Strategaeth ddrafft Llywodraeth Cymru: miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

9 Tachwedd 2016

Cynllunio ieithyddol ar gefn pecyn sigarets

Cyflwyniad

Miliwn o siaradwyr Cymraeg!

Hwre! A mawr ddiolch i Alun Davies AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Llywodraeth Cymru, am fynd ati, gyda’i strategaeth iaith arfaethedig, i greu cymaint yn fwy ohonom!

Mawr obeithiaf y daw’n weinidog dros iechyd, cyn bo hir, pan fydd modd iddo sicrhau meddyg teulu ymhob stryd – a sicrhau y bydd pob un ohonom yn byw yn iach hyd nes ein bod yn 100 mlwydd oed.

Wedyn gall weithio fel y gweinidog dros yr economi – lle bydd modd iddo addo swydd fel prif weithredwr i bawb, cyn mynd ati i symud pencadlys Apple o Galiffornia i Geredigion. Ac yna, jest cyn iddo fe ymddeol, gall wario amser fel y gweinidog amaethyddiaeth, er mwyn troi ffermydd Cymru’n winllannoedd a chreu gwin cystal ag unrhyw beth a ddaw o Bordeaux.

O na fyddai pob gweinidog fel Alun!

Cydiais mewn copi o strategaeth drafft Alun, felly, gyda gwên hapus ar fy wyneb, wrth ddychmygu cerdded ar hyd Stryd y Frenhines yn nghanol Caerdydd gan weiddu ar bawb sy’n pasio ‘Hawddamor, gyfaill annwyl – a sut ydych chi heddiw? A ddaru chi fwynhau’r holl gynganeddu yn yr Eisteddfod?’

Dyma ddarllen y strategaeth yn ofalus, felly, er mwyn gweld sut, yn union, yr oedd Alun am gyflawni ei wyrth ieithyddol.

Teimlais ychydig yn drist, fodd bynnag, gan gofio y bydd Alun yn 86 mlwydd oed erbyn i ni gyrraedd y miliwn o siaradwyr yn 2050. Go debyg na fydd yn gyfrifol am y Gymraeg erbyn hynny, felly fe fydd yn bwysig i ni wneud yn siŵr ei fod yn derbyn ein diolch, bryd hynny, am achub yr iaith.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, dyma fy ymateb i’w ddogfen.

Y peth cyntaf i’w ddweud, wrth gwrs, yw mai peth go fach yw’r strategaeth drafft. Dim ond 22 tudalen sydd yma, yn trafod sut mae mynd ati i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Ond, wedi’r cyfan, mae hynny bron cymaint a’r maniffesto a gyhoeddwyd gan y Blaid Lafur yn ystod etholiad y Cynulliad, yn gosod allan sut y byddent yn rheoli Cymru gyfan am y pum mlynedd i ddod.

Fel y gwelwch yn y ddogfen isod, rwy’n gofyn 25 cwestiwn i Alun, sef:

Cwestiwn rhif 1: Pam wyt ti wedi dewis miliwn o bobl fel targed (heblaw am y ffaith fod Cymdeithas yr Iaith wedi crybwyll y ffigwr)? A oedd rhesymau gwyddonol / sosio-ieithyddol am hyn, neu a oeddet jest yn meddwl fod miliwn yn swnio’n darged eithaf da?

Cwestiwn rhif 2: Wyt ti am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, newydd, rhugl? Os felly, wyt ti’n cytuno fod angen i ti greu 681k ohonynt?

Cwestiwn rhif 3: Os nad wyt am sicrhau fod gennym 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl, yna beth yn union wyt ti’n trio ei greu? A beth yn union fydd y pwynt o greu pobl sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, neu ychydig o Gymraeg, neu ychydig eiriau o Gymraeg – ond ddim yn ddigon rhugl i’w defnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas call?

Cwestiwn rhif 4: Alun, a wyt ti am i’r miliwn o siaradwyr Cymraeg fod yng Nghymru, neu a fyddi di’n cyfrif y rheini sy’n byw tu hwnt i Gymru – ac ar draws y byd? Os yr ail opsiwn, sut byddi di am eu cyfrif?

Cwestiwn rhif 5: Pam bydd y cynnydd yn arafach ar gychwyn y cyfnod?

Cwestiwn rhif 6: Alun, a fedri di gyhoeddi graff, neu tabl, yn dangos faint o siaradwyr Cymraeg newydd y bydd angen eu creu pob blwyddyn, rhwng nawr a 2050, er mwyn cyrraedd targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl?

Cwestiwn rhif 7: Alun, os wyt am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd, rhugl, a fedri di ddangos yn y graff neu dabl (a fydd yn ateb cwestiwn 6) faint o ddosbarthiadau Cymraeg newydd fydd ei hangen pob blwyddyn – a pha ganran o holl ddosbarthiadau’r sector gynradd fydd hynny, pob blwyddyn?

Cwestiwn rhif 8: Alun, a oes gennyt dystiolaeth sy’n dangos y bydd rhieni 78% o blant Cymru (neu 92% o blant Cymru) am iddynt fynd i ysgolion Cymraeg? Os nad oes 78% o rhieni (neu 92% o rhieni) am i’w plant fynd i ysgolion Cymraeg, sut wyt ti am newid eu meddyliau?

Cwestiwn rhif 9: Alun, faint o oedolion sy’n dysgu’r iaith sy’n llwyddo i ddod yn siaradwyr rhugl pob blwyddyn, ar hyn o bryd? A beth fydd dy darged pob blwyddyn, rhwng nawr a 2050, o ran oedolion sy’n dysgu’r iaith sy’n llwyddo i ddod yn siaradwyr rhugl?

Cwestiwn rhif 10: Alun, a fedri di warantu mai ffigyrau’r Cyfrifiad fydd i’w defnyddio drwy gydol yr arbrawf yma – ac na ddylai unrhyw lywodraeth neidio draw at ffigyrau’r Annual Population Survey neu’r National Survey for Wales, gan eu bod yn uwch?

Cwestiwn rhif 11: Alun, a fedri di ddod o hyd i’r ffigyrau o ran aelwydydd Cymraeg yn y chwe categori, a’u cyhoeddi? Ac a fedri di esbonio beth sydd i’w wneud os yw’r nifer o bobl C yn debyg o leihau?

Cwestiwn rhif 12: Alun, a fedri di gadarnhau y byddi di, fel yr addewaist yn dy ddogfen, yn defnyddio fy nghynigion ac yn mabwysiadu’r targedau yr wyf yn eu cynnig yn y ddogfen?

Cwestiwn rhif 13: Alun, a wnei di sefydlu Fforymau’r Bobl, er mwyn creu cyswllt cryf rhwng y llywodraeth a’r bobl ar lawr gwlad sy’n ceisio achub y Gymraeg?

Cwestiwn 14: Alun, beth yw dy ddiffiniad o ‘thriving language’? Fe fydd gwybod hynny’n ein  helpu i benderfynu a yw dy strategaeth yn llwyddo.

Cwestiwn 15: Os nad oes digon o rieni am ddewis addysg Cymraeg i’w plant, a wyt ti yn meddwl y bydd dal modd i ti greu miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl drwy’r system addysg?

Cwestiwn rhif 16: Beth, yn union, yw ystyr ‘…economic infrastructure is an essential part of language planning at the local level..’ – a beth fydd yr allbwn? Beth, Alun, wyt ti’n ei ddeall yw’r berthynas rhwng yr economic infrastructure a’r iaith – a beth wyt ti am ei gyflawni yn y maes?

Cwestiwn rhif 17: Alun, sut wyt ti’n rhagweld y daw’r iaith yn berthnasol i berson sy’n siarad, dyweder, Saesneg ac Arabeg? Sut wyt ti am sicrhau ei fod yn dod yn berthnasol iddynt – a beth bydd y fantais i’r iaith wrth i ti sicrhau fod hynny’n digwydd? Sut y byddi di’n mesur cynnydd gyda hwn?

Cwestiwn rhif 18: Alun, pam nad wyt yn sôn yn yr adran ‘normaleiddio’ am y trydydd sector a’r sector breifat?

Cwestiwn rhif 19: Alun, sut fyddi di am fynd ati i ddatblygu cyfleodd i siaradwyr newydd ddefnyddio’r iaith yn y gweithle, yn gymdeithasol ac yn y cartref?

Cwestiwn rhif 20: Alun, a wnei di sicrhau fod ein ysgolion Cymraeg yn sicrhau mai dim ond y Gymraeg sy’n cael ei siarad ar dir yr ysgol – a fod pob rhiant a disgybl yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith?

Cwestiwn rhif 21: Alun, a fedri di sicrhau y bydd modd i ti gyhoeddi’n gyson tystiolaeth o ran llwyddiant gwaith sy’n hybu trosglwyddo’r iaith o fewn y teulu (gan gynnwys yng nghyswllt y CCs, CDs, DDs, CSs a’r DSs)?

Cwestiwn rhif 22: Alun, a fedri di ofyn i Comisynydd y Gymraeg i gyhoeddi canllawiau statudol yn esbonio i’n hawdurdodau lleol sut i fynd ati i fabwysiadu’r safon iaith hybu.

Cwestiwn rhif 23: Alun, pa gymorth fydd ar gael – a faint o adnoddau fydd i’w neilltuo ar gyfer y gwaith o brif ffrydio’r Gymraeg i waith cyrff nad sy’n atebol i’r safonau iaith? A pwy fydd yn gwneud y gwaith?

Cwestiwn rhif 24: Alun, a wnei di gyhoeddi’r polisiau yn esbonio sut y byddi di’n cefnogi’n hael ac yn gyflawn ein Mentrau Iaith a chyrff eraill megis yr Urdd; sicrhau mai dim ond Cymraeg sydd i’w siarad yn ein hysgolion Cymraeg – a pholisi marchnata er mwyn help sicrhau fod ein pobl ifanc am ddefnyddio’r Gymraeg?

Cwestiwn rhif 25: Alun, a fedri di anghofio’r syniad hurt yma? Neu, fel arall, a fedri di esbonio sut byddi di’n sicrhau nad yw’r Asiantaeth Iaith Genedlaethol newydd yn arwain at dryswch o ran pwy sy’n gyfrifol am ba agwedd o ran hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg – a sut byddi di’n sicrhau fod canran digonol o arian yr Asiantaeth newydd yn cael ei wario ar lawr gwlad?

Ond, cyn iddo ymateb, dyma’r prif bwyntiau trafod:

Miliwn o siaradwyr Cymraeg!

O ble ddaeth y syniad hwnnw, tybed?

Wel, dyma’r polisi a gyhoeddwyd gan Gymdeithas yr Iaith ym mis Gorffennaf 2015 http://cymdeithas.cymru/miliwn . Mae’n braf iawn, felly, gweld Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu syniadau’r Gymdeithas. Pwy feddylie?!

Rwy’n cofio gweithio efo Syr Wyn Roberts AS pan oedd yn bolisi gan y Swyddfa Gymreig i beidio siarad o gwbl efo’r Gymdeithas. Erbyn hyn, y Gymdeithas sy’n llywio polisi’r Llywodraeth! Mae’n amlwg fod y Gymdeithas ‘on a roll’, felly beth am iddynt alw am 2 filiwn o siaradwyr, yn Eisteddfod 2017?

Yn y cyfamser, hoffwn ofyn i Alun:

Cwestiwn rhif 1: Pam wyt ti wedi dewis miliwn o bobl fel targed (heblaw am y ffaith fod Cymdeithas yr Iaith wedi crybwyll y ffigwr)? A oedd rhesymau gwyddonol / sosio-ieithyddol am hyn, neu a oeddet jest yn meddwl fod miliwn yn swnio’n darged eithaf cwl?

Ond, o ddifrif, beth a wnawn o’r filiwn?

Mae dogfen y Llywodraeth yn ein hatgoffa fod yna 562,000 o siaradwyr Cymraeg, yn ôl Cyfrifiad 2011. Mae Alun yn sôn, wedyn, fod angen 438,000 o siaradwyr Cymraeg ychwanegol (562k + 438k = 1 miliwn).

Ond, mae’n bwysig cofio mai dim ond 318,800 o’r 562k sy’n ystyried eu hunain fel person rhugl (http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-language-use-survey/?lang=en). Er mwyn cadw pethau’n syml, fe gyfeiriaf at ffigwr o 319k.

Ac, yn waeth na hynny, dim ond 140k sy’n defnyddio’r iaith adref, a dim ond 87k sy’n ei ddefnyddio efo ffrindiau.

Mae hyn yn codi cwestiwn, felly, sef pa fath o siaradwyr Cymraeg mae Alun am eu gynnwys yn ei darged o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg?

Fy marn i yw y dylai anelu at greu miliwn o siaradwyr Cymraeg sydd oll yn rhugl – ac sy’n defnyddio’r iaith adref ac efo’u ffrindiau. Os mai’r bwriad yw i greu iaith sy’n ffynnu ac sy’n cael ei defnyddio’n gyson, yna mae angen i ni greu siaradwyr Cymraeg da. Fel arall, pe byddai’r Llywodraeth yn creu nifer helaeth o bobl sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, ond ddim yn ddigon rhugl i’w defnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas call, yna taflu llwch i lygaid y genedl fyddai eu gwaith o ‘greu 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg newydd’.

Ac mae dogfen Alun fel petai’n cefnogi’r weledigaeth o greu siaradwyr Cymraeg rhugl. Mae’n sôn am:

We want to see Welsh as a normal part of everyday life – a language of habitual use for those who speak it

Increase people’s confidence to use Welsh so that they are more likely to begin conversations in Welsh

Ni fydd unrhyw siaradwr Cymraeg yn gwneud yr uchod, wrth gwrs, heblaw ei fod yn rhugl.

Os ydym, felly, am greu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl, mae angen creu 681k ohonynt (319k + 681k = 1m), nid 438k.

Dyma, felly, dau gwestiwn i Alun:

Cwestwin rhif 2: Wyt ti am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg, newydd, rhugl? Os felly, wyt ti’n cytuno fod angen i ti greu 681k ohonynt?

Cwestwin rhif 3: Os nad wyt am sicrhau fod gennym 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl, yna beth yn union wyt ti’n trio ei greu? A beth yn union fydd y pwynt o greu pobl sy’n gallu siarad rhywfaint o Gymraeg, neu ychydig o Gymraeg, neu ychydig eiriau o Gymraeg – ond ddim yn ddigon rhugl i’w defnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas call?

Wedi’r cyfan, rwyf innau’n gallu siarad rhywfaint o iaith Vietnam – gwn mai ‘chào buổi sáng’ yw ‘bore da’ yn y wlad honno. Ydy hwnna’n ddigon da i fy ngalw’n siaradwr iaith Vietnam? Beth os allaf ddweud ‘chúc ngủ ngon’ hefyd (nos da)? Neu ‘chính sách này có vẻ hơi thiếu sót’ (sef, ‘mae’r polisi yma rhywfaint yn ddiffygiol’)?

Os oes angen 681k, fe fydd angen creu 20,636 o siaradwyr newydd pob blwyddyn rhwng nawr a 2050. (20,636 x 33 mlynedd = 681k).

Yn ogystal a hyn, fe fydd angen 6,500 o siaradwyr Cymraeg newydd i gymryd lle y siaradwyr sy’n marw pob blwyddyn. Rhydd hyn gyfanswm o 27,136 o siaradwyr Cymraeg newydd pob blwyddyn (yn hytrach na’r 19,772 fyddai eu hangen i greu 438k o siaradwyr newydd, pe na fyddwn yn poeni rhyw lawer am safon iaith y miliwn).

Pe byddwn am sicrhau fod y miliwn o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru, fe fydd angen, yn ogystal, i greu 5,200 yn ychwanegol pob blwyddyn, i gymryd lle y siaradwyr Cymraeg sy’n symud allan o Gymru. Rhydd hyn gyfanswm o 32,336 o siaradwyr newydd pob blwyddyn!

Iesgob! Mae hynny’n lot o siaradwyr Cymraeg newydd. Ac mae’r ffigwr o 27,136 y flwyddyn (neu 32,336 y flwyddyn) yn cymryd yn ganiataol y byddwn yn dechrau eu cynhyrchu ar y cyflymdra hyn o 2017 ymlaen. Ond mae Alun wedi esbonio (ar dudalen 6 o’i ddogfen) y dylwn ddisgwyl i’r twf gynyddu yn hwyrach yn y cyfnod rhwng nawr a 2050.

Dyma, felly:

Cwestiwn rhif 4: Alun, a wyt ti am i’r miliwn o siaradwyr Cymraeg fod yng Nghymru, neu a fyddi di’n cyfrif y rheini sy’n byw tu hwnt i Gymru – ac ar draws y byd? Os yr ail opsiwn, sut byddi di am eu cyfrif?

Cwestiwn rhif 5: Pam bydd y cynnydd yn arafach ar gychwyn y cyfnod?

Cwestiwn rhif 6: Alun, a fedri di gyhoeddi graff, neu tabl, yn dangos faint o siaradwyr Cymraeg newydd y bydd angen eu creu pob blwyddyn, rhwng nawr a 2050, er mwyn cyrraedd targed o 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl?

Mae ffigyrau’r llywodraeth (http://gov.wales/docs/statistics/2016/160727-school-census-results-2016-en.pdf) yn dangos fod tua 35,000 o blant yn derbyn addysg gynradd (Cymraeg a Saesneg) mewn unrhyw flwyddyn (hynny yw, 35,565 o blant 4 mlwydd oed, 35,127 o blant 5 mlwydd oed, ac yn y blaen). Felly, pe byddem yn dibynnu ar y system addysg yn unig, i greu siaradwyr Cymraeg newydd (ac o gofio y bydd pob plentyn o deulu Cymraeg yn mynd iddynt, beth bynnag) – a hyd yn oed pe byddem yn dechrau eu cynhyrchu ar y cyflymdra o 27,136 y flwyddyn o 2017 ymlaen, fe fydd angen i 78% o blant ein hysgolion cynradd fynychu ysgolion Cymraeg (nid 50%, fel mae Alun yn dweud y ei ddogfen). Er mwyn cynhyrchu 32,336 o siaradwyr y flwyddyn, fe fydd angen i 92% o blant ein hysgolion cynradd fynychu ysgolion Cymraeg.

Felly:

Cwestiwn rhif 7: Alun, os wyt am greu miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd, rhugl, a fedri di ddangos yn y graff neu dabl (a fydd yn ateb cwestiwn 6) faint o ddosbarthiadau Cymraeg newydd fydd ei hangen pob blwyddyn – a pha ganran o holl ddosbarthiadau’r sector gynradd fydd hynny, pob blwyddyn? A hefyd faint o blant fydd yn mynychu ysgolion / dosbarthiadau Cymraeg pob blwyddyn?

Cwestiwn rhif 8: Alun, a oes gennyt dystiolaeth sy’n dangos y bydd rhieni 78% o blant Cymru (neu 92% o blant Cymru) am iddynt fynd i ysgolion Cymraeg? Os nad oes 78% o rhieni (neu 92% o rhieni) am i’w plant fynd i ysgolion Cymraeg, sut wyt ti am newid eu meddyliau?

Efallai y bydd yr ateb i gwestiwn 7 yn dangos y bydd angen i drost 100% o’n plant dderbyn addysg Gymraeg, bob blwyddyn, erbyn diwedd y cyfnod rhnwg nawr a 2050!

I fod yn deg, wrth gwrs, mae’r strategaeth drafft yn ein hatgoffa (ar dudalen 7) fod 15,520 o oedolion hefyd yn dysgu’r iaith (trwy gyrsiau Cymraeg i Oedolion). Ond, yng nghyswllt yr angen i greu siaradwyr newydd, dyma’r cwestiwn nesaf:

Cwestiwn rhif 9: Alun, faint o oedolion sy’n dysgu’r iaith sy’n llwyddo i ddod yn siaradwyr rhugl pob blwyddyn, ar hyn o bryd? A beth fydd dy darged pob blwyddyn, rhwng nawr a 2050, o ran oedolion sy’n dysgu’r iaith sy’n llwyddo i ddod yn siaradwyr rhugl?

Un pwynt arall yr hoffwn ei drafod yw cyfeiriad Alun at y gwahanol ddata sydd ar gael o ran y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg. Mae’n sôn, wrth gwrs, am y Cyfrifiad (562,016 yn 2011) yr Annual Population Survey (810,500 dros 3 mlwydd oed yn siarad Cymraeg) a’r National Survey for Wales (607,000 dros 16 yn siarad Cymraeg). Mae Alun, fodd bynnag, wedi defnyddio ffigyrau’r Cyfrifiad wrth ystyried beth sydd angen ei wneud er mwyn cyrraedd y miliwn.

Felly:

Cwestiwn rhif 10: Alun, a fedri di warantu mai ffigyrau’r Cyfrifiad fydd i’w defnyddio drwy gydol yr arbrawf yma – ac na ddylai unrhyw lywodraeth neidio draw at ffigyrau’r Annual Population Survey neu’r National Survey for Wales, gan eu bod yn uwch?

Ar dudalen 7, mae Alun yn trafod ‘Language acquisiton’, ac yn ein hatgoffa fod 82% o blant rhwng 3 a 4 mlwydd oed sy’n byw mewn cartrefi lle mae’r ddau rhiant yn siarad Cymraeg yn gallu siarad yr iaith. Mae’r ffigwr yn disgyn i 45% pan mai dim ond un rhiant sy’n siarad yr iaith.

Ac mae hyn yn bwysig, wrth gwrs, gan ein bod yn gwybod fod y rheini a fagwyd ar aelwyd Gymraeg yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio’r iaith yn naturiol, a’i defnyddio’n aml, weddill eu bywydau. Mae mwy ohonynt yn rhugl – ac mae 84% o siaradwyr rhugl yn defnyddio’r iaith yn ddyddiol, ond dim ond 26% o rheini nad sy’n rhugl sy’n ei ddefnyddio bob dydd.

Tybed a yw awydd rhiant i siarad Cymraeg efo’i blentyn yn dibynnu ar beth oedd iaith magwraeth y rhiant hwnnw? Ac a fyddai’n wir i ddweud y gall fod yn anodd, pe fyddai’r ddau rhiant wedi derbyn magwraeth drwy gyfrwng y Saesneg, i greu aelwyd Gymraeg?

Os yw hyn yn wir, gyda dau riant sydd wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol, gellir dadlau y byddai’n annhebyg iddynt greu aelwyd Gymraeg – ac mae prif obaith eu plant o ddysgu Cymraeg byddai drwy wneud hynny mewn ysgol Cymraeg, gan ail-adrodd profiad eu rhieni.

Ar y pegwn arall, gellir tybio y bydd dau riant sy’n siarad Cymraeg, ac wedi cael eu magu mewn aelwydydd Cymraeg, yn sicr o greu aelwyd Gymraeg i’w plant.

Ac, o fewn y gwahanol batrymau teuluol, mae gennych y canlynol (C = rhiant yn dod o aelwyd Gymraeg; D = rhiant wedi dysgu Cymraeg yn yr ysgol; S = rhiant di-Gymraeg):

Categori 1: C a C

Categori 2: C a D

Categori 3: C a S

Categori 4: D a D

Categori 5: D a S

Categori 6: S a S

Ni fydd aelwyd Gymraeg yng nghategori 6.

Gellir dadlau (wele uchod) y bydd categorïau 4 a 5 yn annhebyg o greu aelwydydd Cymraeg – a bod canran o gategori dau a tri hefyd yn mynd i fethu â chreu aelwydydd Cymraeg.

Fe wyddom mai cyfartaledd y CS a’r DS yw 45%, felly mae’r iaith yn colli tir ar draws y ddau gategori yma (er enghraifft, os bydd pob set o rieni yn cael dau o blant, yna fe fydd 50C a 50S gyda’i gilydd yn creu dim ond 45 C, sef colled o 5 C).

A chyfartaledd y CC, CD a DD yw 82%. Ond os yw CC yn llwyddo i drosglwyddo’r iaith bron 100% o’r amser, a DD bron 0%, yna beth yw’r ffigwr trosglwyddo o fewn teuluoedd CD? Os yw hwnna hefyd o dan 50% yna fe all yr iaith fod yn colli tir yng nghategorïau CD, CS, DD a DS (heb sôn am SS).

Ac hefyd, wrth gwrs, fe fydd ambell i C ifanc yn marw’n gynnar ac ambell i un ddim yn cael plant o gwbl – sy’n ergyd arall o ran yr Cs.

Hoffwn weld data, felly, am y ganran o aelwydydd Cymraeg sy’n cael eu creu ymhob categori, yn enwedig y categorïau CD a CS, achos, yn y pen draw, os yw’r nifer o bobl C yn lleihau, fe fydd llai o Cs arall ar gael iddynt i gyd-fyw efo, er mwyn creu aelwydydd newydd CC.

Ac efallai fod yna dystiolaeth fod hyn eisoes yn digwydd, wrth i’r ganran o bobl sydd wedi dysgu’r iaith yn y cartref ddisgyn o 58% o bobl rhwng 45 a 64 i ddim ond 21% o blant rhwng 3 a 15 (er, gellir disgwyl i’r ganran sy’n dysgu adref ddisgyn, gan fod yna fwy o addysg Gymraeg ar gael erbyn heddiw).

Ac, yn fwy o bryder, efallai, mae’r nifer o bobl sydd wastad, neu bron wastad, yn siarad Cymraeg yn y cartref wedi disgyn o 150,000 yn 2004-06 i 140,000 yn 2013-15.

Yn wir, fe allwn wynebu sefyllfa o’r enw the language decline accelerator.

Fe edrychais ar hwn (yn answyddogol) tra’n gweithio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Yn anffodus, nid yw’r gwaith mathemateg gennyf, erbyn hyn, ond rwy’n cofio i mi ragweld y bydd y teulu CC wedi diflannu, bron a bod, o fewn 110 mlynedd (a, gyda hynny, y teuluoedd CD a CS). Ac, ar hyd y daith, gellir disgwyl i’r cyfiawnhad i wario arian cyhoeddus ar y Gymraeg wanhau. Hwyl fawr S4C. Hwyl fawr i’r Cyngor Llyfrau. Hwyl fawr Radio Cymru.

Erbyn hyn, wrth gwrs, dim ond canrif fyddai ar ôl cyn i’r CCs ddiflannu.

Felly:

Cwestiwn rhif 11: Alun, a fedri di ddod o hyd i’r ffigyrau o ran aelwydydd Cymraeg yn y chwe categori, a’u cyhoeddi? Ac a fedri di esbonio beth sydd i’w wneud os yw’r nifer o bobl C yn debyg o leihau?

Targedau’r strategaeth

Mae adran 2 y ddogfen yn gorffen trwy esbonio mai creu miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yw unig darged y strategaeth. Mae hefyd yn gofyn a ddylai’r strategaeth gynnwys mwy o dargedau.

Rili?!

Nid yw’n dderbyniol yn fy marn innau, i gyhoeddi strategaeth drafft efo dim ond un targed, nad sydd i’w gyflawni am 33 mlynedd (yn enwedig wrth gofio mai 5 mlynedd fydd oes y strategaeth sydd i’w chyhoeddi). Felly, y gwir amdani yw fod Alun am gyhoeddi strategaeth heb unrhyw darged i’w gyflawni yn ystod oes y ddogfen! Mae’n f’atgoffa o’r geiriau: dereliction of duty!

Ond, yn ffodus iawn, mae Alun wedi datgan ar ddiwedd adran 2:

In your opinion, are there any targets or milestones that should be used to map the journey and measure our progress towards a million speakers? We will use your suggestions to draft a blueprint or roadmap plotting the intended journey over the years to come.

Felly, beth am:

  • sicrhau fod gan pob awdurdod lleol gynllun statudol (o dan Mesur Iaith 2011) i hybu’r iaith ar draws y cymunedau a wasanaethir ganddynt
  • sicrhau fod pob menter iaith yn derbyn £1m pob blwyddyn gan y llywodraeth (gan ddal at y thema o sicrhau’r miliwn)
  • sicrhau fod yr Urdd a’r Mudiad Meithrin yn derbyn £2m yr un pob blwyddyn
  • sicrhau fod pob ysgol Gymraeg yn mynnu fod pob disgybl yn siarad dim byd ond Cymraeg o fewn ffiniau’r ysgol, er mwyn iddynt ymarfer yr iaith – ac arfer ei ddefnyddio’n gyson – a pheidio amharu ar y defnydd o’r Gymraeg gan ddisgyblion sydd am ei defnyddio (rwy’n trafod hyn, isod)
  • targedau o ran y defnydd o’r iaith (mae yna ormod o ffocws yn nogfen Alun ar y niferoedd o siaradwyr ar hyn o bryd).

A dyma cwestiwn rhif 12: Alun, a fedri di gadarnhau y byddi di, fel yr addewaist yn dy ddogfen, yn defnyddio fy nghynigion ac yn mabwysiadu’r targedau yr wyf yn eu cynnig uchod?

Gwireddu’r weledigaeth

 Ar ddiwedd y darn byr yma mae Alun yn gofyn sut y gallwn ‘gyfrannu’.

Wel, ar ôl darllen y ddogfen, rwy’n meddwl fod y llywodraeth angen cryn dipyn o help. Felly, fe hoffwn gynnig eu bod y sefydlu ‘Fforymau’r Bobl’ (mewn ardaloedd gwahanol ar draws Cymru), fel ein bod ni sy’n gweithio ar lawr gwlad, ac sy’n deall y problemau a wynebir gan y rheini sy’n ceisio hyrwyddo’r defnydd o’r iaith, yn gallu gweithio efo’r llywodraeth dros y tymor hir – a chyfrannu at greu strategaeth sydd, er enghraifft, yn cynnwys targedau call a chynllun a fydd yn ein galluogi i wneud gwahaniaeth i’r iaith yn ein cymunedau.

Cwestiwn rhif 13: Alun, a wnei di sefydlu Fforymau’r Bobl, er mwyn creu cyswllt cryf rhwng y llywodraeth a’r bobl ar lawr gwlad sy’n ceisio achub y Gymraeg?

Mae’r darn yma hefyd yn sôn am ‘Welsh as a thriving language’.

Felly, cwestiwn 14: Alun, beth yw dy ddiffiniad o ‘thriving language’? Fe fydd gwybod hynny’n ein helpu i benderfynu a yw dy strategaeth yn llwyddo.

Cynllunio a pholisi iaith

Yn y darn yma mae’r ddogfen yn sôn am yr angen i ‘gynllunio’.

Syniad gwych!

Ond, dyma rybudd! Mae llawer o academyddion prifysgolion Cymru wrth eu bodd yn trafod cynllunio ieithyddol. Mae nhw’n credu’n gryf iawn fod angen ymarfer egwyddorion cynllunio ieithyddol yng Nghymru, yng nghyswllt y Gymraeg – ac mae gan bob un ohonynt gopi o lyfr Joshua Fishman, Reversing Language Shift: Theoretical and Empirical Foundations of Assistance to Threatened Languages, ar eu siffoedd llyfrau.

Dyma fe, os hoffech brynu copi: https://www.amazon.co.uk/Reversing-Language-Shift-Theoretical-Multilingual/dp/1853591211/ref=sr_1_2?ie=UTF8&qid=1478266023&sr=8-2&keywords=joshua+fishman

Fe fydd unrhyw academydd yn y maes yn dweud wrthych, wrth gwrs, ei fod yn llawr pwysicach i ni wario arian ar gynllunio ieithyddol (megis ariannu darnau o ymchwil a chynadleddau i drafod cynllunio ieithyddol) nag i wario arian ar bethau diflas a gor-simplistig fel Mentrau Iaith. Wedi’r cyfan, mae trafod cynllunio ieithyddol yn llawer mwy diddorol na mynd ati i drefnu gweithgareddau i blant a phobl ifanc – sydd ddim yn cynnig cyfleoedd i gynllunwyr ieithyddol i wneud eu hymchwil, sgwennu papurau diddiwedd a theithio’r byd i wahanol gynadleddau er mwy trafod eu papurau ac i anrhydeddu a llongyfarch ei gilydd am wneud hynny.

Rwy’n siaraf efo fy nhafod yn fy moch, wrth gwrs, ond heb i ni sicrhau cyllid digonol ar gyfer gweithredu (drwy’r mentrau iaith ayb), mae yna beryg i ni ganolbwyntio ormod ar waith sy’n debycach i’r broses o ail-drefnu’r deckchairs ar y Titanic, wrth i gwch yr iaith suddo i’r môr.

Ta waeth, mae dogfen Alun yn cynnig mai un o’r pethau cyntaf sydd angen i’w wneud yw creu mwy o athrawon sy’n gallu dysgu yn Gymraeg. Ond…onid oes yna gam cyn hyn, sef dod o hyd i faint o rieni sydd am i’w plant dderbyn addysg Gymraeg?

Achos, wedi’r cyfan, os nad oes digon o rieni am i’w plant dderbyn addysg Gymraeg, yna mae gan Alun broblem enfawr yng nghyswllt yr angen i greu 681k o siaradwyr Cymraeg newydd a rhugl erbyn 2050. Gwn fod gan y llywodraeth rhywfaint o wybodaeth am hwn – ond rwy’n meddwl ei fod yn deg iddynt ei gyhoeddi gyda’r strategaeth – yn unol a chwestiwn rhif 8, uchod.

A chwestiwn 15: Os nad oes digon o rieni am ddewis addysg Cymraeg i’w plant, a wyt ti yn meddwl y bydd dal modd i ti greu miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl drwy’r system addysg?

Yn gyffredinol, fodd bynnag, mae’r rhan yma o’r ddogfen (ar ôl y darn cychwynnol am addysg a’r gweithlu) yn llawer rhy gyffredinol i ni gael unrhyw syniad clir o’r hyn sydd i’w wneud er mwyn gwireddu’r strategaeth.

Er enghraifft, mae’n cynnwys jargon fel hyn:

Better strategic planning for the Welsh language across government and the wider public sector, especially in relation to economic development.

Ac:

As economic infrastructure is an essential part of language planning at the local level…

Felly, er mwyn i ni ddeall y jargon yn well a rhoi cig ar asgwrn y darn pwysig hwn:

Cwestiwn rhif 16: Beth, yn union, yw ystyr ‘…economic infrastructure is an essential part of language planning at the local level..’ – a beth fydd yr allbwn? Beth, Alun, wyt ti’n ei ddeall yw’r berthynas rhwng yr economic infrastructure a’r iaith – a beth wyt ti am ei gyflawni yn y maes?

Gyda llaw, mae iaith y rhan hon yn f’atgoffa am rhywbeth a wnes i bore ‘ma, sef:

Maximising the potential of engineered solutions whilst utilising a sound economic supplier-customer model to ensure that desired destinations are achieved

(Cyfieithiad: prynais docyn i fynd ar y trên i ganol Caerdydd)

Ond mae yma bwynt pwysig, sef os oes gwahoddiad i ni ymateb i ddogfennau fel hyn, mae angen iddynt fod mewn iaith syml – ac fe ddylai fod yn bosib i ni wybod beth yn union mae’r llywodraeth am ei wneud.

Fe welaf nad oes unrhyw sôn am y safonau iaith yma (sy’n mynd i orfodi cyrff cyhoeddus i ystyried sut i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg wrth iddynt ddatblygu polisiau a gwasanaethau – ac i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn gyffredinol ar draws y cymunedau a wasanaethir ganddynt). Onid yw hynny’n rhan bwysig o ‘gynllunio a pholisi iaith’?

 Normaleiddo

Mae gennyf ar fy nesg bullshitometer (£45 ar eBay) ac rwy’n ofni i’r nodwydd dorri wrth i mi ddarllen y darn yma.

Dyma’r cwestiwn ar ddiwedd y darn sydd, yn fy marn i, yn dangos y broblem gyda’r adran yma:

In your opinion, how else can we engender goodwill towards the Welsh language in order to further normalise it?

Beth yn union yw ystyr hwnna? Beth mae’r llywodraeth yn ystyried ei wneud – a beth fydd yn debyg o ddigwydd wrth iddynt wneud hynny?

A dyma ran o brif amcan y darn yma:

For the Welsh language to be a natural element of being a citizen in Wales in order to make it relevant to everyone, whether they speak Welsh, English or any other language…

Hoffwn wybod beth sydd yng nghefn meddwl Alun pan mae’n sôn am bethau fel ‘make it [Welsh] relevant to everyone whether they speak….English or any other language

Gallaf ddyfalu beth yw ystyr hwnna, ond rwy’n meddwl mai cyfrifoldeb Alun yw i wneud hwn yn gliriach.

Felly:

Cwestiwn rhif 17: Alun, sut wyt ti’n rhagweld y daw’r iaith yn berthnasol i berson sy’n siarad, dyweder, Saesneg ac Arabeg? Sut wyt ti am sicrhau ei fod yn dod yn berthnasol iddynt – a beth bydd y fantais i’r iaith wrth i ti sicrhau fod hynny’n digwydd? Sut y byddi di’n mesur cynnydd gyda hwn?

A beth am hwn:

Foster a situation where it is completely normal for people to use the Welsh language in their dealings with the state and public institutions in Wales.

Cwestiwn rhif 18: Alun, pam nad wyt yn sôn yn yr adran ‘normaleiddio’ am y trydydd sector a’r sector breifat?

A hwn:

Ensure that the Welsh language is more prominent in the audio-visual environment, so that it is evident it has official status.

Rwy’n cymryd mae gweld a chlywed y Gymraeg o gwmpas y lle, yw’r ystyr yma, yn hytrach na chyflwyniadau Powerpoint ayb. Ond a yw hwn yn un o’r syniadau gorau sydd gan y llywodraeth ar hyn o bryd, yng nghyswllt normaleiddio’r Gymraeg?

O diar!

A dweud y gwir, mae’r gweithredu a gynigir yn y darn yma fel petai’n canolbwyntio’n bennaf ar y berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a’r sector gyhoeddus (geiriau megis ‘use the Welsh language in their dealings with the state and public institutions in Wales’, ‘…so that it is evident it has official status’). Ond ai dyma yw hyd a lled normaleiddio?

Beth am agweddau eraill bywyd – a beth os nad yw Mrs Rhys o Nantlle am lenwi ei ffurflen dreth yn Gymraeg – oes ots? Beth os mai defnydd naturiol o’r iaith i hi yw ei siarad efo’i theulu a’i ffrindiau. A fyddai hynny’n ddigon?

Addysg

O diar! Fe aeth y bullshitometer yn wyllt, unwaith eto!

Beth yw ystyr hwn, er enghraifft:

The Welsh Government’s commitment to introducing one continuum of learning for the Welsh language, is an important step in this respect. Perhaps the best way of describing the ability to communicate through Welsh is to compare it with an arc, or “continuum”, that individuals can access at different points according to their ability. We should look at everyone on that arc in a positive light, and encourage people who use Welsh at any level to consider themselves Welsh speakers, without imposing artificial labels.

Beth am gyflwyno’r un syniadau mewn meysydd eraill, megis:

We should encourage people who can operate an aeroplane at any level (such as being able to switch the engines on) to consider themselves as pilots, without imposing artificial labels.

Tybed, fodd bynnag, a fydd hwn yn cynnig cerdyn Get Out of Jail Free i Alun, pan fydd yn 86 mlwydd oed, i ddweud fod gennym dros 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg, gan fod pawb yn gallu dweud ‘bore da’?

A beth yw ystyr hwn:

Teach Welsh as one language in order to create a continuum to improve progression and raise standards.

Ella fod yr ystyr yn glir i bobl sy’n ymhel â maes addysg, ond rwy’n meddwl fod angen gwneud datganiadau fel hyn, mewn dogfennau fel hyn, yn ddigon clir i bobl lleyg eu deall.

Felly fy ymateb i hwn yw beth am fynd ati i ddysgu’r Gymraeg fel wyth iaith? A yw hynny yn gwneud synnwyr? Ni wn.

Braf, fodd bynnag, yw gweld pethau fel hyn:

Develop innovative opportunities to enable new speakers to become confident to use Welsh in the workplace, socially and in the home.

Er hynny, diddorol yw gweld y cyfeiriad at y cartref! Sut bydd hyn yn digwydd?! A fydd Alun am alw heibio cartref pob dysgwr, am sgwrs yn y Gymraeg?

Rwy’n meddwl, felly, y dylid cynnwys ambell i enghraifft o sut y bydd Alun yn sicrhau y bydd hyn oll yn digwydd.

Felly:

Cwestiwn rhif 19: Alun, sut fyddi di am fynd ati i ddatblygu cyfleodd i siaradwyr newydd ddefnyddio’r iaith yn y gweithle, yn gymdeithasol ac yn y cartref?

Ond eto, y peth pwysig o ran addysg, yw’r angen i ni weld data o ran sawl ysgol Gymraeg fydd eu hangen pob blwyddyn – a sawl disgybl fydd eu hangen yn yr ysgolion hynny – rhwng nawr a 2050, er mwyn sicrhau 1miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl. Wedyn, fe fydd modd i ni wybod i ba raddau mae’r llywodraeth yn llwyddo – ac yn debyg o gyrraedd y targed. Efallai y bydd hynny i’w ddangos mewn Strategaeth Addysg Gymraeg newydd – ond mae angen gweld y ffigyrau yma’n fuan.

Rwy’n falch i weld hwn yma, fodd bynnag (er nad yw’r ystyr yn hollol glir):

Continue to develop and implement a framework which supports schools to encourage and increase pupils’ informal use of Welsh in a variety of settings.

Fy marn i am hyn yw fod angen i’n hysgolion wneud llawer mwy er mwyn sicrhau mai dim ond y Gymraeg sy’n cael ei siarad ar dir yr ysgol. Wedi’r cyfan, ysgolion Cymraeg ydynt – a dyma’r lle gorau i sicrhau fod plant a phobl ifanc o gartrefi di-Gymraeg yn cael y cyfle i ymarfer yr iaith – fel eu bod yn dod mor rhugl â phosib (fel arall, gall plentyn ddefnyddio Saesneg drwy’r dydd ar yr iard a dim ond dweud gair neu ddau yn y dosbarth yn Gymraeg).

Mae angen i hyn fod yn ddyletswydd ar ein hysgolion – efo cosb briodol i unrhyw blentyn sy’n gwrthod siarad Cymraeg (gellir ei alw’n rhywbeth fel yr English Not). Fe fydd hyn, hefyd, yn sicrhau tegwch i’r plant sydd am ddefnyddio’r Gymraeg – ond sy’n dod o dan bwysau gan ddisgyblion eraill i beidio a gwneud hynny.

Fe ddylai ysgolion hefyd wneud digon i sicrhau fod rhieni a disgyblion yn deall beth yw arwyddocâd ieithyddol gyrru plentyn i ysgol Gymraeg.

Heb hyn, gall yr iaith fod yn beth gwan ac arwynebol i nifer o’n pobl ifanc wrth iddynt adael yr ysgol.

Rwy’n anghytuno rywfaint, felly, efo honiad Alun (yn ei rhagair) nad oes modd mynnu fod plant yn chwarae gyda’i gilydd yn Gymraeg.

Cwestiwn rhif 20: Alun, a wnei di sicrhau fod ein ysgolion Cymraeg yn sicrhau mai dim ond y Gymraeg sy’n cael ei siarad ar dir yr ysgol – a fod pob rhiant a disgybl yn derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith?

Pobl

O na! Fe dorrodd y bullshitometer wrth i mi ddarllen hwn:

That being so, we need to consider to what extent the emphasis on ‘community’ as a residential, geographical entity is still important? Is the density of speakers created as people travel to work more important than the neighbourhood where they live?

Beth yn y byd yw ystyr hwnna?!

Ond tybed os mai cyfeiriad obtuse at yr hen ‘gymunedau Cymraeg traddodiadol’ yw hwn? Hynny yw, fod y darn yma’n adlewyrchu’r ffaith fod y cymunedau hynny sydd a mwy na 70% o’r trigolion yn siarad Cymraeg yn brysur lleihau – a does dim oll y gall y llywodraeth wneud am hynny. A’r farn fod yr ardaloedd hynny’n holl bwysig o ran dyfodol yr iaith. Felly dyma greu’r esgusodion nawr, cyn y cyfrifiad nesaf?

Ond efallai nad yw’r ’70%’ mor wyddonol a hynny, wedi’r cyfan…

Fe gynigiwyd y 70% fel ‘mater o bwys’ gan ystadegydd a oedd yn gweithio i Fwrdd yr Iaith Gymraeg beth amser yn ôl – ac ar y sail yma (ac rwy’n aralleirio…):

“Os bydd gennych 70% o drigolion yn siarad Cymraeg mewn ardal penodol, yna mae eu siawns o gyfarfod siaradwr Cymraeg arall, ar hap, yn 70% x 70%, sef 49%. Felly, os ewch lawer yn is na’r 70%, mae eich siawns o gyfarfod siaradwr Cymraeg arall, ar hap, yn mynd yn llai na’ch siawns o gyfarfod person nad sy’n gallu siarad Cymraeg”.

A dyna fe!

Nid yw’n swnio’n addas, i mi, fel sail i unrhyw gynllunio ieithyddol call – ac felly nid wyf yn siŵr y dylwn osod gormod o ffocws ar ddefnyddio’r 70% fel mesur o allu pobl i ddefnyddio’i hiaith yn eu cymunedau.

Rwy’n cofio mynd i ddarlith gan Kathryn Jones o gwmni Iaith, sbel yn ôl. Dangosodd i ni ‘ddyddiadur defnydd iaith’ bachgen tua 14 mlwydd oed, a oedd yn byw yn rhywle fel Caernarfon (ble mae tua 80% o’r trigolion yn siarad Cymraeg). Roedd y defnydd yn uchel, efo’r teulu – a’r teulu estynedig – efo ffrindiau, yn yr ysgol, mewn digwyddiadau cymdeithasol, wrth chwarae pêl droed efo’r Urdd ayb). A dyma bawb yn cytuno fod angen canran uchel o siaradwyr Cymraeg er mwyn medru defnyddio’r iaith gymaint â hyn.

Ac yna, wedi i ni hiraethu am fyw mewn cymuned o’r fath, cyfaddefodd Kathryn fod y bachgen, a dweud y gwir, yn byw rhywle fel Pontypridd.

Difyr! A diddorol…

Mae sôn yma, hefyd, am drosglwyddo’r iaith o fewn y teulu. Hoffwn weld y dystiolaeth diweddaraf o ran llwyddiant y math yma o waith (gan gynnwys yng nghyswllt y CCs, CDs, DDs, CSs a’r DSs). Felly:

Cwestiwn rhif 21: Alun, a fedri di sicrhau y bydd modd i ti gyhoeddi’n gyson tystiolaeth o ran llwyddiant gwaith sy’n hybu trosglwyddo’r iaith o fewn y teulu (gan gynnwys yng nghyswllt y CCs, CDs, DDs, CSs a’r DSs)?

Mae’r ffocws yn y darn yma ar ddysgu’r iaith. Ond ble mae’r hwyl – a chreu cyfleoedd i fwynhau defnyddio’r iaith? Yn y bôn, mae’r darn yma rywfaint yn nawddoglyd os ydych, fel fi, yn gallu siarad y Gymraeg yn weddol dda. Mae’n rhoi’r argraff ein bod braidd yn anobeithiol ac angen help i wella ein hiaith – yn hytrach na mwy o gyfleoedd i’w defnyddio (drwy, er enghraifft, wella’r gefnogaeth ariannol i gyrff fel y Mentrau, sy’n creu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn ardaloedd fel Caerdydd lle dim ond 15.7% sy’n siarad yr iaith).

Cefnogi

Mae hwn yn weddol.

Hawliau

Sioc a siom oedd gweld nad oedd unrhyw gyfeiriad yma i’r angen i awdurdodau lleol fabwysiadu safonau hybu’r Gymraeg, sy’n eu gorfodi i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r iaith o fewn eu cymunedau. (Hynny yw, i greu strategaethau iaith statudol, sirol).

Cwestiwn rhif 22: Alun, a fedri di ofyn i Comisynydd y Gymraeg i gyhoeddi canllawiau statudol yn esbonio i’n hawdurdodau lleol sut i fynd ati i fabwysiadu’r safon iaith hybu.

Y pum mlynedd cyntaf

Hwre! Mae llawer mwy o sôn am gynllunio ieithyddol yn y darn hwn!

Beyond the education system, another priority for the next five years will be to develop and embed a culture of systemic planning for the Welsh language at every level of governance

Tybed, os yw Alun yn cofio mai dyna yw bwriad rhai o’r safonau iaith? Beth bynnag, pob lwc da hwn, Alun!

A beth am hwn:

Our lives are increasingly dependent on technology and the internet, and we must take decisive steps so that Welsh is, by default, a central part of any developments.

Central?! Any develoments?! Gan Amazon, eBay, Google, Apple, IBM? Da iawn, Alun! Uchelgeisiol, eto!

Mae hwn yn ddiddorol:

We will work with partners to ensure that practical support is available to organisations that do not come under the Welsh language standards, in order to mainstream the language into the services they offer the public.

Ond beth yn union yw ystyr hwn? Rwy’n cymryd mai sôn am y trydydd sector a’r sector preifat yw hwn, felly:

Cwestiwn rhif 23: Alun, pa gymorth fydd ar gael – a faint o adnoddau fydd i’w neilltuo ar gyfer y gwaith o brif ffrydio’r Gymraeg i waith cyrff nad sy’n atebol i’r safonau iaith? A pwy fydd yn gwneud y gwaith?

Mae’r darn yn gofyn am ba bolisïau a ddylai’r llywodraeth eu cyhoeddi yn ystod 5 mlynedd gyntaf y strategaeth. Dyma ambell i gynnig:

  • polisi er mwyn cefnogi’n hael ac yn gyflawn ein Mentrau Iaith a chyrff eraill megis yr Urdd
  • polisi er mwyn sicrhau mai dim ond Cymraeg sydd i’w siarad yn ein hysgolion Cymraeg
  • polisi marchnata er mwyn help sicrhau fod ein pobl ifanc am ddefnyddio’r Gymraeg

Ond dyma ofyn, hefyd, i’r llywodraeth beidio â datblygu gormod o bolisïau. Gweithredu ac ariannu yw’r peth pwysig.

Cwestiwn rhif 24: Alun, a wnei di gyhoeddi’r polisiau uchod?

Diweddglo

Mae Alun yn dweud:

It is a great honour for the Welsh Government to take the lead and set the direction in relation to planning for the Welsh language.

Pam felly mae e am sefydlu Asiantaeth Iaith Genedlaethol newydd i hybu’r Gymraeg (heblaw am y ffaith fod Plaid Cymru wedi mynnu hwn, fel rhan o’r fargen i gytuno cyllideb y llywodraeth Lafur)?

Beth fydd hwn yn gwneud?

Fe fydd yn sicrhau y bydd tri corff â chyfrifoldebau statudol am hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg (y Llywodraeth, sydd a chyfrifoldeb o dan Adran 78 Deddf Llywodraeth Cymru i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg), Comisiynydd y Gymraeg a’r Asiantaeth newydd.

Hwre! Fe fydd mwy o arian yn mynd i bocedi swyddogion (ac i ariannu eu swyddfeydd crand) yn hytrach nag i rheini sy’n gweithio ar lawr gwlad er lles y Gymraeg.

Fe fydd dryswch llwyr o ran pwy sy’n gyfrifol am beth – a chyfle i weld cwympo mas a dadlau rhwng y tri chorff a phawb arall.

Mae’n syniad hollol hurt!

Cwestiwn rhif 25: Alun, a fedri di anghofio’r syniad hurt yma? Neu, fel arall, a fedri di esbonio sut byddi di’n sicrhau nad yw’r Asiantaeth Iaith Genedlaethol newydd yn arwain at dryswch o ran pwy sy’n gyfrifol am ba agwedd o ran hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg – a sut byddi di’n sicrhau fod canran digonol o arian yr Asiantaeth newydd yn cael ei wario ar lawr gwlad?

Casgliadau

Mae’r strategaeth yma yn talu gormod o sylw i niferodd, yn hytrach na defnydd.

Mae Alun, yn anffodus, fel rhywun sy’n berchen hen dŷ, sydd angen gwaith a gofal i’w gynnal a’i gadw. Ond yn hytrach na gwneud hynny, mae’n penderfynu adeiladu estyniad newydd enfawr a modern.

Fel y bydd perchennog y tŷ yn gorfod canolbwyntio ar yr estyniad, fe fydd holl sylw’r llywodraeth yn gorfod mynd ar gyrraedd y miliwn, a phrin fydd y sylw i’r hyn sy’n digwydd eisoes, megis gwaith y mentrau ac anghenion cymunedau a siaradwyr Cymraeg sy’n bodoli eisoes.

Ac rwy’n rhagweld na fydd y llywodraeth yn llwyddo i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg rhugl ac, yn y cyfamser, prin fydd y sylw na’r cymorth ar gael i’r siaradwyr Cymraeg sydd gennym eisoes – ac sy’n chwilio am gymorth a mwy o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.

Ond o ran diffyg eglurder a manylder, fodd bynnag, mae’r ddogfen yn serennu!

Mae fy 25 cwestiwn i Alun yn gais, felly, i ni gael deall yn well beth yw ei gynlluniau manwl a’i weledigaeth yng nghswllt y strategaeth.

Achos, ar hyn o bryd, mae fel petai Alun wedi cynllunio’r ddogfen ar gefn pecyn sigarets.

 

 

 

 

 

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Emily yn dweud:

Iep iep iep amen!