Y Gorau o Ewrop i Gaerdydd

25 Chwefror 2015

Awydd i ganfod a dod â’r gorau o ffasiwn Ewropeaidd i Gymru yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i Kiti, boutique newydd yng nghanol ardal Pontcanna yng Nghaerdydd. Fe fydd Kiti yn agor i’rcyhoedd am 10 y bore ar ddydd Sadwrn 28 Chwefror, 2015.

Mae gan y perchennog Gwenno Penrhyn, a enwebwyd gan Bafta Cymru am ei gwaith coluro, llygad am ffasiwn. Teithiodd yn helaeth â gwaith, yn enwedig Llundain ac Awstralia, ac yn caru dod o hyd i ddarnau diddorol i’w gwisgo mewn siopau boutique. Fodd bynnag, y rhwystredigaeth o fethu dod o hyd i’r un brandiau Ewropeaidd yng Nghymru arweiniodd iddi chwilio am y dylunwyr ei hun. Mae llawer o’r brandiau a ddewiswyd ganddi ar gyfer yr boutique newydd yn newydd i Gymru ac unigryw i Kiti yng Nghaerdydd.

Bydd Kiti yn stocio casgliadau allweddol Gwanwyn Haf 2015 nifer o ddylunwyr Ewropeaidd blaenllaw gan gynnwys Pomandère o’r Eidal, brand Daneg Custom made a Laurence Dolige o Rouen yn Ffrainc. Mae’r brandiau eraill ar werth yn cynnwys Alpha Stiwdio, Leon & Harper, Mother Denim, James Jeans, Rabens Salamer, Sita Murt, Stella Nova, Swildens a Ya Ya.

Dywedodd Gwenno Penrhyn, “Mae Kiti yn falch o fod yn wahanol ac rwy’n edrych ymlaen at arddangos y labeli Ewropeaidd gorau mewn gofod cyfoes fel dim arall yng Nghaerdydd.

“Mae pob un o’r darnau wedi eu curadu’n unigol, ac yr wyf yn hoffi meddwl fod  ffasiwn Kiti yn fenywaidd, modern a chlasur eu hapêl ac wedi ei gynllunio i greu cwpwrdd dillad fforddiadwy a hygyrch ar gyfer pob achlysur.”

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma