Sunny Afternoon? You’ve really got me!

18 Ionawr 2017

Adolygiad gan Gwenda Richards, o sioe Sunny Afternoon yn seiliedig ar gerddoriaeth The Kinks, yn Nghanolfan y Mileniwm. 

Wedi cael fy magu yn y chwedegau, ces i fy nhrwytho yng ngerddoriaeth y cyfnod. Roedd caneuon y Stones, Beatles a’r Kinks yn gyfarwydd iawn ac yn llenwi’r stafell wely- drwy transistor bach fy nhad o’n i’n ‘menthyg’ yn achlysurol achos doedd gen i ddim un fy hun. Roeddwn yn cymryd synau’r gitars a’r rhythmau newydd yn gwbwl ganiataol.

Ond neithwir wrth weld ‘Sunny Afternoon’ – sioe gerdd am y Kinks, fe ddaeth hi’n glir gymaint o chwyldro oedd sŵn gitâr Dave Davies- yn fudr ac yn amrwd. Degawd cyn i punk rock ddod ar y sîn.

Creu cyffro

Greda i fod canran helaeth o’r gynulleidfa wedi dawnsio i ‘You Really Got Me’ a ‘All Day and All of the Night’ yn eu harddegau felly y cwestiwn mawr oedd, a allai criw ifanc o actorion, ail greu cyffro a naws y 60au i’r rocers hyn yma.

Yr ateb,  ar ôl sefyll ar ein traed am y deng munud olaf yn canu a dawnsio i hits mwyaf y grŵp oedd – oedden yn sicr.

Mae’r sioe gerdd yn dilyn hanes Ray Davies, ei frawd bach Dave, ei ffrind gorau Pete Quaife a’r drymiwr Mick Avory o’u dyddiau fel y Ravens, grŵp canol ffordd o o Muswell Hill yn cefnogi crwner 50aidd Robert Wace (Joseph Richardson), i ddiwedd y 60au pan oedden nhw’n sêr pop go iawn.

Mae Sunny Afternoon yn cymryd amser i godi stêm oherwydd bod hi’n gyfuniad o sioe gerdd a sioe ‘jukebox’. Mae’r cymeriadau yn canu rai o ganeuon llai adnabyddus Ray Davies wrth actio ond hefyd mae na adegau pan mae nhw ‘ar y llwyfan’ mewn cyngerdd. Unwaith daw hyn yn gyfarwydd, mae’r perfformiadau yn tyfu, yn enwedig gyda’r golygfeydd rhwng Ray a’i wraig Rasa (Lisa Wright) sy’n dyner a theimladwy iawn.

 Ryan O'Donnell (Ray Davies), Mark Newnham (Dave Davies), Andrew Gallo (Mick Avory) and Garmon Rhys (Pete Quaife).

Ryan O’Donnell (Ray Davies), Mark Newnham (Dave Davies), Andrew Gallo (Mick Avory) and Garmon Rhys (Pete Quaife).

Allan o reolaeth

Fel llawer o fandiau roedd y berthynas rhwng y pedwar aelod yn aml yn un stormus. Mae Mark Newnham yn chwarae Dave fel brawd bach sydd yn gwbl allan o reolaeth ar brydiau- yn enwedig pan mae’n cael strop ar y llwyfan (yng Nghaerdydd fel mae’n digwydd) gyda Mick Avory (Andrew Gallo). Ac roedd y berthynas rhyngddo a’i frawd Ray (perfformiad gwych gan Ryan O’Donnell) yn gystadleuol dros ben. Nhw oedd y Liam a Noel cynta!

Mae llawer wedi’i ysgrifennu am ddyfeisgarwch Dave fel gitarydd. Cewch weld yn y sioe sut yn union creuwyd y swn fuzzy yng ngordiau cychwynnol ‘You Really Got Me.

Daw Pete Quaife i syrffedu ar y teithio di bendraw ac mae Garmon Rhys wedi llwyddo i greu cymeriad hoffus deallus o’r chwareuwr bâs yn enwedig yn yr olygfa lle mae’n gadael y band.

Rhaid canmol hefyd fod pob un ar y llwyfan yn chwarae offerynnau o bryd i’w gilydd. Dwi’n edmygu eu talent yn fawr.

Gwnaeth y Kinks ddim argraff fawr yn America, yn bennaf am anghydfod rhyngddyn nhw a’r undebau oedd â rheolau llym ynghlyn â cherddoriaeth a darlledu bryd hynny. Dyma ddyddiau Jimmy Hoffa a’r Teamsters cofiwch.

Mae’r sioe yn llawn cyfeiriadau doniol- er enghraifft mae tad Ray Mr Davies (Robert Took) yn cyfeirio at anhawsterau America. “It’s ironic that the only socialist group around was thrown out of America by the unions.”

Ond y gerddoriaeth sy’n ennill yn y diwedd- os na fyddwch chi ar eich traed erbyn y diwedd sdim gobaith. Mae’r sioe yma yn sicr yn dod a heulwen braf i ddyddiau du fis Ionawr.

Mae Sunny Afternoon ymlaen yng Nghanolfan y Mileniwm hyd Ionawr 21 2017. Am fwy o wybodaeth ac archebu tocynnau ewch i’r wefan.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma