Trafod ‘Heritage’ – Drama newydd i bobl ifanc gan Dafydd James

22 Mawrth 2014

Mae’r dramodydd Dafydd James yn sgwrsio gyda Bethan Mair Jones am ei ddrama newydd Heritage sydd yn un ddrama o ddeg fel rhan o’r ŵyl berfformio i bobl ifanc Connections.

O ble ddaeth eich ysbrydoliaeth ar gyfer ysgrifennu Heritage?

Ysgrifennais blog am y broses ar wefan National Theatre Wales sydd yn trafod yn fwy manwl. Yn fras, yn Heritage fe wnes i gwestiynu beth fyddai’n digwydd petai traddodiadau yn cael eu gorfodi gan y dwylo anghywir a sut y gall hyn o bosib arwain at ffasgiaeth. Dwi’n ymwybodol o’n amryw o draddodiadau ac arferion yng Nghymru, ond fe gall rhain ymddangos yn boncyrs i bobl tu fas i Gymru sydd ddim yn gyfarwydd â’n traddodiadau.

Fe wnaethoch chi ei ysgrifennu ar gyfer yr ŵyl connections. Beth yw’r ŵyl yn union?

Mae Theatr Genedlaethol Lloegr pob blwyddyn yn comisiynu 10 dramodydd i sgrifennu dramâu i bobl ifanc. Y brief ti’n ei gael yw sgrifennu drama sydd hyd at 45 munud ar gyfer unrhyw nifer o bobl ifanc, a rhaid iddi fod ar destun agored a pherthnasol i grwpiau gwahanol. Mae yna 230 grŵp i gyd a bydd 37 o’r rheiny yn perfformio Heritage. Mae pob grŵp yn perfformio yn lleol yna bydd gŵyl ranbarthol a bydd yr enillwyr rheiny yn mynd ymlaen i Lundain. Mae e fel Eisteddfod rili!

Mae’r ffaith bod 37 cynhyrchiad gwahanol o Heritage yn rhoi profiad gwych i mi i weld dehongliadau gwahanol o’m  drama. Mae grŵp ieuenctid Sherman yn un o’r 37 ac maent yn perfformio ar ddiwedd Mis Mawrth. Fe fydd gŵyl Rhanbarth Cymru yn y Sherman wedyn ar gyfer yr 8 grŵp sydd o Gymru, a bydd 4 o’r 8 yn perfformio Heritage.

Disgrifir Heritage fel portread o ochor dywyll cenedlaetholdeb. Beth yw’r ochor dywyll a’r peryg yn eich barn chi?

Mae yna linell anweledig rhwng gwladgarwch, cenedlaetholdeb a ffasgiaeth. Mae’r ddrama am grŵp o bobl ifanc sydd am ganu cân ar noswyl calan Mai. Yn ystod y ddrama fe gaiff ei ddatgelu bod arweinydd y gymuned ddim mor ddiniwed ac y mae’n ymddangos. Mae yna debygrwydd i ffasgiaeth yr Almaen cyn y rhyfel byd cyntaf. Mae ‘gwarchod’ cenedl yn gallu bod llawer iawn fwy tywyll.

A wnaethoch chi wynebu unrhyw sialensiau wrth ysgrifennu drama i ‘w pherfformio gan bobl ifanc ?

Wel yn un peth, o’n i moin sgwennu i gast mawr. 11 cymeriad sydd yn Heritage. Yr her yw bod yr 11 ar y llwyfan trwy’r holl ddrama. Fe wnes i hefyd geisio sicrhau bod pob cymeriad yn cael eu ‘moment’ i’w hunain a bod digon iddyn nhw wneud ar y llwyfan trwy’r ddrama. Her arall oedd i’w wneud yn berthnasol i unrhyw berson ifanc. Er bod themâu i fi am ddiwylliant Cymreig dwi’n gyfarwydd â, nid yw’r ddrama am Gymry. Roedd angen i mi ei wneud yr un mor berthnasol i bobl o Lundain ag i rywun o’r Alban. Dwi yn mwynhau gweithio ‘da pobl ifanc ac fe wnes i holi grwpiau o bobl ifanc fel rhan o’r broses ysgrifennu.

Eich drama Llwyth daeth a chi i amlygrwydd. Beth  amdano ydych chi’n credu oedd yn llwyddiant?

Ummmmm dwi’n credu fy mod yn ffodus iawn yn y ffordd gafod y ddrama ei greu a datblygu, roedd yn brosiect rhwng lot o bobl. Arwel Griffiths o’r Theatr Genedlaethol, fi, y cast a’r criw oedd yn rhan o’r ddrama. Roedd pawb yn rhan o’r weledigaeth wreiddiol.

Ar y pryd dwi’n credu rhoddodd Llwyth lwyfan i themâu a chymeriadau nad oedd wedi cael eu gweld, yng Nghymru, rhyw lawer o’r blaen. Roedd yn ddrama wreiddiol ar y pryd o ran agweddau, ond dyw beth oedd llwyddiant y ddrama ddim lawr i fi i ddweud!

 O ble ydych chi’n cael eich deunydd i ysgrifennu?

Ychydig bach o bob man. Dwi wastad yn edrych o gwmpas a chael fy nylanwadu gan bobl o’m cwmpas . Mae gen i syniadau yn fy mhen ers blynyddoedd sydd eto heb gael eu hysgrifennu. Dwi’n dueddol o weithio mewn siopau coffi ac yn cael y cyfle i wylio pobl yn eu bywyd pob dydd.

Pa themâu ydych chi’n mwynhau ysgrifennu amdanynt?

Mae rhai themâu amlwg yn fy ngwaith ac mae dilyniant themâu yn fy nramâu. Themâu mawr bywyd, dyma sy’n fy niddori. Rhywioldeb, hunaniaeth, iaith, gwallgofrwydd a marwolaeth yw’r themâu amlycaf.

Beth yw eich barn ar blismyn iaith sydd ar adegau yn achosi i siaradwyr rhugl hyd yn oed fod ofn siarad Cymraeg?

Dwi’n credu ei fod yn broblem. Mae yna yn bendant le i warchod iaith a sicrhau purdeb iaith ond mae hefyd le i annog pobl i siarad unrhyw Gymraeg sy’n gyfforddus iddyn nhw. Ffordd o fynegiant yw iaith. Brythoneg yw’r Gymraeg yn wreiddiol, ac mae iaith byw yn esblygu. Fe gall yr iaith farw heb iddi newid. Beth sy’n well, i esblygu a newid yn raddol neu farw yn gyfan gwbl?

Sut ydych chi yn mynd ati i ysgrifennu? A oes gennych chi leoliad delfrydol i wneud?

Mae gen i swyddfa adre’ ac yno dwi yn y boreau ond mas fydda’i yn y prynhawn. Mae hi’n unig iawn yn sgwennu ar ben fy hunain, rhaid mynd mas a chymysgu! Byddai’n mynd i siopau coffi amrywiol. Does gen i ddim hoff un, dwi’n mwynhau newid. Fe fyddai’n mynd i Chapter yn aml oherwydd bod nifer o artistiaid gwahanol o’r gymuned yno hefyd, mae’n le da i ryngweithio.

A oes gennych chi gyngor i rywun sydd eisiau mynd ati i ysgrifennu drama?

Jyst gwenwch hi! Dwi’n credu fod pobl yn poeni fod rhaid bod yn berffaith. Mae’n rhaid gwneud lot mawr o drafts cyn i ddrama mynd ar lwyfan. Fel arfer fy nrafft cyntaf yw fi yn ‘chwydu’r’ geiriau a syniadau i lawr ar bapur. Mae’r ystrydeb ond ma  sgrifennu’n dod yn ail. Rhaid cael popeth i lawr ar bapur yn gyntaf cyn cyrraedd y diwedd.

Mae hefyd yn bwysig i hunan gynhyrchu. Mae yna lot o gyfleoedd yn enwedig yng Nghymru. Mae pobl fel Mared yn Sherman Cymru a’r cwmni Dirty Protest yn gefnogol iawn o ysgrifenwyr newydd. Fe wnes i ddechrau drwy anfon scripts Saesneg er mwyn cael pobl i weld fy ngwaith, doeddwn i ddim yn credu bod fy Nghymraeg yn ddigon da. Arwel Griffiths wnaeth fy ysgogi i sgrifennu yn y Gymraeg. Dwi’n falch mod i wedi cael ‘support’ yna.

Felly just gwnewch hi! Ysgrifennwch!

Diolch yn fawr i Dafydd James am y sgwrs ddifyr. Fe fydd cyflwyniad gan Theatr Ieuenctid Sherman o Heritage yn Theatr Sherman Cymru, Nos Wener, Mawrth 28.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma