Mae’r traeth yn ei ôl – a bydd Caerdydd eto’n creu ei glan môr ei hun yn Nhraeth Bae Caerdydd Vueling rhwng 25 Gorffennaf a 5 Medi.
Yn ôl y bobl tu ôl i’r atyniad, disgwylir i’r traeth trefol, sydd wedi bod yn andros o boblogaidd yn y Bae dros y blynyddoedd, ddenu chwarter miliwn o bobl i lan y dŵr, gyda llond bwced o atyniadau glan môr traddodiadol i ddiddanu teuluoedd dros wyliau’r haf.
Yn ogystal â’r traeth tywod mawr i blant, bydd yno ardal chwarae dŵr bas, amrywiaeth o reidiau a gemau gan gynnwys Zorb a Chwyrligwgan, Olwyn Fawr draddodiadol, adloniant byw am ddim, lluniaeth a hyd yn oed gadeiriau dec traddodiadol i ymwelwyr fola heulo.
Mae mynediad am ddim, ond codir tâl am rai cyfleusterau ar y safle.
Cyflwynir Traeth Bae Caerdydd Vueling unwaith eto gan gwmni Sayers Amusements. Yn ôl cyfarwyddwr y cwmni, Norman George Sayers, mae’r traeth wedi bod yn hynod boblogaidd ers ei sefydlu dau haf yn ôl.
“Rydyn ni wedi gwneud rhai newidiadau i’r fformat i wneud y traeth hyd yn oed yn well i gwsmeriaid” meddai, “a gall ymwelwyr edrych ‘mlaen at ddod â’u plant i amgylchedd diogel a hwyl.”
Bydd y traeth yn Roald Dahl Plass ar lannau dŵr Bae Caerdydd ac ar agor o 10am i 8pm o ddydd Sul i ddydd Iau ac o 10am i 10pm ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Mae rhagor o fanyion, ynghyd ag amserlenni’r adloniant, ar Facebook (Facebook.com/thebaybeachcdf) a Twitter (@thebaybeachcdf).
Mae manylion digwyddiadau eraill yng Nghaerdydd dros yr haf ar wefan Gŵyl Caerdydd.
sylw ar yr adroddiad yma