Y Crwys yn Holi Aelodau

25 Tachwedd 2015

Mae Eglwys y Crwys wedi cymryd cam anarferol i gapel, a danfon holiadur at aelodau i ofyn barn a magu dealltwriaeth ddyfnach o aelodaeth y capel, a meithrin gweledigaeth newydd ar gyfer y dyfodol. Mae Thomas Williams yn esbonio rhagor.

Thomas Williams

Thomas Williams

Wrth edrych tua’r dyfodol, rydyn ni’n wrthi’n llunio strategaeth yn Eglwys y Crwys gyda’r bwriad o ddiogelu’r pethau da’r gorffennol a  hynny gan feithrin gweledigaeth newydd gyffrous a fydd yn dod a ni yn agosach at ein gilydd  o fewn ein heglwys a hefyd yn agosach at ein chwaer eglwysi.

Bwriad y weledigaeth yw cau’r gagendor rhwng y rhai ieuangaf a’r hynaf sydd yn mynychu ein capel neu yn ymwneud a’u gwaith.

Mae pwysau a gofyn cynyddol ar amser ein pobl ifanc a hefyd ar oedolion oedran gwaith. Mae cymaint o weithgareddau apelgar a chyfryngau o bob math a channoedd o sianeli teledu yn ceisio eu sylw a hynny ym mhob rhan a man o’u bywydau.

Wrth gynyddu cyfryngau mae nifer o ‘ddefnyddwyr’ sydd ond yn defnyddio un cyfrwng yn naturiol yn lleihau. Felly ceir nifer o grwpiau yn ymgiprys am sylw ein pobl ifanc a’u rhieni:  y siopau, chwaraeon, a hefyd sefydliadau sydd yn agos at galon y gymuned Gymraeg  sef yr Urdd a’r mentrau iaith.

Er mwyn gwneud hynny mae gofyn fod y grwpiau hynny yn ceisio ein sylw hefyd a hynny fwyfwy ar draws ystod eang o gyfryngau ein cymdeithas.

Yn yr un modd mae gofyn inni yn ein capeli brofi a mentro dulliau newydd ar draws pob cyfrwng i roi cyfle i’r ifanc brofi bendithion y cyfle i ymdawelu a chynnig llwyfan i faterion ysbrydol.

Mae’n hawdd gweld sefyllfa dirywiad ysbrydol a niferoedd yn ein capeli fel argyfwng ond dylid ei weld fel her a chyfle. Yn wir nid oes dim yn newydd yn hyn o beth o gofio arweinwyr ysbrydol a diwygwyr blaengar gorffennol Cymru.

Y cam cyntaf yn wastad wrth geisio adfywiad yw ceisio dod i nabod a deall ein pobl yn well, yn gyntaf o fewn ein capeli ac yna oddi allan.

Eglwys y Crwys Capel

Eglwys y Crwys, Heol Richmond

Mae ein strategaeth yn datblygu o fewn y Crwys gyda’r union fwriad hynny gan ganolbwyntio ar ein hadnoddau gorau sef yr aelodau a charedigion y capel. Mae pob aelod o’n capel bellach wedi derbyn holiadur ar gyfer mynegi eu barn a’u huchelgais ar gyfer dyfodol gwaith ein capel.

Mae’r broses o asesu’r holiaduron yn gallu ymddangos yn drafferthus ac araf ond mae’r broses a’r atebion yn ddadlennol a diddorol ac yn fodd  inni dyfu yn ein dealltwriaeth o’n gilydd.  Gyda’r gwaith hwn mae modd o gael gwir berthynas a chysylltiad ar draws yr oedrannau.

Fe allwn yna sicrhau ein bod yn parhau yn berthnasol at ofynion a phryderon ein hieuenctid wrth iddyn nhw ddod yn gyflawn aelodau o’n capeli a’r gymdeithas ehangach.

Y bwriad cychwynnol wrth inni fagu cysylltiadau a pherthynas yw  sefydlu ‘alumni’ o fewn yr Eglwys a chyfleoedd i fentora plant neu ieuenctid y Crwys a chynnig arweiniad galwedigaethol ac amgenach i’r ysgol a’r teulu.

Nid pawb sydd yn gallu mynychu capel boed hynny am resymau salwch ymysg y rhai oedrannus neu hefyd oherwydd nifer fawr o  weithgareddau sydd yn ceisio sylw ein pobl ifanc.

Bendith y dechnoleg fodern a’r cyfryngau cymdeithasol yw cynnig cyfleoedd sydd yn llythrennol yn bellgyrhaeddol ac ar gael i bawb beth bynnag yw eu cefndir a’u lleoliad.

Mae ein strategaeth am ofyn gwell defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol. Y nod yw cynnig cyfleoedd i’n pobl ifanc ddarlledu, trafod, cyhoeddi a chymryd rhan yng ngwaith y capel ymhell ac agos, yn ‘fyw’ mewn gwasanaethau neu wedi ei recordio o flaen llaw.

Bydd hyn yn cynnig cyfle i’r ieuenctid a’u rhieni i brofi a rhannu manteision a bendithion gwaith y capel ble bynnag y bônt fel nad yw’r oedfa wastad yn perthyn yn unig i’r Sul ac i leoliad ein hadeilad.

Mae Thomas yn Flaenor yn y Crwys, ac yn arolygu’r Ysgol Sul.  Mae’n dad i ddwy o ferched yn Ysgol Pencae ac yn byw ym Mhontcanna, er mai o Fangor y daw’n wreiddiol.

Os ydych chi’n aelod o’r Crwys a heb dderbyn eich holiadur eto gallwch gysylltu â Thomas drwy e-bostio eglwysycrwys@icloud.com.

[1]

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma