Straeon Pum Mam yn ganolbwynt arddangosfa ffotograffiaeth newydd yn y bae

28 Tachwedd 2013

Dewch i Fae Caerdydd ar gyfer agoriad yr arddangosfa Mama Mas’ – Conversations for Transformation yng Nghanolfan Hanes a Chelfyddydau Butetown, Dydd Sul 1 Rhagfyr 2013, 2.00yh.

Prosiect ffotograffig yw Mama Mas’ – Conversations for Transformation sy’n defnyddio dehongliadau trwy fasgiau i ailgyflwyno stori. Cydweithiodd yr artist ymchwil carnifal Adeola Dewis gyda’r ffotograffydd Catriona Abuneke i ddehongli straeon pum mam: Debra Humphries, Ffion Gruffudd, Jeewoon Kwag, Roiyah Saltus-Hendrickson a Tanja Råman. Bydd arddangosiadau ar fyrddau biliau ar Leckwith Road, Caerdydd yn rhan o’r arddangosfa hon.DEB bill feet  

Dewch i rannu straeon gweledol y pum mam a dysgu am gefndir y prosiect Mama Mas’. Bydd Adeola yn rhoi araith fer am y gwaith a’r broses. Am fwy o wybodaeth am y prosiect cliciwch yma.

Bydd yr arddangosfa a’r arddangosiadau ar y byrddau biliau yn parhau tan 28 Rhagfyr 2013.

Canolfan Hanes & Chelfyddydau Butetown, Stryd Bute, Caerdydd CF10 5LF

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma