The Lion the Witch and the Wardrobe

11 Rhagfyr 2015

Huw Onllwyn fu’n gwylio cynhyrchiad Cwmi Theatr y Sherman the Lion the Witch and the Wardrobe.

Mae ‘The Lion the Witch and the Wardrobe’ yn lyfr sy’n annwyl iawn i nifer ohonom. Llyfr a ddarllenwyd yn ein plentyndod, drosodd a throsodd, ynghyd â gweddill llyfrau’r gyfres Narnia.

Llyfrau annwyl a thynner – ac iddynt hud a lledrith, nid yn unig o fewn y straeon, ond hefyd yn y sgwennu crefftus. Llyfrau sy’n eich tywys drwy gefn yr hen gwpwrdd i fyd arall, sy’n llawn cymeriadau lliwgar, ryfeddol a diddorol, ond hefyd cymeriadau y gallwch gredu ynddynt – ac sy’n eich tynnu i fewn i’r straeon, yn awyddus i’w dilyn wrth iddynt grwydro Narnia.

Nid felly oedd hi, yn anffodus, yn y Sherman ar nos Sadwrn y 5ed o Rhagfyr.

Aethom yno fel teulu, yng nghwmni B a D a’u mab. Mae’n draddodiad gennym i fynd i sioe teuluol, ‘Nadoligaidd’, bob blwyddyn. Fel arfer, mae’n rhywbeth i’w fwynhau – ac yn rhyw fath o gychwyn rhoi’r glorian ar y flwyddyn a aeth heibio.

Ond ‘roedd ‘The Lion the Witch and the Wardrobe’ fodd bynnag, yn brofiad siomedig.

‘Clunky’ yw’r gair a ddaw i’r meddwl. ‘Roedd y sioe bron fel rhyw anghenfil o blentyn a geir drwy briodi drama a phantomeim. Er fod sawl perfformiad go dda i’w cael ymhlith y cast, cefais argraff gref nad oedd rhai (yn enwedig Matthew Woodyatt fel Aslan ac Anita Reynolds fel y Wrach Wen) wedi meddwl rhyw lawer am eu cymeriadau – na deall lle arwyddocaol Narnia yng nghof pobl (a oedd yn haeddu ymdrech priodol, felly, i ddatblygu eu cymeriadau). Bron y gallwch ddisgwyl i’r wrach droi at y gynulleidfa gan weiddi ‘He’s behind you!’. Undonog oedd ei pherfformiad (actores ddu, gyda llaw, a oedd yn cyflwyno dimensiwn ddiddorol i gymeriad y Wrach Wen) gyda phob llinell wedi ei gyflwyno yn yr un ‘snarl’ diddiwedd.

Hilariws iawn oedd perfformiad Aslan (ond, wrth gwrs, dyma yw’r cymeriad lleiaf hilarws o’r cyfan, i fod). Mynnodd Matthew Woodyatt gerdded ar draws y llwyfan fel petai ganddo rhywbeth anffodus yn styc lan ei ben ôl. Pam? Duw a ŵyr. O leiaf nid oedd yn undonog, fel y wrach, gan iddo siarad unai fel ‘llew mawr cryf’ (Grrrr! Snarl! Roar!} neu fel boi o’r cymoedd. Aslan yn dod o Treherbert?! Who knew?!

Derbyniol ond di-liw oedd perfformiad y plant (oedolion oedd yn eu perfformio, gyda llaw) a sawl cymeriad arall. Y gorau o’r cyfan oedd y boi ar y piano, wrth iddo serenni tra’n chwarae rhan wiwer am ddarn ‘cameo’: rôl a barodd llai na munud. Uchafbwynt y noson oedd hwnna, druan ohonom.

A wedyn, beth am y set a’r cynhyrchu? Bizzare yw’r gair priodol. Darparwyd cerddoriaeth drwy gydol y perfformiad gan ‘motley crew’ yng nghefn y llwyfan. Trwmped, tiwba, drwm a phiano. Ond anodd oedd gweld unrhyw gysylltiad rhwng y darnau o gerddoriaeth a’r hyn a wyddom yw naws straeon Narnia. Fe fyddai’r gerddoriaeth wedi bod yn iawn ar gyfer ffilm gan Felini, efallai, ond ddim hwn. Rhywfaint yn afiach a diangen ydoedd.

Prin oedd yr ymdrech i addurno’r llwyfan. Roedd y cynhyrchydd (Rachel O’Riordan) fel petai newydd ddarganfod fod darn o lwyfan y Sherman yn gallu troi mewn cylch. A dyma hi, felly, yn sicrhau fod hwnnw’n troi pob dwy funud yn ystod y perfformiad, boed hynny yn briodol neu beidio, a heb boeni os oedd troi’r llwyfan yn ychwanegu at y perfformiad. ‘Wheeee! Here we go again…round and round…!’

A beth yn y byd oedd gweddill y stwff ar y llwyfan? Dau set o risiau, Pam? Yn mynd i ble? Yn symbol o beth? Rwy’n ofni efallai ei fod yn symbol o’r ffaith fod dau set o risiau ar gael yn ystafell props y Sherman (‘Oh look! Stairs! We can use these!). Ac rwy’n amau fod yr un peth yn wir am ddillad yr actorion, yn enwedig Aslan a oedd yn gwisgo barf mawr blewog yn debyg i’r hyn sydd ar gael am £3 yn y joke shop yn High Street Arcade.

Bu rhywfaint o glapio llugoer ar ddiwedd y perfformiad – ond roedd llawer o’r gynulleidfa’n rhy brysur yn hel eu cotiau i glapio.

Mae’r sioe i’w weld hyd at 31 Rhagfyr.

Mwy o ymdrech blwyddyn nesaf plîs, Theatr y Sherman.

Llawer mwy.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma