorth ariannol ar gyfer Gwyl Fach y Fro ar ddiwedd yr hâf.

Ymateb

Heddiw , mewn llythyr agored at y cynghorydd fe ddwedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr Menter Bro Morgannwg ei bod yn siomedig iawn gyda sylwadau Mr Roberts.

We are deeply concerned that your comments as an elected councillor, if taken seriously, could have a detrimental effect  on the development of the Welsh language on the Vale when all other parties, including the Welsh Government and the Council are working together  for the same common goal- which is to raise the profile and strengthen the status of the Welsh language within the county.

Fe ychwanegodd y byddai Menter Bro Morgannwg  yn croesawi’r cyfle i gyfarfod i drafod  sut y gallai’r Gymraeg fod o fudd i bobl Penarth.

Yn ôl stori a gyhoeddwyd ar wefan Penarth News roedd y cadeirydd Mike Cuddy  wedi gofyn a oedd y pwyllgor yn gytun i gefnogi’r fenter. Anghytunodd  y Cyng. Roberts (Llafur, St Augustine)gan ddweud fod y cais yn dyblygu ceisiadau eraill gan fudiadau tebyg megis yr Urdd a’r Steddfod Genedlaethol. Fyddai’n well ganddo gefnogi mudiadau lleol oedd yn cyfrannu’n uniongyrchol i Benarth. Ychwanegodd ei fod o’r farn fod Penarth yn dref Seisnig :” I don’t feel we actually have need to develop the Welsh language further here,” meddai.

Pleidleisiodd pawb ond y Cyng Roberts o blaid cais Menter Bro Morgannwg ond fe ddwedodd petai gan yr aelodau ”a couple of hours to spare” bydde fe’n traethu am ”the Welsh language and the damage it does to Wales.

Mae cynghorau eraill y Fro, gan gynnwys Dinas Powys,  wedi cefnogi’r wŷl gyda cyngor Tref y Barri yn cyfrannu pum can punt.

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

janet evans yn dweud:

Dyna biti bod yr hen ddadl hon yn codi ei phen eto. Dylid annog y cynghorydd o dan sylw I ymweld a’r Ysgol Gymraeg leol, lle mae cannoedd o blant yn derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg. Anwybodaeth yn arwain at anhegwch. Yr Hen Lafur….. I’m a Welshman but…… Gwarthus!