Tymor Morgannwg Yn Mynd Ar Chwâl

29 Hydref 2015

Hywel Owen sy’n edrych nôl ar dymor “cymysglyd” i dîm criced Morgannwg ..

Cyn asesu tymor Morgannwg yn ei gyfanrwydd rhaid cydnabod fod ail hanner y tymor wedi bod yn hynod o siomedig.

Hanner ffordd drwy’r tymor roedd pethau’n edrych yn addawol iawn yn y gystadleuaeth pedwar diwrnod ac 20 pelawd. Fodd bynnag, ni welwyd y llwyddiant hwn yn parhau.

Ar ôl curo Swydd Gaerlŷr yng Nghaerdydd ddiwedd Mehefin – y bedwaredd fuddugoliaeth o’r bron – yr oedd gobaith realistig o ddyrchafiad. Yn anffodus, ni chafwyd buddugoliaeth arall weddill y tymor.

Colli fu’r hanes yn erbyn Essex, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Gaerloyw a Chaint tra chafwyd gemau cyfartal yn erbyn Swydd Derby, Northants a Chaerloyw.

Er colli rhaid nodi bod y gemau yn erbyn Caerhirfryn ym Mae Colwyn ac yn erbyn Caerloyw yn Abertawe wedi bod yn ddigwyddiadau llwyddiannus. Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen mae’n holl bwysig fod Morgannwg yn parhau i chwarae ym Mae Colwyn ac Abertawe gan fod y tîm yn cynrychioli Cymru gyfan.

Rhaid talu teyrnged i’r Orielwyr yn Abertawe a swyddogion Clwb Criced Bae Colwyn am eu holl waith caled i sicrhau fod modd cynnal y gemau yno. Mae’n wir fod y dorf sylweddol a ddaeth i Fae Colwyn wedi eu chwyddo gan gefnogwyr Caerhirfryn a oedd yn bresennol ond roedd Morgannwg yn elwa’n ariannol o’u presenoldeb.

Yn yr un modd, dirywiodd y perfformiadau yn y gystadleuaeth 20 pelawd ar ôl dechrau mor addawol.

Er curo Caint mewn gêm hynod o gyffrous oddi ar y belen olaf, colli bu’r hanes yn erbyn Sussex ac yn dyngedfennol yn erbyn Caerloyw yn y gêm olaf yng Nghaerdydd. Os fyddai Morgannwg wedi curo Caerloyw byddai’r sir wedi mynd drwodd i rownd gogynderfynol y gystadleuaeth. Effeithiwyd ar y gêm gan y tywydd ac yr oedd yn wyrth mewn gwirionedd fod modd cynnal gêm pum pelawd yr un ond curwyd Morgannwg yn hawdd.

Roedd golygon Morgannwg wedyn yn troi tuag at y gystadleuaeth 50 pelawd.  Er dechrau’r gystadleuaeth ar minws dau bwynt oherwydd llain annerbyniol ar gyfer un gêm y llynedd dechreuodd Morgannwg y gystadleuaeth yn wych.

Yn dilyn glaw yn y gêm gyntaf yn erbyn Notts, curwyd Caint wrth i Forgannwg lwyddo i gyrraedd targed anodd iawn o 317 rhediad gydag Ingram yn sgorio 109 a Cooke  94 heb fod allan i sicrhau buddugoliaeth wych.

Yna curwyd tîm cryf Essex yn gyfforddus yng Nghaerdydd o 146 rhediad gyda Ingram yn sgorio 130. Roedd pethau’n edrych yn addawol. Ond y gêm nesaf yn erbyn Hampshire oedd trobwynt y tymor – diwrnod tywyll iawn yn hanes Morgannwg.

Ar ddiwrnod godidog yng Nghaerdydd bu’n rhaid atal y gêm  oherwydd bod y llain yn rhy beryglus. Gellir dadlau fod y dyfarnwyr wedi gor-ymateb ychydig ond nid oes amheuaeth fod y llain yn annerbyniol. Yn anffodus, darlledwyd y gêm ar deledu lloeren ac felly roedd gwylwyr ledled y byd wedi tystio’r digwyddiadau anffodus.

Canlyniad hyn oedd bod tirmon Morgannwg bellach wedi gadael y sir. Cosbwyd Morgannwg gan ddileu dau bwynt arall felly nid oedd unrhyw obaith am lwyddiant yn y gystadleuaeth 50 pelawd.

Yn ddi-os, effeithiodd y diwrnod tywyll hwn ar chwaraewyr Morgannwg am weddill y tymor.  Ni enillwyd gêm mewn unrhyw gystadleuaeth wedi hynny. Yn y gystadleuaeth 50 pelawd colli’n drwm fu’r hanes yn erbyn Middlesex a Swydd Warwick tra bod y glaw wedi golygu fod y gemau yn erbyn Sussex a Caerhirfryn yn ddi-ganlyniad

Felly sut ddylid asesu tymor Morgannwg? Cymysglyd fyddai’r gair mwyaf addas dwi’n meddwl. Ar ôl hanner cyntaf mor addawol aeth pethau ar chwâl wedi hynny yn enwedig ar ôl y problemau gyda’r llain yng Nghaerdydd.

Yn gyffredinol gellid dweud fod y sir wedi gwella yn enwedig yn y bencampwriaeth pedwar diwrnod. Gorffennodd y sir yn bedwerydd ar ôl gorffen yn wythfed y llynedd. Ond rhaid cryfhau’r garfan er mwyn cystadlu ymhellach y flwyddyn nesaf.

Erbyn diwedd y tymor, amlygwyd y ffaith fod gan Forgannwg garfan fechan iawn. Mae’r sefyllfa ariannol yn parhau’n bryder, felly bydd yn anodd denu chwaraewyr i’r sir ond mae gwir angen o leiaf un batiwr a bowliwr o safon.

Ni welwyd un o’r batwyr yn cyrraedd mil o rediadau yn y bencampwriaeth sy’n hynod siomedig ac ni welwyd un bowliwr yn cymryd 50 wiced. Y gwir yw bod angen mwy o gysondeb gan y batwyr profiadol megis Rudolph, Ingram, Cooke a Bragg i gyd-fynd â datblygiad y chwaraewyr ifanc addawol fel Donald, Lloyd, Penrhyn Jones, Bull a Salter.

Yr adeg hon y llynedd wrth edrych yn ôl ar dymor y llynedd dywedais fod angen sicrhau llwyddiant i Forgannwg ar y cae  i gyd-fynd â llwyddiant y sir wrth gynnal gemau rhyngwladol.

Rhaid talu teyrnged yma i’r sir am lwyddiant gêm y Lludw ym mis Gorffennaf a’r gêm 20 pelawd rhwng Lloegr ac Awstralia ddiwedd Awst – nid oedd dim yn bod ar y llain bryd hynny!

Ond diddorol yw nodi yn sgîl dyrchafiad Surrey a Caerhirfryn i’r adran gyntaf y bydd pob sir sy’n cynnal gemau rhyngwladol yn yr adran gyntaf y flwyddyn nesaf heblaw am Forgannwg. Mae hyn yn sefyllfa anffodus i ddweud y lleiaf.

Mae haf nesaf yn argoeli i fod yn un hynod o gyffrous i ddilynwyr chwaraeon yng Nghymru gyda’r tîm pêl droed cenedlaethol yn cyrraedd rownd derfynol pencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc. Dim ond gobeithio na fyddaf yn colli gormod o griced tra fyddaf yn Ffrainc.

Mwynhewch y gaeaf!

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma