Wastad ar y Tu Fas: neu jest cyfle am good laugh?

5 Medi 2016

Weithiau, mae modd gwrando ar rhywbeth, heb deimlo eich bod wedi cael gafael ar ysbryd a chalon y darn.

Dyna a ddigwyddodd i mi wrth wrando ar Wastad ar y Tu Fas, sef rhaglen gan Rhys Mwyn yn olrhain hanes rai o’r Cymry Cymraeg fu’n rhan o is-ddiwylliant y Mods yn y chwedegau.

Un peth pwysig am y Mods, wrth gwrs, yw’r ffaith fod cymaint o’r hyn a oedd yn nodweddiadol amdanynt yn dibynnu ar eu hedrychiad. Y dillad, y gwallt, y Parkas a’r Vespas. Mae’n beth anoddach ar y radio, felly, i greu darlun o fyd y bobl ifanc a ddaeth yn rhan o’r is-ddiwylliant hwn. Yn yr un modd, fe fyddai’n anodd i mi ddisgrifio yma waith Miro (heb gynnwys unrhyw luniau) gan greu, ym meddwl y darllenydd, ddarlun clir o waith yr artist o Barcelona.

Ond chwarae teg i Radio Cymru am fynd i’r afael a’r pwnc. Mae’r syniad yn un da – sef edrych ar ddarn o fywyd ein gwlad nad sydd ynghlwm a’r meysydd ‘arferol’ (megis gwleidyddiaeth, hanes, llenyddiaeth, barddoniaeth, amaethyddiaeth, cerddoriaeth ac eisteddfodau). Yn hytrach, dyma gyfle i glywed lleisiau pobl nad sy’n cael eu clywed yn aml ar y cyfryngau Cymraeg.

Bachgen ifanc oeddwn i, yn ystod y chwedegau, yn byw yng Nghaerdydd. Er fy mod yn cofio gweld ambell i skinhead brawychus, nid wyf yn cofio gweld llawer o Mods yng Nghaerdydd (os o gwbl). Ac yn wir i chi, yng Ngogledd Cymru y daeth Rhys o hyd i’w griw o hen Fods i’w holi. A oedd Gogledd Cymru, felly, yn fwy cwl na’r De yn y chwedegau?! Mae’r cwestiwn yn sail ar gyfer PhD i rywun, yn sicr.

Felly dyma Wendy Baker, Vaughan, Frank, Elwyn a ‘Shamrock’, o Glasfryn, Caernarfon, Llangefni, Llanfairfechan a Phenygroes (the only Mod in the village?) yn cael y cyfle, gan Rhys Mwyn, i adrodd eu hanes – ac i fynd a ni yn ol mewn amser, i ddyddiau cyffrous eu harddegau gwyllt. Ac, i gymharu efo acenion cockney Phil Daniels a Toyah Wilcox yn y ffilm Quadrophenia, peth rhyfedd oedd clywed gan Mods a fu’n gwisgo Parkas a gyrru Vespas mewn acen gogleddol.

Cawsom glywed (droeon lawer) am y dillad, y gwallt, y colur a’r Vespas. Ac, wrth gwrs, y miwsig. Ac fe gawsom ddetholiad da iawn, gan Rhys, o gerddoriaeth y Mods (yr Who, y Small Faces, Booker T and the MGs a mwy). Cawsom hanes cynnar y Mods (yr enw’n deillio o ddiddordeb y Mods cyntaf mewn jazz modern) a’r dylanwad arnynt gan ddillad a ffilmiau Ffrenging ac Eidalaidd. Soniwyd am eu dewis o’r Vespas, yn hytrach na beiciau modur, er mwyn sicrhau na fyddai olew’r beic yn difetha’r dillad ffasiynol. Cyfeiriwyd at y ‘pills’ (ond heb esbonio mae amffetaminau oedd y cyffur a ddewisiwyd gan y Mods. ‘Roeddent yn gyfreithlon bryd hynny – ac fe’u dewisiwyd er mwy eu cadw’n effro, ac yn ‘sharp’ – yn hytrach nag er mwyn ‘dianc o’r byd’).

Cawsom glywed am yr ymladd rhwng y Mods a’r Hell’s Angels. Clywsom am y teithiau ar gefn y Vespas, i Rhyl yn bennaf (yn hytrach na Brighton) – gan ddefnyddio’r mapiau a ddosbarthwyd yn rhad ac am ddim gan y Little Chef. A theithio drwy’r glaw am 24 awr i gyrraedd Great Yarmouth – cyn dawnsio drwy’r nos a meddwi. Amser gwych, mae’n debyg – tra’n teimlo’n rhan o rhywbeth pwysig.

Ond prin oedd y lleisiau gwir ddiddorol neu ddadlennol. Heblaw am y dillad, y miwsig a’r Vespas, methais a chael gafael ar beth, yn union, oedd y berthynas rhwng y Mods o Ogledd Cymru a’u cymdeithas – a beth, yn eu tyb hwy, oedd y pwynt o fod yn Mod.

Wastad ar y tu fas? Tu fas i beth? A sut? Ni ddywedwyd wrthym.

Ar y llaw arall, efallai fod teitl y rhaglen ychydig yn gamarweiniol – a fod bod yn Mod yn ddim mwy na cyfle i gael good laugh.

Hei ho.

 

 

Nodyn: Mae’r uchod yn gopi o erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar, yn y golofn Ar y Soffa, sy’n trafod cynnyrch S4C a Radio Cymru.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma