Trideg miliwn munud yn hanes Dawn French

19 Gorffennaf 2014

Adolygiad gan Gwenda Richards o sioe Dawn French yn y Theatr Newydd, Gorffennaf 17.

Mae Dawn French yn drideg miliwn munud oed ac am gant ac ugain  ohonyn nhw (dwy awr i chi sy ddim yn  dda mewn maths), nos Iau, fe aeth Dawn a ni yn ôl mewn amser at rai o uchafbwyntiau’i bywyd. Ac hefyd rai o’r adegau tristaf.

Fe welais i hi a’i phartner comedi Jennifer Saunders yn y Motorpoint Arena rai blynyddoedd yn ôl, (lle o’n i yn fy nyblau’n chwerthin gymaint)  felly o’n i’n meddwl taw ryw fath o solo stand up  fyddai’r sioe yma. Ond na, monolog crefftus oedd hwn, gyda sleidiau a ffilm yn arddangos ar sgrin y tu ôl iddi yn help i ddarlunio’r cyfan. Doedd dim un gair  ad lib, hyd yn oed y cyfeiriadau at Abertawe a Chaerdydd wedi sgriptio’n gelfydd. Er bod hwn yn swnio’n braidd yn sych- roedd ei pherfformiad yn llawn bywyd, egni ac yn gwbl hilarious. Mae hi’n actores wych ac yn glown bendigedig. Dim ond ei gweld hi ar lwyfan a dwi’n dechre gwenu.

Gan fy mod i yn 29,400,000 o funudau oed, roeddwn yn gallu uniaethu gyda  llawer o’r cyfeiriadau am ei phlentyndod a’i harddegau cynnar – a’r mwyafrif o fenywod d’un certain age  oedd yn y gynulleidfa.

O’n i wedi anghofio’n llwyr am y persawr ‘Aqua Manda’ (egsotic iawn yn y 70 au!) tan iddi son am ei ymdrechion i wneud argraff ar y bechgyn lleol- ac wrth gwrs yr hot pants suede porffor. Rhai melfed oedd gen i – Ieics!

Fe ganwyd Dawn yn y Fali Sir Fôn , sarjant yn yr Awyrlu oedd ei thad Denys. Symudodd y teulu i Loegr a phan oedd Dawn yr dair oed fe gafodd y teulu ei dewis i groesawi’r Fam Frenhines ‘i de’ tra ar ymweliad a’r ganolfan RAF. Roedd y stori hwn yn ddoniol ynddoi hun ond wedyn dyma Dawn yn datgelu ffilm newyddion o’r achlysur. Llongyfarchiadau i un o’i thîm am y gwaith ditectif yma. Dannedd du y fam frenhines wnaeth yr argraff mwyaf arni y diwrnod hwnnw. 

Dyheu am fod naill ai’n falerina, yn forwyn priodas neu’n  rockstar  oedd y Dawn ifanc ond erbyn  ei harddegau roedd wedi colli llawer  o’i hunan hyder ond yn gefn iddi bob tro oedd ei thad Denys. Roedd wastad yn dweud wrth pa mor bert ac ei bod yn berson arbennig iawn, felly trist iawn oedd yr hanes am ei hunan laddiad pan oedd Dawn yn y coleg. Doedd neb wedi llwyr ddeall yr iselder oedd wedi bod yn ei gorddi ar hyd ei fywyd am ei fod wedi cuddio’r salwch rhag y teulu. Dirdynnol iawn.

Ond mae Dawn yn gallu codi’r mŵd mewn chwinciad. Wrth geisio ateb cwestiynnau fel ‘Sut i fod yn ferch, chwaer, mam a gwraig’ dyw Dawn ddim yn defnyddio straeon showbiz o gwbl. Canolbwyntio mae hi ar ei pherthynas gyda’i theulu- ei dwy famgu, rhieni, ei brawd Gary, cyn ŵr Lenny Henry a’r merch Billie, a sut mae’n teimlo am hi ei hun  gan son wrth gwrs am ei chorff sydd… erm..  yn , wel…eitha jogel o seis.

Fydd yr helynt am ei mam  yn gofyn i Dawn chwilio am ddarnau man o wydr o windscreen ei char , mewn man sensitif iawn, yn aros yn y côf am sbel.

Dathlu bywyd a gwneud yn fawr o bob munud o’ch bywyd yw ei mantra.

Dwi’n gwbod bod y geiriau ‘trysor cenedlaethol’ wedi mynd yn ystrydeb erbyn hyn ac yn cael ei or ddefnyddio- ond sori, dwi mynd i ddefnyddio nhw i ddisgrifio Dawn French. Ac mae’r ffaith fod hi’n ymddangos am un noswaith ychwanegol yn dyst i’r ffaith fod cymaint o bobl yn meddwl yr un fath. Da iawn y Theatr Newydd am drefnu’r fath noswaith rhagorol.

 

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma