‘The 39 Steps’ yn Camu i’r Blaen

21 Mehefin 2016

Adolygiad gan Hannah Pearce

Nos Fawrth oedd noson agoriadol, a fy nhro cyntaf i weld, ‘The 39 Steps’ yn y Theatr Newydd. Wedi clywed sylwadau da am y sioe o’r blaen, roedd gen i ddisgwyliadau mawr ohoni, yn enwedig wrth ystyried mai addasiad o ffilm enwog ydyw. Fel rhywun sydd weithiau’n cwestiynu a yw addasiadau o ffilmiau yn medru gweithio’n llwyddiannus ar y llwyfan, roeddwn yn edrych ymlaen at weld sut fyddai’r cwmni theatr yn ymdopi gydag addasu’r ffilm yn sioe wrth ystyried cyfyngiadau’r theatr.

Gan gofio mai hon oedd noson agoriadol y sioe, roedd yr ambell gamgymeriad yn dderbyniol yn bennaf oherwydd y ffordd deliodd y cast gyda’r camgymeriadau hyn. Mewn gwirionedd, gan mai sioe gomedi yw’r addasiad, ychwanegodd y camgymeriadau hyn, megis y ffôn yn peidio â chanu ar amser, ac ambell amseriad esgeulus, at naws y ddrama ond mae’r diolch eto’n mynd i’r actorion. Byddai nifer o actorion wedi mynd i banig os nad oedd yr effeithiau sain yn digwydd ar yr union adeg gywir ond nid yr actorion hyn. Defnyddion nhw’r camgymeriadau bach i’w mantais a gwneud yn fawr ohonynt er mwyn ychwanegu at eu perfformiadau fel bod y ddrama’n fwy doniol nag a ddylai fod. Roedd rhai aelodau o’r gynulleidfa bron yn eu dagrau o achos yr holl chwerthin ac felly mae’n sicr y gellir dweud bod pawb wedi mwynhau.

Adrodd hanes y prif gymeriad, Richard Hannay, a’r helyntion mae ef yn dod yn rhan ohonynt a wna’r ddrama. Wedi tystio llofruddiaeth Annabella Schmidt, mae Richard yn dysgu am gynllwyn ysbiwyr ond rhaid iddo ddianc gan fod yr awdurdodau’n amau mai ef sy’n gyfrifol am ladd Annabella. Mae’r ddrama’n enghraifft dda o fod yn y lle anghywir ar yr adeg anghywir ac mae’r hyn sy’n datod o ganlyniad yn sicr o adael y gynulleidfa’n eu hanner.pc2

Dim ond pedwar aelod oedd yn y cast ac felly roedd angen iddynt weithio’n galed iawn gan fod cymaint o gymeriadau bach i’w chwarae. Golyga hyn fod angen newid gwisgoedd a phropiau’n gyflym gan fod y cymeriadau weithiau’n newid o frawddeg i frawddeg. Mae’n rhaid canmol dau actor yn bennaf am hyn sef Andrew Hodges a Rob Witcomb. Roedd eu newidiadau slic o gymeriad i gymeriad yn wych a synnais gan effeithlondeb y newid propiau; roedd rhai o’r newidiadau mor gyflym, roedd yn syndod na chafodd unrhyw brop ei ollwng. Yn ogystal â hyn, roedd eu newidiadau rhwng acenion y cymeriadau’n ganmoladwy iawn. Roeddwn y newidiadau’n ganmoladwy yn enwedig gan fod rhai o’r acenion hyn yn acenion cryf a gallaf ddychmygu nad yw’n hawdd newid rhwng acen Albanaidd gryf ac acen Seisnigaidd bob yn ail frawddeg. Wrth gwrs, ychwanegodd hyn at ddigrifwch y stori a’r mwynhad cefais wrth wylio’u perfformiadau.

pc1

Olivia Greene a Richard Ede yn portreadu cymeriadau Pamela a Richard Hannay

Y broblem fwyaf mae rhywun yn ei hwynebu gyda newidiadau cyson a chyflym yw sicrhau clirdeb ac er, ar y cyfan, nid oedd hyn yn broblem, ar adegau, teimlais fod yna duedd gan yr actorion i ruthro dros eu geiriau. Roedd hyn yn achosi i’r ddeialog fynd yn aneglur gydag ambell actor yn dueddol o fwmian yn lle ynganu’i eiriau’n gywir. Weithiau, roedd yr actorion yn canolbwyntio cymaint ar y newidiadau cyflym fel bod eu lleisiau’n mynd yn aneglur ac o ganlyniad, roedd yn anodd dilyn y stori. Byddwn yn awgrymu, felly, bod y newidiadau gwisgoedd, propiau a chymeriadau’n arafu ychydig er mwyn lleihau ar dueddiadau rhai i fwmian geiriau ac er mwyn sicrhau bod y gynulleidfa dal yn medru dilyn y stori.

Wedi dweud hynny, mwynheais y sioe ac roeddwn yn falch o gael y cyfle i fynd i’w gweld. Mae hi’n ddrama ddoniol sy’n cyferbynnu â’r ffilm fwy difrifol. Serch hyn, roedd yn dda gweld sut roedd yr actorion wedi ymdopi gydag addasu’r ffilm i’r theatr ac fe wnaethpwyd defnydd da o bropiau fel rhan o hynny. Mae’r sioe yn y Theatr Newydd tan ddydd Sadwrn 18fed o Fehefin felly ewch i’w gweld cyn iddi gamu ymlaen i’r theatr nesaf!

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma