Talent dibendraw’r Parry Isaacs

18 Rhagfyr 2014

gan Huw Cwstard Onllwyn

Pan oeddwn yn fachgen ifanc, roeddwn yn gallu neidio 46 gwaith ar fy mhogo stick, cyn disgyn i’r llawr. Roedd fy chwaer yn gallu chwarae ‘chopsticks’ ar y piano; fy mam yn gallu hongian papur wal – a fy nhad yn gallu torri’r lawnt yn ddel.

Yn wir, ‘roeddwn yn meddwl amdanom fel teulu bach talentog, poblogaidd a deniadol.

Nes, hynny yw, i mi glywed y Parry Isaacs yn Canada Lakes Lodge, Creigiau, ar nos Wener y 5ed o Rhagfyr.

Bum yno gyda fy mab a’i ffrind (yn 10 a 9 mlwydd oed). Roedd y Lodge wedi ei drefnu ar gyfer noson gabaret. O’m cwmpas, eisteddai boneddigion a boneddigesau Creigiau, Radur, yr Eglwys Newydd, Rhiwbeina a thu hwnt. Uwch fy mhen, ‘roedd addurniadau Nadoligaidd a hubbub hapus y gynulleidfa.

Cydiais yn fy ‘complimentary mince pie and mulled wine’ – a setlo lawr i wylio teulu talentog, poblogaidd a deniadol Caryl Parry Jones. Sef Caryl; ei merched (Miriam, Greta ac Elan Isaac); ei mab, Moc Isaac; Non Wyn Williams (cyfnither Caryl) a Myfyr Isaac (gŵr Caryl). Yn chwarae gyda nhw ‘roedd Geraint Cynan a Steff Rhys Williams.

Mae gennod y Parry Isaacs (gan gynnwys y fam, wrth gwrs) yn hynod o brydferth – ac yn gallu canu’n hollol swynol. Mae’r dynion yn gallu chwarae’r gitâr yn wych a, gyda’i gilydd, maent wedi ffurfio grŵp sy’n dod â math newydd o adloniant post-eisteddfodol i ni Gymry soffistigedig.

Cawsom ein diddanu gan ddetholiad o ganeuon Cymraeg a Saesneg Nadoligaidd (megis ‘Seren Fach’, ‘Gŵyl y Baban’, ‘Let it Snow’ a ‘Winter Wonderland’). Roedd y perfformiadau’n hyfryd a hynod o broffesiynol – gyda’r canu’n creu blanced cynnes a chysurus o fy nghwmpas. Weithiau, cefais y teimlad fy mod mewn parti Nadolig mewn tŷ crand yng nghefn gwlad Cymru; a weithiau fy mod yn rhan o’r gynulleidfa mewn gwesty mawr yn rhywle fel Efrog Newydd, yn y 1940s. Eithaf da am £10, a dweud y gwir.

Mwynheais y cyfan. Y canu fel grŵp – a’r canu unigol. Mwynheais yn arbennig y darnau gan Greta Isaac (sy’n dalent enfawr), gan gynnwys darn go drist gan Joni Mitchell. Mae llais Greta yn un annwyl a thyner – ddim yn annhebyg i Emmylou Harries (un o gewri canu gwlad Nashville). Yn wir, rwy’n argymell yn gryf eich bod yn clicio yma er mwyn gwrando ar ei EP newydd, ‘Down by the Water’: http://www.amazon.co.uk/s/ref=nb_sb_ss_c_0_11?url=search-alias%3Ddigital-music&field-keywords=greta+isaac&sprefix=greta+isaac%2Caps%2C212. Ac i’w brynu, wrth gwrs. Os oes unrhyw degwch yn y byd, fe fydd Greta’n fyd-enwog cyn bo hir (fel ei mam!)

Ond, er mwyn osgoi gormod o sibling rivalry, mae’n bwysig i mi bwysleisio fod y gennod i gyd yn canu fel angylion!

Noson i godi arian i ‘Dathlu’r Plant’ oedd hwn, sef elusen sy’n codi arian i helpu plant gyda awtistiaeth. Mae Moc, mab Caryl, ar y sbectrwm awtistiaeth, a chawsom glywed ganddo am effaith awtistiaeth ar ei fywyd – ac am y modd y bu’n bosib iddo ddatblygu a thyfu drwy fyd cerddoriaeth. Fe ddaeth yn gyntaf yn ei flwyddyn yng Ngholeg Pen-y-bont a braf iawn oedd ei glywed yn datgan fod modd ei ‘ddiffinio’, bellach, trwy ei gerddoriaeth, yn hytrach na thrwy ei awtistiaeth.

Rwy’n edrych ymlaen i weld y Parry Isaacs eto (gan obeithio y bydd y teulu’n trefnu mwy o gyngherddau). Fe fydd unrhyw un sy’n darllen hwn yn ffôl iawn i’w colli.

Pob hwyl

Huw Cwstard

(Pam Huw Cwstard? Blynyddoedd maith yn ôl fe dywalltodd Caryl ei phwdin ar fy mhen, wrth wasgu heibio i ddychwelyd i’w lle yn ffreutur gwersyll Glan-llyn. Esboniodd mai damwain oedd y digwyddiad, cyn fy medyddio gyda’r enw newydd. Hapus ddyddiau!)

 

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma