‘Survival of the Fittest’ Caerdydd 2013: A dioddefws a orfu!

4 Hydref 2013

Roedd Casia Wiliam o Glanyrafon a’i ffrindiau wedi penderfynu gosod ychydig o her i’w hunain a chofrestru ar gyfer ras 10k ychydig yn wahanol ym Mae Caerdydd y penwythnos diwethaf. Dyma’r hanes…

Diwrnod diflas ym mis Ebrill oedd hi. Doedd na’m llawer yn digwydd ac roedd hi’n bwrw reit drwm pam ddes i ar draws hysbyseb ar gyfer ras o’r enw Men’s Health, Survival of the Fittest.

Survival_of_the_fittest_1Hm, be di hwn meddwn i? Wel, ras 10 cilomedr o amgylch Caerdydd, gyda nifer o rwystrau ar hyd y ffordd. Wel, ar ddiwrnod gwlyb a diflas ym mis Ebrill roedd hyn yn swnio fel hwyl, felly ar ôl dipyn o berswâd dyma fi a naw o ffrindiau yn penderfynu rhoi ein henwau ar y rhestr.

Ffast-fforwyrd i ddechrau Medi. Roedd pawb yn sibrwd geiriau fel ymarfer, rhedeg a gym. Roedd rhai pobl yn dechrau dod a bocs bwyd iach i’r gwaith. Roedd ambell un yn rhedeg ras 10k cyn bo hir, fel rhan o’r hyfforddiant. Nefi wen, yr unig beth cynhyrchiol ‘o ni wedi ei wneud oedd rhoi cylch mawr o amgylch Medi 29 ar fy nghalendr, felly dyma ddechrau trio cymryd y peth o ddifrif.

Dyma roi ychydig o draciau bywiog ar fy mp3 a mynd i redeg. Y peth ydy, dwi ddim wedi bod yn redwraig erioed felly mi gymod dipyn o amser i ddod i arfer – tydi o ddim mor hawdd ac mae o’n edrych. Ro ni’n astudio dieithriaid yn rhedeg ar lwybr yr afon Taf fel barcud; mae’n siŵr ‘mod i’n edrych reit cripi, ond y gwir ydy sut mae rhywun fod i wybod pa mor uchel i godi’r coesau, ac ar ba ongl i ddal y ddau benelin. Ac mae’r peth symla yn y byd yn ddyrys mwya’ sydyn. Sut dwi fod i anadlu?sotftrywydd

Mi ddaeth y diwrnod mawr, a phawb wedi rhyw fath o baratoi. Wedi brecwast cyflym o reis crispis a banana dyma feicio i lawr i’r bae lle’r oedd y ras yn dechrau. Roedden ni gyd yno yn ei t-shirt gwyrdd Men’s Health, rhif ar ein boliau a trainers am ein traed. Roedd pawb yn cael tag electronig er mwyn iddyn nhw fesul ein hamser yn rhedeg felly roedd rhaid clymu hwnnw i garai ein hesgidiau.

Felly ar ôl cynhesu fymryn wrth neidio fel seren o flaen dyn hynod frwdfrydig o’r enw Keith, i ffwrdd a ni.

Y rhwystr gyntaf oedd dringo dros dair rhestr o fels gwair, a diolch byth doedd hyn ddim yn ormod o strygyl. Wedyn i ffwrdd a ni i redeg o amgylch y bae. Roedd pawb i’w weld yn iawn, a haul annisgwyl o gynnes yn tywynnu arnom ni. Ymlaen a ni, linc di lonc. Wedyn roedd rhaid dringo dros fframiau haearn anferth, cropian trwy amryw lefelau mewn bocsys pren, ac wrth gwrs, mwy o redeg. Syniad pwy oedd hyn eto?

Dros res hirfaith o hyrdls, dan rwydi, cario bag tywod, swingio ar raff, a mwy o redeg. Ar ôl pasio’r arwydd 4k ro’ ni (jyst fymryn bach) isio crio. Roedd ‘na 6k i fynd, a mwy na hanner y rhwystrau eto i ddod! Ond wrth edrych o gwmpas a gweld pawb arall yn dal ati, lot o dynnu coes, chwerthin a phobl yn gweiddi cefnogaeth, doedd dim dewis ond parhau.

Nesaf roedd rhaid mynd o dan bont ac i mewn i’r afon Taf! Do ni ddim yn ffansio hyn a bod yn onest ond a dweud y gwir roedd o’n fendigedig o oer ar ôl pedwar deg munud o chwysu! Mi gafodd y dyn diogelwch laff wrth ein sblasio ni efo’i rwyf a mi gafon ni gyd oeri ryw radd selsiws neu ddwy. Win win.

Wedyn i ffwrdd a ni eto, trwy Grangetown wrth swingio o far mwnci i far mwnci a llamu o blatfform i blatfform, cyn cyrraedd Stadiwm y Mileniwm. Roedd o’n brofiad reit anhygoel bod i mewn yn y Stadiwm a’r lle yn hollol dawel ac eithrio sŵn traed ar y llawr. Roedd pyst yr haul yn boddi’r lle nes ei fod yn felyn i gyd ac roedd hi’n hawdd anghofio am eiliad ein bod ni ar ganol rhedeg ras hollol wallgof.

sotfbaeYn ôl am y bae wedyn, gan daclo allt a rhaff a chastell bownsio ar ein ffordd. Yr arwydd anhygoel – 9k! Roedd gwen ar sawl wyneb erbyn hyn a phawb yn cyflymu wrth agosáu at y rhestr olaf – wal enwog y ras. Mae’r wal oddeutu 7 troedfedd o uchder, felly os nad ydach chi yn anhygoel o dal, eu yn medru neidio yn ddiawledig o uchel, mae gofyn cael leg-up.

Yn lwcus i fi roedd ‘na foi clên efo mwd drosto yn sefyll wrth y wal.

“Come on then love, put your foot on your shoulder.” Ac felly, gan gamu ar ben dyn diarth y daeth y ras i ben. Plymio i mewn i sgip llawn dŵr wedyn i’w gorffen hi yn iawn, cyn croesi’r llinell derfyn.

Mi orffennodd pawb ohona ni, a ddwy awr ers cychwyn y ras roedd pawb yn sefyll yn wen o glust i glust gyda medal am eu gyddfau. Roedd o’n brofiad… diddorol! Lot o hwyl, lot o waith, lot o chwysu, lot o chwerthin. Dwi wedi dysgu bod gen i gyhyrau nad ‘o ni’n gwybod am ei bodolaeth nhw, a dwi wedi treulio deuddydd yn cerdded fel dynes bren. Ond wyddoch chi be? Mi oedd o werth o.

(Y prif lun yn dangos Casia, Fflur Scott a Rhodd Hughes ar ddiwedd y ras)

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma