Taflu golau ar un o sêr Y Gwyll: Hannah Daniel

22 Medi 2015

Mae’r gyfres dditectif poblogaidd Y Gwyll nol ar ein sgriniau yr Hydref yma. Bu Pobl Caerdydd yn holi un o’r prif actorion, Hannah Daniel, sy’n chwarae rhan y Ditectif Sarsiant Siân Owens:

Ces i ‘ngeni yn ysbyty’r Heath ar yr 20fed Ionawr, 1986. Tyfes i lan yn yr Eglwys Newydd – gyda fy mam, fy nhad, fy mrawd hŷn, Mathew a nes mlan cyrhaeddodd fy chwaer fach Beca – sydd nawr yn 16. Es i i Ysgol Glantaf lle ges i ieuenctid hapus – tyfais i lan mewn ardal lle roedd fy ffrindie agosaf o fewn tafliad carreg. Aethon ni i gyd i’r un ysgol gynradd ac uwchradd ac y’n ni’n dal yn ffrindie mawr heddi.

Pam ddewisoch chi fynd yn actores, beth yw’r atynfa?

Ers oedran cynnar ro’n i’n mwynhau cynulleidfa – rhywbeth i neud gyda bod yn ail blentyn, mae’n siwr! Ond yn fy arddegau daeth y diddordeb yn fwy o beth pan ddes i’n aelod o weithdy drama “The Workshop” sy’n cael ei redeg gan Pete Woolridge. Ro’n ni’n cwrdd yn wythnosol ar nos Fawrth gyda chriw o bobol ifanc o bob rhan o Gaerdydd. Mi oedd e’n brofiad hollol gwahanol i’r ysgol – yma roedd e fel ‘sen ni’n cael ein annog i fod yn ddrygionus – a gofyn cwestiynau am bethau dadleuol. Dim jazz hands na gor-fynegi eisteddfodol mewn golwg – ro’n i wrth fy modd yna! Ond doedd gyrfa fel actores ddim wir wedi fy nharo i fel opsiwn tan yn hwyrach. Ges i rhan mewn drama BBC fel o’n i’n gorffen fy lefel A, a gweithias i fel actores am flwyddyn cyn mynd i Lunden i astudio Llenyddiaeth Saesneg gyda rhyw syniadau mawr am ddod yn sgwenwraig neu’n gyfarwyddwr. Fe dreuliais i rhan fwya o’n tair blynedd yn Holloway Rd gyda’r National Youth Theatre, a daeth yn amlwg mai dyma oedd lle o’n i’n fwyaf bodlon. Felly ar ôl gorffen coleg, bwres i mlaen a mentro ar fywyd fel actores.

Hannah fel DS Siân Owens

Hannah fel DS Siân Owens

Sut gymeriad yw Sian Owens? Wnaethoch chi ymchwil i mewn i waith plismones?

Ma Sian yn dditectif ifanc, street-wise, uchelgeisiol sy’n byw a bod yn ei gwaith. Cyn dechre’r gyfres gynta, fe aethon ni i ymweld â swyddfa’r heddlu yn Aberhonddu lle dreulion ni ddiwrnod yng nghwmni ditectif yn holi cwestiynnau – nid yn unig am brotocol gwaith, ond hefyd am yr ochr mwy personol; sut ma ymdrin â aelodau teulu mewn galar, a sut mae rhywun yn ymdopi pan yn gweithio ar achosion trychinebus. Daeth yn amlwg ei bod hi’n anodd weithiau peidio gadael i’r gwaith effeithio’ch bywyd personol – oedd yn ddiddorol i’w hystyried wrth chware rôl Sian. Mae ffrynt proffesiynnol Sian yn un cadarn – mae’n benderfynnol o greu argraff da yn y gwaith ac yn cadw ei bywyd tu fas i’r gwaith yn bwrpasol briefat.

Yn y gyfres gynta welon ni fawr ddim o fywyd personol Sian ond yn yr ail gyfres mae’r ddau fyd yn dechre treiddio i mewn i’w gilydd sy’n taflu Sian mewn i banic, oedd yn hynod o gyffrous i’w chwarae, ac yn codi’r cwestiwn: beth sydd â Sian i’w guddio?!

Beth yw’r berthynas rhyngddi hi a gweddill y criw?

Mae’r pedwar cymeriad yn wahanol iawn i’w gilydd – wedi eu taflu at ei gilydd trwy eu gwaith. Ond dyma lle maent yn treulio rhan fwyaf o’u bywydau felly mae’r pedwar, yn eu ffordd eu hunain, oll mor unig a’i gilydd. Heb yn wybod felly, maent wedi dod yn rhyw deulu bach anarferol.

Daeth Sian i Geredigion o Gaerdydd – ac felly mewn nifer o ffyrdd roedd hi’n estron i ffordd o weithio rhywun fel Mared – sydd erioed wedi gadael yr ardal. Fe welon ni densiwn rhyngddynt i ddechre – Sian efallai ar hast i brofi ei gwerth i’r “maverick” Mathias, a Mared yn ei gweld yn esgeulus, neu’n torri rheolau dan arweiniad y bos newydd. Fel canlyniad, datblygwyd rhyw gyfeillgarwch annisgwyl rhwng Sian a Lloyd – dau gymeriad hollol wahanol – ond sydd erbyn hyn yn debyg i frawd a chwaer. Yn gefn i’w gilydd tra bo’r ddau “rhiant” yn sortio’u gwahaniaethau!

Mae’r gyfres wedi cydio yn nychymyg nid yn unig y Cymry Cymraeg ond drwy Brydain. Pam y’ch chi’n meddwl?

Mae’n beth cyffroes iawn bod cyfres sydd mor unigryw i Gymru wedi atynnu sylw cynulleidfa tu hwnt y ffîn.  Fyddai’r gyfres byth yn gweithio petai wedi ei seilio yn unrhywle arall – mae’r storïau wedi eu hysbrydoli gan dirwedd canolbarth Cymru, a’r cymeriadau yn aml fel petaent wedi dringo’n syth mas o’r tir! A dwi’n credu bo’r tirwedd yn rhan fawr o atyniad y sioe – mae gosod sioe dditectif gyfoes, o fewn y byd cyntefig hwn – yn creu rhywbeth unigryw, sydd yn cael ei gyfoethogi hyd yn oed yn fwy gyda’r ffaith bo hanes, diwylliant a iaith ein hunain gyda ni. Mae pobol yn mwynhau ymgolli i mewn i fyd arall wrth wylio drama, a dyw gwylio drama â isdeitlau ddim yn beth dieithr i ni heddiw, felly pam ddyliai Cymru ddim cymryd rhan – mae digon gyda ni i weud!

Dwli byw yn Nhreganna

Dwli byw yn Nhreganna

P’un sy well gennych- cefn gwlad canolbarth Cymru neu’r brifddinas?

Cyn dechre ffilmio’r Gwyll mi fydden ni wedi dweud Caerdydd yn sicr. Cyrhaeddais orsaf drenau Aber o Lunden heb syniad beth i’w ddisgwyl – ro’n i wedi bod yna fel myfyrwr yn ymweld â ffrindie ond doedd dim syniad da fi am harddwch a rhamant y lle. Ond erbyn hyn, heb fod yn rhy cliché, dwi wir wedi dod i garu’r ardal. Ro’n i mor hapus i fynd yn ôl at gyfer yr ail gyfres.  Wedi gweud hyn, mae’r enaid ddinesig yn gweld ishe signal ffôn weithiau… Ar y funud dwi ar drên orlawn, chwyslyd o Gaerdydd i Lunden ac mae canolbarth Cymru’n syniad atynniadol iawn. Ond efallai os fyddech chi’n gofyn i fi ar ben mynydd mis Ionawr nesa, yn sefyll ar un goes yn trio danfon text, fydden i’n ymateb yn wahanol!

Beth yw eich hoff beth am fyw yng Nghaerdydd? Hoff leoedd yn y ddinas?

Rwy’n dwli ar gyfeillgarwch y lle. Er ei fod yn brifddinas, gyda digonedd yn digwydd, mae ysbryd cartrefol yn dal i fod yno. Dwi’n byw yn Canton ar y funud ac er bod llawer yn anghytuno, dwi wrth fy modd ar Cowbridge Road – o fewn radiws milltir alli di lenwi dy fol, trwsio dy sinc, hemio dy drowsus,  a phostio llythyr cyn hyd yn oed croesi’r ffordd. Ac mae digonedd o gymeriadau i ysbrydoli’r dychymyg.

A fydde chi’n hoffi newid un peth am Gaerdydd?

Yr amserlen bws

Beth yw’r sialens nesaf i chi? Sut y’ch chi am weld eich gyrfa yn datblygu?

Rydw i’n datblygu syniad ar y cyd am gomedi Cymreig wedi ei seilio yng Nghaerdydd – esgus arall i grwydro Cowbridge Road.

Mae Y Gwyll ar S4C Nos Sul am 9pm. Am fwy o wybodaeth am y gyfres neu i wylio eto cliciwch yma

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma