Mi fydd yna ddigwyddiad celfyddydol unigryw ac arloesol yng Nghanolfan Celfyddydol Chapter yng Nghaerdydd ar y 6ed o Fedi 2013, wrth i ddigwyddiad o’r enw ‘UnButtoned’ chwyldroi’r profiad o wrando ar gerddoriaeth glasurol.
Mae’r gerddorfa aml-alluog Sinfonia Cymru, tîm dylunio symudiad a rhyngweithiol Roughcollie (enillwyr BAFTA), a’r cerddor arloesol Tom Raybould (Zwolf) wedi dod ynghyd i gyfuno cerdd fyw a delweddau clywedol aruthrol i greu profiad cerddoriaeth glasurol hwyrnos cyntaf Cymru. Mi fydd y “maes chwarae ar gyfer y synhwyrau” yma hefyd yn manteisio ar ddoniau y casgliad o artistiaid clywedol Caerdydd Arc Vertiac, a’r artist, DJ, a VJ Chameleonic.
Hon ydi’r noson gyntaf mewn cyfres gan y gerddorfa ifanc unigryw Sinfonia Cymru, sydd wedi gosod nod o gynyddu nifer y pobl ifanc sy’n gwrando ar gerddoriaeth glasurol. Eisoes eleni maen nhw wedi ennill clod am Sinfonia Cymru Curate, casgliad o gerddorion a chreawdwyr sy’n benderfynol o ddemocrateiddio cerddoriaeth glasurol drwy osod y rheolaeth am y gerddorfa yn nwylo’r cerddorion. UnButtoned bydd uchafbwynt Sinfonia Cymru Curate eleni am ei fod yn crynhoi ac yn amlygu eu syniadau ynglŷn â sut i ddatblygu’r ‘profiad o brofi’ cerddoriaeth glasurol.
Yn ôl Sophie Lewis, rheolwr Sinfonia Cymru, “Mae Sinfonia Cymru’n gyffredinol, a Curate yn benodol, yn bendant fod angen denu mwy o bobl ifanc i gerddoriaeth glasurol. Ac oherwydd bod y cerddorion i gyd yn bobl ifanc mae gennym ni gyfle unigryw i ddatblygu digwyddiadau arloesol a blaengar, sy’n llawn hwyl a bwrlwm, ar eu cyfer. Aelodau Curate eu hunain sy’n gyfrifol am bob briwsionyn o’r deisen flasus hon!”
“Mi fydd UnButtoned yn dangos agwedd newydd ar waith Sinfonia Cymru, sy’n cyfuno cerddoriaeth fyw, seinweddau electroneg byrfyfyr, a delweddau sy’n ymateb i’r symbyliadau o’u cwmpas. A dydi hyn ddim yn glwb nos, na’n gyngerdd arferol sydd yn dechrau ychydig yn hwyrach, ond yn hytrach, yn brofiad newydd sbon gyda cherddoriaeth glasurol yn ei galon.”
Mwy o fanylion oddi wrth Siân Hughes sian@jamboxmarketing.co.uk ar 07810 362146 neu Emma Wordley emma@jamboxmarketing.co.uk ar 07974 914488
DYDDIADAU UnButtoned
Gwener 6 Medi 2013 9:00yh
Sadwrn 19 Tachwedd 2013 8.00yh
Gwener 13 Rhagfyr 2013 8:00yh
Canolfan Celfyddydau Chapter, Caerdydd
Tocynnau £8 / £10
sylw ar yr adroddiad yma