Wythnos Seiclo Pobl Caerdydd: holi Carys Thomas, Sustrans Cymru

13 Rhagfyr 2013

Carys Thomas yw Dirprwy Gyfarwyddwr Sustrans Cymru.

Beth yn union mae Sustrans Cymru yn ei wneud?

Elusen yw Sustrans Cymru sy’n galluogi pobl i deithio ar droed, ar gefn beic neu gyda thrafnidiaeth gyhoeddus am fwy o’r siwrneiau y byddant yn eu gwneud bob dydd. Ry’n ni’n cynnal prosiectiau o fewn ysgolion, gweithleoedd a chymunedau i ysgogi unigolion, teuluoedd a grwpiau i gerdded a seiclo. Ry’n ni hefyd yn gyfrifol am y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, sy’n cynnwys rhwydwaith eang o lwybrau cerdded a seiclo yng Nghymru. Eleni, ar ol chwe mlynedd o ymgyrchu a gwaith polisi, cawsom lwyddiant ar 1af Hydref â’r Ddeddf Teithio Llesol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn darparu gwell lonydd cerdded a seiclo i’w cymunedau. Fe allwch chi ddysgu mwy am ein gwaith dros y DU i gyd, fan hyn: www.sustrans.org.uk  Ry’n ni hefyd ar Twitter yn y Gymraeg: @SustransCymraegSustrans1

Pa fath o waith mae Sustrans Cymru yn ei wneud yng Nghaerdydd?

Ry’n ni’n gweithio gyda nifer o ysgolion yn y brifddinas ac yn darparu gwybodaeth i blant, megis sgiliau seiclo, cyrsiau cynnal a chadw beiciau sylfaenol a chynllunio lonydd. Ry’n ni hefyd yn gweithio’n agos â gweithleoedd i helpu cyflogwyr annog eu staff deithio i’r gwaith mewn ffyrdd cynhaliol – ar drafnidiaeth gyhoeddus, ar feic neu ar droed. Yng Nghaerdydd, mae Sustrans Cymru yn lwcus iawn i gael cymorth gwirfoddolwyr mwya ffantastig, sy wedi ennill gwobr am eu gwaith ardderchog yn clirio llwybrau fel Llwybr y Taf.

Faint o bobl sy’n seiclo yng Nghaerdydd ar hyn o bryd?

Yn ôl Arolwg Holi Caerdydd mae’r nifer o bobl sy’n seiclo i’r gwaith yn y brifddinas wedi cynyddu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf – rhyw 66% i gyd rhwng 2003 a 2013. Roedd ffigurau Cyfrifiad 2011 ychydig llai – gwelwyd cynnydd o 31%.  Mae hyn i gyd yn galanogol iawn ond mae eisiau i ni gofio ry’n ni dal yn siarad am niferoedd isel iawn.

Sut mae’r niferoedd yn cymharu gyda llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig?

Mae Cymru gyfan, ar gyfartaledd, yn is na gweddill y DU – ry’n ni dal yn ddibynnol iawn ar y car – ond yn sicr mae Caerdydd yn gwella fel dinas. Ry’n ni’n bell iawn o fod y Caergrawnt neu Bryste nesaf, ond ry’n ni ar y trywydd iawn.

Beth yw’r brif her/rhwystr er mwyn annog mwy o bobl i seiclo yng Nghaerdydd?

Mae angen i ni gynyddu ein darpariaeth o isadeiledd a llwybrau digoel. Mae Llwybr y Taf yn wirioneddol boblogaidd, ond nid oes isadeiledd cynhwysfawr yng Nghaerdydd, sy’n galluogi seiclwyr i fynd o un pen o’r ddinas i’r llall. Yn anffodus, ry’n ni wedi treulio nifer iawn o flynyddoedd yn cynllunio gyda’r car mewn golwg – nid yn unig yng Nghaerdydd ond dros y DU i gyd. Felly, mae’n her enfawr ond mae’r ewyllwys gwleidyddol yn newid, ac mae’r Cyngor – a Llywodraeth Cymru – yn gwneud gwaith da erbyn hyn. Rwy’n Sustrans2edrych ymlaen i weld effeithiau’r Ddeddf Teithio Llesol yn 2014/2015 a’r Rhwydwaith Seiclo Enfys y Cyngor.

Beth yw’r un peth wyt ti’n meddwl fyddai’n annog mwy o bobl i seiclo? 

Eleni – mis Mawrth – fe wnaethon ni gomisiynu arolwg YouGov i ddadansoddi agweddau pleidleiswyr at seiclo yng Nghymru (holwyd 1,000 o Gymry i gyd). Yn ôl y canlyniadau, yr hyn sy’n poeni rheini sy ddim yn seiclo, yn naturiol ddigon, yw diogelwch. Er mwyn i ni gynyddu y nifer o seiclwyr yng Nghaerdydd, mae angen i ni brofi fod seiclo yn ddiogel. Gyda therfynau 20mya mewn rhai mannau o’r ddinas yn barod a datblygiad Rhwydwaith Seiclo Enfys, rwy’n obeithiol iawn.

Mi wyt ti newydd symud yma i fyw o Ddylun – a oes mwy o bobl yn seiclo yno a pha fath o brofiad yw e?

Mae seiclo yn Nulyn yn brofiad hollol wahanol – mae gan y Gwyddelod yn eu prifddinas diwylliant seiclo. Ry’ch chi’n mynd i’r gwaith yn y bore, a mae miloedd ar y strydoedd.  Ar brydiau, yn enwedig ochrau Grafton St amser Dolig, mae angen ymladd â seiclwyr eraill i gael gafael ar le i gloi’ch beic. Yng Nghaerdydd, dwi’n gweld efallai 15 o seiclwyr ar fy ffordd lawr i’r Bae yn y bore i’r swyddfa. Wrth gwrs, yn 2007, fe wnaeth y Blaid Werdd ffurfio llywodraeth gyda Fianna Fáil. O ganlyniad, fe wnaeth seiclo symud lan yr agenda gwleidyddol a gwelwyd buddsoddiant sylweddol mewn isadeiledd, yr enwog ‘Dublin Bikes’ (system llogi beiciau) a chynllun treth hael yn annog gweithwyr i brynu beiciau.  Mae’n bell o fod yr Amsterdam newydd, ond mae’r ddinas yn filltiroedd o flaen Caerdydd.Sustrans4

Sut fath o brofiad yw seiclo o gwmpas Caerdydd yn dy farn di? Beth yw dy brofiad hyd yn hyn?

Wel, dwi’n caru seiclo, felly dwi’n hapus iawn ar fy meic o amgylch Caerdydd. Mae’n rhad. Mae’n gyflym. Ac yn gret am gadw’r pwyse lawr. Dwi’m yn gweld anfantais i fod yn onest. Yn amlwg, dyw e ddim mor bleserus yng nghanol y traffig fan hyn yng Nghaerdydd, oherwydd mae’r lonydd seiclo yn stopio ganol ffordd neu mae coed/sbwriel ar y ffordd, neu mae pot holes mwya enfawr mewn rhai mannau. Ond dwi’n eithaf profiadol erbyn hyn ac yn hyderus iawn, felly mae seiclo ar y heol (yr unig opsiwn mewn nifer o lefydd) ddim yn codi problem.  Yr hyn sy’n wahanol, efallai, yw agwedd gyrrwyr.  Dy’n nhw ddim yn disgwyl neu’n hoff iawn o seiclwyr ar yr heol. Dwi di cael un dyn yn ymosod arnai ar lafar yn eithaf cas, er gwaetha’r ffaith mai efe oedd ar fai, a dwi erioed wedi cael hynny o’r blaen. Ond dwi’n sicr y bydd hynny’n newid yn y blynyddoedd nesaf.  Dyfal donc!

Ble yw dy hoff le i seiclo yng Nghaerdydd?

Llwybr y Taf a lawr y Bae tuag at Penarth.

sustrans_welsh_RGB colour transparent 2

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma