Twiggy a’r carped igam-ogam: Atgofion Croes Cwrlwys

19 Tachwedd 2013

Gan Gwenda Richards, fu’n gweithio yng Nghroes Cwrlwys o 1984 tan 2006.

Agorwyd pencadlys HTV yng Nghroes Cwrlwys yn 1984 gyda sbloets razamatazz a sioe laser. Hwn oedd un o stiwdios fwyaf Ewrop ar y pryd ac fe ddaeth sêr di ri i berfformio ar raglenni byw a chymryd rhan mewn rhaglenni arloesol diwedd y ganrif ddiwethaf. Dyma rai o atgofion rhai fu ac sydd yn gweithio yno. Os oes gennych atgofion am weithio yno, neu am gymryd rhan mewn unrhyw raglen cysylltwch a ni – yn enwedig os oes gennych luniau!

Pan gerddodd criw o newyddiadurwyr ifanc ‘Y Byd ar Bedwar’ – fi yn eu plith – mewn i Groes Cwrlwys gyntaf roedd pawb yn gegrwth. Ar ôl naws cartrefol stiwdios HTV ym Mhontcanna, roedd CC fel palas modern enfawr – yn waliau gwydr, desgiau gwyn i gyd – a’r carped zig zag yn arwain pawb at swyddfeydd crand. photo 1Mae pawb yn cofio’r carped igam ogam oedd yn dynwared llinellau electroneg – melyn ar y llawr lle roedd y cynhyrchwyr a’r newyddiadurwyr yn gweithio a glas ar y llawr uchaf lle roedd y rheolwyr.

Roedd popeth yn edrych mor newydd, ffres, yn llawn o’r dechnoleg ddiweddara – ond doedd y ffôns heb eu cysylltu yn y stafell newyddion! Felly am wythnos gyfan, cartref dros dro ni’r newyddiadurwyr oedd yr ‘Horse and Jockey’ lan y rhiw.

Mae’r cyn-gyfarwyddwr David Lloyd yn cofio’r noswaith agoriadol. “Roedd na sequence reit ar ddechrau’r sioe lle roedd lasers yn disgleirio bobman, ond fe ffoniodd yr ‘air traffic controllers’ o’r Rhws i gwyno bod y lasers yn drysu’r awyrennau! Felly rhaid oedd diffodd y goleuadau, “meddai.

Shirl the Perl yn perfformio yn stiwdio Un

Shirl the Perl yn perfformio yn stiwdio Un.  llun:Keith Edwards

“Roedd cyfarwyddo yn y galerïau a’r stiwdios fel cyfarwyddo mewn maes awyr modern, a sôn am hynny, oherwydd fod y stiwdio ar y ffordd i’r maes awyr roedd nifer o bobl yn stopio yn y dderbynfa i holi pryd oedd ei awyren yn gadael!” Mae David yn ysgrifennu llyfr am ei amser ym myd darlledu. Fydd ei gyfrol ‘Start the Clock and Cue the Band’ yn cael ei gyhoeddi gan y Lolfa’r flwyddyn nesaf.

Yn ôl Huw Parry, sydd yn dal i weithio yno fel golygydd fideo, roedd y lle yn lwcus i beidio gael ei ddymchwel cyn yr agoriad:

image

Huw Parry: golygu’r Telethon

“Gofynnwyd i Quilty (Mike Greenalgh), dyn camera, i ffilmio ‘aerials ‘o’r safle tra roedd yn cael ei ddatblygu. Quilty, a’i fag yn ei geg, yn saethu wrth i’r peilot droi, a sylwi fod caniau o ffilm yn rholio ar y llawr, ac wedi jamio ‘foot controls’ y peilot!’

Pwy yw ffrind Idris Charles?

Pwy yw ffrind Idris Charles? llun:Keith Edwards

“Culverhouse Cross oedd y lle ddaru mi weld teledu modern am y tro cyntaf. Oedd Pontcanna yn gartrefol ac yn gyfeillgar, ond yn Culver oedd y bois yn chwarae a’i tois. Y stiwdio mwya cyfoes yn Ewrop. Recording Studios efo band room. Gwisgoedd a cholur i gyd mewn safle priodol. A’r squiggle ar y carped yn arwain y ffordd i’r newydd ddyfodiaid fel fi. Wir, oedd Stiwdio Un yn anferth, efo Tom Jones, Roger Daltrey, yn cadw’r pre-Twitter generation ar ei traed.

Dwi’n cofio y ferch dymynol ‘ma, yn gofyn i fi a fy ffrind lle oedd y stafell goluro, a Keith yn deud mor matter of fact, “Up the stairs, and just follow the blue squiggle on the carpet.’ Fi wedyn yn syllu arno am for mor cool yng nghwmni Twiggy, a fo bron a marw fod o heb nabod hi – heb ddisgwyl gweld hi ar yr un coridorau a ni, wir.”

Cyn dyddiau Plant mewn Angen, roedd HTV yn enwog am godi arian i elusennau drwy’r Telethon, darllediad 24 awr.

Y Telethon i godi arian

Y Telethon i godi arian

Mae Huw yn cofio casgen o gwrw, heb stiward ar gyfyl y lle, yn cadw’r  tîm i fynd dros y ddeuddydd o ddarlledu.

Meddai David, “Roedd yr offer ar gyfer gwneud rhaglenni teledu gennym ni, ond anghofiodd y pensaer roi ffenestri yn yr ystafelloedd golygu ar yr ail lawr, gan adael y golygyddion i weithio yn y tywyllwch drwy’r dydd.

Problem arall oedd bod yr adeilad yislaw trosglwyddydd teledu Gwenfô ac fe achosodd hyn aflonyddwch i’r holl signalau electronig. Er mwyn helpu i leihau’r broblem am gost ychwanegol, adeiladwyd rhywbeth a elwir yn Faraday Cage – math o rhwydwaith o ddur  wedi ei fewnosod rhwng y waliau concrid o amgylch y stiwdios a’r ardal ddarlledu.”

Ar ddechrau’r nawdegau, roedd 26 o griwiau yn gweithio ar raglenni S4C – ac yn teithio i bedwar ban byd. HTV oedd yn cyflenwi rhaglen deithio i S4C ‘Pacio’ a finnau yn un o’r cyflwynwyr.  Fe ddaeth Sara Jones, yn wreiddiol o Langefni ond yn awr yn gweithio i’r BBC, yn aelod o’r tîm cynhyrchu.

Brenin Light Ents- Arfon Haines Davies yn 'continuity'

Brenin Light Ent- Arfon Haines Davies yn ‘continuity’

“Y tro cyntaf i mi ddod lawr i HTV oedd tua ’98 i’r Adran Adloniant Ysgafn neu Light Ents fel oedd o’n cael ei adnabod. Roedd tua 20 ohonon ni yno ar y pryd a’r adran yn llawn bwrlwm yn creu rhaglenni i S4C a HTV.  Dwi’n cofio’r croeso cynnas pan ddes i fewn am y tro cyntaf ac wedyn phob tro dychwelais fel aelod llawrhydd o’r tîm cyn ddod yn rhan o’r staff. Rhaid dweud bod gweld cyflwynwyr adnabyddus fel Gwenda Richards ac Arfon Haines Davies yn y cnawd yn dipyn o brofiad ar y diwrnod cyntaf mewn swydd! Cefais ffrindiau oes o’r adran honno.”

Roedd CC ar gyrrion y ddinas, digon o le i barcio ond doedd na ddim siopau yn agos, rhwbeth oedd yn peri gofid i rai o’r staff.”

Roedd rhaid trefnu bys i’w cludo nhw i’r Brif Ddinas, y “Tart Cart” fel y bathwyd y cerbyd ma,” medd Huw. Ond un flwyddyn fe welwyd cerbyd dipyn mwy crand yn glanio yng ngherddi CC.”

Oedd Beajuolais Day di tyfu mewn i ras i fod y cyntaf i gynnig y gwin gachlud i Gaerdydd. Un blwyddyn trefnodd Steve Paul, Llwydd y Clwb Cymdeithasol, helicopter i ddod â gwin i’r Helipad. Dwi byth di gweld gymaint o PAs a phobol ‘llai profiadol” mewn meysydd diota, yn cerdded y coridorau o 9 ymlaen.” Diolch fyth am y carped igam ogam i’w hebrwng nhw!

 

 

 

 

 

 

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma