Symud y teulu o Gaerdydd i’r Gorllewin: y manteision a’r anfanteision

20 Mawrth 2014

gan Iola Wyn  (sgwrs ar gyfer Cyfarfod Cyffredinol Menter Cwm Gwendraeth a Llanelli)

Ar  ôl cael gwaith ar raglen Ffermio nol yn 2005, fe benderfynon ni fel teulu symud i’r gorllewin, ac anelu am rywle yn y canol rhwng Nain a Taid Rhiwbeina a Mamgu a Tad-cu Bow Street.

Un o’r  prif ofynion wrth asesu gwahanol leoliadau oedd y cyswllt trafnidiaeth. Roedd angen bod yn agos i ffordd ddeuol er mwyn cyflymu a hwyluso taith y gŵr i’r gwaith. Ac fe ddewison ni Sanclêr, un set o oleuadau traffig ar waelod yr hewl, a dyna ni wedi hynny, ffordd ddeuol a thraffordd i Gaerdydd. Erbyn hyn wrth gwrs, ma’ hanner dwsin o oleuadau ar gylchdro Pensarn, Caerfyrddin!

Pam symud felly, a finne wedi treulio 15 mlynedd hapus yng Nghaerdydd yn fyfyrwraig cyn cael swydd a dod o hyd i  narpar ŵr yn yr un wythnos ym mis Medi ‘93? 

Roedd y meibion yn 4 a 2 oed ac felly os symud, roedd angen gwneud hynny cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol.

A dyna wnaethon ni. ‘Dw i ddim yn cofio trafodaeth fawr, er bod y gŵr yn gyn ddisgybl Glantaf, ac yn credu taw Parc Ninian oedd ei gartref ysbrydol. Fuodd yna ddim rhestr fel y gwelwch chi ar raglenni fel A Place in the Sun neu Home or Away!

A finnau wedi cael fy magu yng nghefn gwlad, dymuno’r un fath o fagwraeth i’r plant odd y brif dynfa, lle y bydden nhw’n rhydd i grwydro drws nesa, yn medru clywed y Gymraeg o’u cwmpas a’i defnyddio hi’n gyntaf mewn siopau. A oeddwn i’n meddwl y byddai ganddyn nhw afael gadarnach ar y Gymraeg pe bai nhw’n byw yn y Gorllewin? Oeddwn ynta. Ydw i’n dal i gredu hynny heddi’?  ‘Dw i ddim yn siŵr.

A finne’n Gardi, un o’r manteision mwyaf wrth symud i’r Gorllewin oedd cael gwell bargen wrth brynu ty! A chael gardd i’r plant redeg fel ffyliaid, heb orfod archwilio byth a beunydd am bŵ pŵ cathod, fel y byddem yn ei wneud yn yr iard gefn yn Nhreganna.

Gwahaniaeth arall ar y pryd oedd cael plymar, trydanwr, saer coed, yr holl grefftwyr yma’n siarad Cymraeg, ac yn hysbysebu’n Gymraeg ar ei faniau.

Mantais amlwg arall – gyda’r plant yn agosáu at oedran ysgol – doedd dim angen gwneud cais am le mewn ysgol Gymraeg wrth iddyn nhw ddod allan o’r groth! Roedd yna banics rhyfedda’ yng Nghaerdydd ar y pryd, a rhieni’n aros am fisoedd, os nad blwyddyn cyn cael gwybod i ba ysgol y byddai eu plant yn mynychu ac, yn waeth, a fyddai eu brawd neu chwaer mewn ysgol wahanol. Dridiau gymrodd hi cyn i Gyngor Sir Gâr anfon llythyr atai yn cadarnhau bod y cyntaf anedig wedi cael lle mewn ysgol Gymraeg oedd allan o’r dalgylch, ddeng milltir o’n cartref yng Nghaerfyrddin.

Mae’r meibion yn derbyn addysg penigamp yma, ac mae’n nhw’n siarad Cymraeg yn gwbwl naturiol ar iard yr ysgol. A fydden nhw’n gwneud hynny pe bai nhw mewn ysgol yng Nghaerdydd? ‘Dw i’n credu y bydden nhw. Oherwydd dros y blynyddoedd, ‘dw i wedi dod i ddeall nad yr ysgol na’r gymuned sy’n dylanwadu fwyaf ar y plant, sy’n saernio’u Cymreictod nhw. Mae’r cyfrifoldeb hwnnw ar ysgwyddau’r rhieni yn y cartref. Os ydy’r ewyllys a’r dyfalbarhad gan y rhieni, mae modd dysgu’r plant am bwysigrwydd ein diwylliant ni o’r crud, lle bynnag mae rhywun yn byw.

Fe symudwn ni ymlaen at yr anfanteision felly. Y newyddion da ydy, un anfantais yn unig sydd ar y rhestr, ond yn anffodus, mae’n un hynod o bwysig, ac un sy’n peri pryder mawr i fi.

Dw i o’r farn y byddai mwy o gyfleoedd i’r plant ddefnyddio’r Gymraeg yn gymdeithasol, y tu allan i iard yr ysgol yng Nghaerdydd, yn enwedig ym maes chwaraeon.

Ydw i wedi dod o hyd i wersi tenis trwy gyfrwng y Gymraeg i ‘mhlant yma? Nadw. Odyn nhw ar gael yng Nghaerdydd ? Yden. Ac mi allai restru mwy i chi. Mae modd cael gwersi a bod yn aelod o dîm pêl-droed,rygbi, pêl-rwyd, gymnasteg, nofio, merlota a llawer mwy trwy gyfrwng y Gymraeg yng Nghaerdydd. Ac mae hynny trwy bartneriaeth rhwng y Cyngor yno, Menter Caerdydd a’r Urdd.

Ddwy flynedd yn ôl wrth ddathlu penblwydd y mudiad yn 90 oed, fe gyhoeddodd yr Urdd ei weledigaeth ar gyfer y 10 mlynedd nesaf o dan y teitl, Ymlaen i’r 100. Ymhlith eu haddewidion yw sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru yn cael cyfle i wneud gweithgareddau chwaraeon trwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddyblu nifer y clybiau chwaraeon o 70 i 140 a chynyddu nifer y gwirfoddolwyr o 600 i 1000..

Ddwy flynedd wedi i’r weledigaeth hon gael ei chyhoeddi, fel mam, fedra i ddim gweld effaith eu hymgyrch nhw eto, na gweld unrhyw fomentwm i gyflawni hyn yn y gorllewin. A ’dw i yn gofyn y cwestiwn, a ydy Adran Chwaraeon yr Urdd mor weithgar yma ag ydyn nhw yng Nghaerdydd? A oes yna gyd-weithio tebyg rhwng yr Urdd, Cyngor Sir Gâr a’r Mentrau iaith yma? A chyn i ni sôn am gôst, ry’n ni’n trafod yr angen am nifer fawr o wirfoddolwyr fan hyn. Byddai hyfforddi chwaraeon, o dan oruchwyliaeth oedolyn yn gyfle gwych i ddisgyblion chweched dosbarth. Mi fydden nhw’n elwa; mi fyddai’n plant ni’n elwa. Dydw i ddim yma i feirniadu unrhyw sefydliad sy’n ceisio hybu’r Gymraeg – gwastraff amser fyddai hynny, a dyw amser yn sicr ddim o’n plaid ni yma yn Sir Gâr. Does gynnon ni ddim wyth mlynedd i adfer y Gymraeg yma, ac mae angen i ni i gyd-weithio yn hytrach na checru ymysg ein gilydd.     

Yng Nghaerfyrddin, y trueni mawr ydy fod yna dimau pêl-droed lle mae’r mwyafrif llethol yn siarad Cymraeg, ond oherwydd fod un neu ddau yn ddi-Gymraeg, Saesneg yw iaith y tîm, a Saesneg sydd i’w chlywed pan eu bod nhw’n ymarfer a chystadlu ar y cae pêl-droed. A’r peryg’ mawr yn sgîl hynny ydy bod y plant sydd wedi arfer siarad Cymraeg â’i gilydd yn dechrau dod i arfer â siarad Saesneg – dyw e ddim yn ymddangos yn annaturiol a rhyfedd ar ôl sbel.

Ac mae hyn yn un o’r prif broblemau wrth i’r Gymraeg geisio goroesi yn ei chadarnleoedd, ac nid yma’n Sir Gâr yn unig. Fe dybia i fod y sefyllfa union yr un fath yng Ngheredigion. Ac nid bai’r bobl ifainc yma ydy bod y Saesneg yn iaith naturiol iddyn nhw y tu allan i’r dosbarth. Ni, fel oedolion sy’n eu gadael nhw i lawr, drwy beidio â darparu gweithgareddau iddyn nhw trwy gyfrwng y Gymraeg.

A gai apelio’n daer arnoch chi, fel unigolion yma yn y gorllewin i ystyried ffyrdd o hybu chwaraeon a gweithgareddau eraill trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sir hon. Mae hynny’n gwbwl allweddol wrth i ni gyd gydnabod bod yn rhaid i’r Gymraeg fod yn fwy na iaith y dosbarth.

All hi ddim goroesi fel arall, ac mae cyfrifoldeb arnom ni i gyd i sicrhau fod yna weithwyr a gwirfoddolwyr sy’n fodlon cynnal amrywiol glybiau trwy gyfrwng y Gymraeg, o fale i gymnasteg, o bêl-droed i jiwdo. Mae angen i ni i gyd ymdrechu hyd eithaf ein gallu i sichrau fod hyn yn digwydd. Mae cyd-weithio yn hanfodol, fel y gwelwn ni o’r patrwm yng Nghaerdydd.     

 Dydw i ddim wedi sôn amdana i eto. Fel mae unrhyw fam a thad yn gwybod, y plant sydd wastad yn dod yn gyntaf! Fyddwn i ddim wedi mentro symud i’r Gorllewin oni bai bod swydd wedi ei chynnig i mi yma ar raglen Ffermio. Fe fues i’n hynod o ffodus i gael cynnig swydd arall, saith mlynedd yn ddiweddarach, a hynny yn Ystafell Newyddion y BBC yng Nghaerfyrddin – swydd arall ar stepen y drws. Pan dwi’n dweud “hynod o ffodus” mae’n bur debyg na fyswn i’n defnyddio’r ymadrodd hwnnw pe bawn i’n cyfeirio at waith yng Nghaerdydd. Wrth reswm, mae mwy o swyddi ar gael yn y brifddinas. Ond fel nifer fawr iawn o bobl  yn y gorllewin, mi rydw innau hefyd wedi colli ’ngwaith yn ddiweddar. A dwi’n pwysleisio fan hyn, dyw’n sefyllfa i ddim gwaeth nag unrhyw un arall yn yr un picil. 

Ry’n ni byth a beunydd yn clywed fod ein pobl ifanc ni’n gadael cefn gwlad er mwyn cael gwaith mewn dinasoedd. Yn gwbwl ddealladwy, mae nifer ohonyn nhw’n dymuno hynny, yn ysu am gyffro’r ddinas. Ond mae ’na eraill sy’n dymuno aros yng nghefn gwlad. Mae aelodau hynod o dalentog y Ffermwyr Ifanc yn enghraifft berffaith. Mae’n holl bwysig fod cyfleoedd ar gael iddyn nhw yn eu cynefin er mwyn iddyn nhw arddangos y sgiliau hynny, a chyfrannu’n helaeth i’r cymunedau sydd dirfawr angen y doniau yma.

Ac i’r bobl sydd fymryn yn hŷn, fel fi, mae’n holl bwysig bod modd i ninnau hefyd barhau i fyw yma, i fagu ein plant yma. Mae’n gyfnod digon ansefydlog i fi’n bersonol ar hyn o bryd, wrth i fi sefydlu gwasanaeth cyfathrebu newydd ar fy liwt fy hun. A dwi’n teimlo mod i’n aros ar groesffordd – croesffordd cofiwch, nid cylchdro gwallgo Pensarn! Amser a ddengys a oes digon o gyfleoedd allan yna ar garreg y drws, neu a fydda i’n falch mod i wedi prynu ty ger y ffordd ddeuol yna sy’n cyflymu’r daith i Gaerdydd i chwilio am waith.

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Ser Y Cwm yn dweud:

Mae clwb pêl-rwyd Cymraeg yng Nghwm Gwendraeth: Sêr y Cwm!