The Curious Incident of the Dog in the Night-time

23 Ebrill 2015

Adolygiad Huw Onllwyn (a’i deulu …)

A yw’n ddoeth i mi, fel Cymro Cymraeg, ddweud mai un o gwmnïau theatr gorau Prydain yw’r Royal National Theatre?

O diar! Dyna ddiwedd ar fy mreuddwyd o ddod yn aelod o Orsedd y Beirdd (ac yna’n Archdderwydd erbyn i mi droi’n wyth-deg-wyth).

Ta waeth, dyma’r theatr a gynhyrchodd: ‘One Man, Two Guvnors’, ‘War Horse’, ‘The History Boys’, ‘The Madness of King George’, ‘Copenhagen’ a mwy. Ac, i blant, cynyrchiadau megis ‘Treasure Island’ ac ‘Emil and the Detectives’.

Meddyliwch am actor enwog: Peter O’Toole, Maggie Smith, Albert Finney, John Gielgud, Simon Callow, Judi Dench, Benedict Cumberbatch, Anthony Hopkins, Bill Nighy, Richard Griffiths…mae’n rhestr ddisglair a hir – a bu pob un ohonynt yn perfformio i’r theatr, o bryd i’w gilydd. Mae’r manylion i’w gweld yma.

Gwych felly, oedd gweld fod y cwmni’n dod â ‘The Curious Incident of the Dog in the Night-time’ i Ganolfan y Mileniwm (rhwng 14 a 18 Ebrill). Addasiad oedd hwn, wrth gwrs, o lyfr bendigedig Mark Haddon am blentyn (Christopher Boone) sy’n awtistig – a’r hyn sy’n digwydd iddo wedi iddo ddarganfod ci wedi ei ladd mewn gardd cymydog.

Prynais docynnau am tua £35 yr un, gan estyn gwahoddiad i’r fam yng nghyfraith (24 pwynt brownie) ac aethom i’r Ganolfan, gyda’r mab (10 oed) ar nos Wener. Bu rhaid ei rhybuddio fod rhywfaint o iaith cryf yn y ddrama – ac esbonio’r cyswllt awtistig.

Blwch mawr digidol oedd y llwyfan (gan gynnwys y llawr), gyda’r gallu i greu amrywiaeth ysgubol o effeithiau goleuo arbennig, er mwyn gosod y cyswllt ar gyfer amrywiol olygfeydd y ddrama. ‘Roedd hyn yn ychwanegiad gwych i’r perfformiad, yn cyd-fynd yn berffaith gyda pherfformiad yr actorion, heb dynnu’r sylw i ffwrdd o’u gwaith ar y llwyfan.

Wrth i Christopher wneud darlun ar ddarn o bapur, fe welwn, ar y blwch digidol, y gwaith hwnnw’n ymddangos o flaen ein llygaid. Wrth iddo deithio i Lundain, fe ddaeth y blwch yn drên, yn orsaf ac yn gasgliad o arwyddion.

Mae’r stori’n un cyfarwydd, wrth gwrs, ond fe ddaeth yn fyw ar y nos Wener o dan ofal Joshua Jenkins (o Abertawe, a fu’n chwarae’r prif gymeriad). ‘Roedd modd cydgerdded ag ef, trwy ei ofnau a’i bryderon – ei fuddugoliaethau a’i ddatblygiad. Fel yn y llyfr, roedd yna hiwmor (da) ac elfen o’n haddysgu am effaith awtistiaeth ar y person awtistig, ei deulu a’r bobl sy’n cyffwrdd ei fywyd, boed hynny fel athro neu fel rhywun sy’n gwario dim mwy na deng munud yn ei gwmni.

Llwyddodd Christopher Boone i ddisgleirio fel mathemategydd – ac fe gawsom addewid i glywed, wedi i’r ddrama orffen, am sut aeth ati i ddatrys y broblem yma: “Show that a triangle with sides n2 + 1, n2-1 and 2n (n>1) is a right triangle”.

Ac yn wir, hynny a fu, ac mewn dull difyr iawn (ond ddim cyn i chwarter y gynulleidfa adael – gan feddwl fod y sioe ar ben – duh!), eto gan ddefnyddio’r blwch digidol i ddangos pob m o’i waith.

[Mae’r llyfr hefyd yn cyfeirio’n aml at fyd mathemateg. Fe welwch, er enghraifft, ei fod yn cychwyn ar bennod 2, wedyn 3, wedyn 5,7,11 ayb … sef y rhifau cysefin.]

Cafwyd perfformiadau call a chytbwys gan weddill yr actorion, yn enwedig gan Gina Isaac (fel mam Christopher) a Stuart Laing (fel ei dad).

Fy marn i am y perfformiad: amazing

Barn y mab: amazing

Barn fy ngwraig: arbennig o dda

Barn fy mam yng nghyfraith: yr ail hanner yn well na’r hanner cyntaf.

Lladdwyd bag cyfan o M&Ms yn ystod y perfformiad.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma