Tipyn o rebel o hyd: adolygiad 100 Acts of Minor Dissent

27 Mawrth 2014

Adolygiad Huw Onllwyn o ‘100 Acts of Minor Dissent’, Theatr y Sherman, 19 Mawrth 2014 

‘Roeddwn yn was sifil (tan yn ddiweddar). ‘Rwy’n byw yn Radur. ‘Rwy’n darllen y Spectator. ‘Rwy’n gyrru hen Jag.

Ond rwyf hefyd wastad wedi bod yn rebel.

Gwallt hir iawn yn yr ysgol. Bodiwr penigamp (mynd gydag Emyr Lewis, ein prif-fardd, i Lerpwl ac yn ôl). Mynychwr gwyliau roc Reading a Knebworth. Ffan o’r Stones – nid y Beatles. Ddim yn mynd yn agos i’r capel. Gwylio Top of the Pops yn lle S4C. Gyrru 32mya yn y dref (33 mya weithiau). A meddwi ychydig bach, ar adegau.

Cwsmer perffaith, felly, ar gyfer “100 Acts of Minor Dissent” sef sioe diweddaraf y digrifwr a’r actifydd gwleidyddol, Mark Thomas.

Efallai i chi glywed “Mark Thomas: The Manifesto” ar Radio Pedwar, rhai blynyddoedd yn ôl. Bryd hynny, fe grëwyd maniffesto gwleidyddol (a lled ddychanol) gan y cynulleidfaoedd a fynychodd ei sioe, wrth iddo deithio ar draws Prydain. Yn y pendraw, fe ddefnyddiwyd y maniffesto gan ymgeisydd ym Mryste yn ystod etholiad cyffredinol 2010. Dyma ambell bolisi:

  • party manifestos should be legally binding
  • the garment trade should print the age of the person who made each item on the label
  • all members of the BNP should be forced to trace their family ancestry and make it public
  • there should be an age of consent for religion.

Synhwyrol iawn, fe gredaf.

Erbyn hyn, mae Mark wedi ymrwymo i anghydffurfio 100 gwaith rhwng misoedd Mai 2013 a Mai 2014, fel rhan o’i ymgyrchu gwleidyddol. Pwrpas y sioe (sydd ar daith ers mis Ionawr) yw adrodd ar y cynnydd yn erbyn ei darged. Os na fydd yn llwyddo, mae wedi addo talu £1000 i gronfa UKIP.

Ar dân- ond yn dod a gwên

O’r hyn a glywsom, fodd bynnag, mae’r ymgyrch yn mynd yn weddol dda. Ond nid yw hynny’n syndod.  Dyma ddyn sydd ar dân dros ei gymuned (mae wedi byw yn yr un stryd yn Llundain ers yn fachgen); sydd ar ochr bobl cyffredin (fel chi a fi. Wel, chi, yn sicr) ac yn erbyn cwmnïau mawrion sy’n difetha cwmnïau bach a chymunedau lleol. Dyma ddyn sy’n gallu eich gwefreiddio, eich diddanu a’ch ysbrydoli tra hefyd yn dod a gwên i’ch wyneb a dagrau i’ch llygaid wrth i chi wrando arno’n sôn am ei ymgyrchoedd lu yn erbyn corfforaethau Prydeinig a rhyngwladol.

blogger-image--136695934Er enghraifft, nid yw’n hoff iawn o’r siopau llyfrau mawr (siopau mawr, nid llyfrau mawr), megis Waterstones a W H Smith, sy’n gwerthu llyfrau fel petaent yn baked beans, tra’n difetha busnes siopau llyfrau lleol. Er mwyn anghydffurfio fe argraffodd sticeri (ar werth i’r gynulleidfa), i’w gosod ar lyfrau (unrhyw beth gan Jeremy Clarkson neu Margaret Thatcher, mae’n debyg) yn cynnwys negeseuon megis: ’Staff recommendation: keep the receipt’ a ‘Also available in charity shops’.

Protestiodd tu allan i llysgenhadaeth Saudi Arabia drwy yrru ceir ‘remote control’ pink, gyda doliau Barbie ynddynt, er mwyn tynnu sylw at y ffaith nad oes modd i fenywod yrru yn y wlad honno.Trefnodd gem enfawr o ‘Beth yw’r amser Mr Blaidd?’ yn Hyde Park, ar ôl i’r cyngor geisio codi tâl ar unrhyw un oedd am chwarae gemau yno.

Nid yw’n hapus fod cwmni Apple yn osgoi talu trethu ym Mhrydain – wrth eu talu yn yr Iwerddon, lle mae’r cyfradd trethi llawer yn is. Ei ymateb i hyn oedd troi siop Apple yn Regent Street i gornel bach o’r Iwerddon, gyda cherddorion traddodiadol yn chwarae’r bodhran, llawer o wyrdd, ac arwyddion yn croesawu cwsmeriaid i’r wlad. Hefyd, fe gyfeiriodd pob cyfrifiadur yn y siop at wefan arbennig a oedd yn dangos y neges,  ‘You can buy this computer just around the corner, at John Lewis’ store, and they pay their taxes in the UK.’

Mae hiwmor yn bwysig iddo, wrth brotestio. Dyma sticer arall oedd ar werth ganddo, i’w osod mewn cerbydau tren: “Daily Mail free zone. Please show consideration for fellow passengers by not reading or leaving copies of the Daily Mail newspaper in this coach’.

Mae hefyd wedi cynhyrchu sticer i’w osod ar flaen siopau cwmnïau mawrion, i gystadlu â sticeri Fair Trade. Sef sticer “Bastard trade: profit before people”. Yn ei ddull proffesiynol arferol, fe lwyddodd i gofrestru’r logo gydag Intellectual Property Office y Llywodraeth!

Wel, dyna chi enghreifftiau o’r anghydffurfio sydd wedi digwydd hyd yn hyn. Fel mae teitl y sioe yn esbonio, gwneud y pethau bach mae Mark. Ond y cwestiwn yw, a fydd yr holl bethau bach yn arwain at unrhyw newidiadau mawr?

Pwy a ŵyr, ond y peth pwysig yw ei fod, o leiaf, yn llwyddo i dynnu sylw at yr amryw anghyfiawnderau sy’n effeithio ar fywydau pobl cyffredin a chwmnïau bach ledled Prydain – a’r byd. Ac mae’n llwyddo i wneud hynny mewn modd sy’n codi gwên, sy’n ysgafn, ac sy’n hollol wirion ar adegau – ond, er hynny, sy’n gwneud i chi feddwl am y gymdeithas sy’n cael eu greu, nid gan y werin bobl, ond gan y plutocrats ar bureaucrats.

Ond dyna ddigon gennyf i. Rwyf am fynd i wrando ar Beggar’s Banquet a meddwl am ble i osod fy sticeri ‘Bastard trade’.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma