Stephen yn Serennu yn Shadowlands

24 Mehefin 2016

Adolygiad gan Hannah Pearce

Am yr wythnos hon mae Shadowlands yn y Theatr Newydd a nos Fawrth oedd noson agoriadol y ddrama. Rhaid i mi gyfaddef, nid oeddwn wedi clywed am y ddrama cyn i mi fynd i’w gweld ac felly nid oedd gennyf unrhyw fath o ddisgwyliadau ohoni. Mae hynny’n beth da yn yr achos hwn oherwydd roedd pob dim am y sioe yn newydd i mi ac mae’n dda weithiau mynd i weld drama heb unrhyw wybodaeth flaenorol amdani.

Mae’r ddrama’n adrodd hanes C.S. Lewis, neu Jack fel roedd yn cael ei adnabod gan ei ffrindiau, fel academydd yn Rhydychen a’r newid sylfaenol sy’n dod i’w fywyd wedi iddo gwrdd â Joy Gresham, bardd o America. Mae beth sy’n dechrau fel cyfarfod anffurfiol dros de yn arwain at dreulio mwy o amser gyda’i gilydd ac yn y pendraw at y ddau’n priodi. Priodas gyfleus yw hi ar y dechrau er mwyn atal Joy rhag gorfod symud yn ôl i America ond wrth i amser fynd yn ei flaen, daw Jack a Joy’n agosach ac yn y diwedd maent yn priodi’n swyddogol.

Fel mae teitl yr adolygiad yn awgrymu, serennodd Stephen Boxer yn ei rôl fel C.S. Lewis. Roedd ei bortread o’r awdur hoffus yn ddiamheuol ac roedd ei ffordd o berfformio’r ymsonau o’r radd flaenaf. Hoffais yn fawr ei allu i newid yn slic rhwng siarad â gweddill y cymeriadau ar y llwyfan a’r gynulleidfa; ymddangosodd fel ei fod o hyd yn siarad â’r un bobl. Roedd ei berfformiad hynod bwerus ac emosiynol wedi ennill canmoliaeth fawr gen i.

Shadowlands

Wedi sôn am un o’r prif gymeriadau, mae hi ond yn iawn i drafod y llall sef Joy Gresham. Amanda Ryan chwaraeodd y rhan hon a gan gofio mai Americanes oedd Joy a oedd yn deillio o Efrog Newydd, ni fyddai’n iawn trafod perfformiad Amanda heb gyfeirio at ei hacen Americanaidd wych. O’i llinell gyntaf i’w llinell olaf, ni chollodd yr acen o gwbl; arhosodd yn gryf trwy gydol y ddrama ac mae hynny ynddo’i hun yn beth heriol i’w wneud. Gydag acenion cryf fel acen Efrog Newydd, mae’r tuedd weithiau i golli acen neu i siarad fersiwn gwan ohoni ond cawsom acen gredadwy iawn gan Amanda; rhywbeth sy’n haeddu clod enfawr.

O ran y stori, roedd yr act gyntaf yn rhy hir yn fy marn i ac roedd yn dueddol o lusgo mewn mannau. Yn bersonol, ni ddigwyddodd fawr iawn yn yr act gyntaf, a gallant fod wedi cyfyngu eithaf tipyn ar yr act gyntaf oherwydd mewn mannau, roedd datblygiad y stori’n araf ac arweiniodd hyn ati’n mynd bach yn ddiflas. Mae hyn yn drueni gan fy mod yn mwynhau dramâu ond darganfyddais fy hun yn edrych ar fy oriawr ormod yn ystod y rhan gyntaf. Wedi dweud hyn, roedd yr ail act yn well o lawer; er roedd hi’n fyrrach, digwyddodd mwy ynddi nag a ddigwyddodd yn yr act gyntaf. Gan fod llai o amser yn yr ail act, digwyddodd pethau un ar ôl y llall a gweithiodd hyn yn well oherwydd roedd y teimlad o siarad er mwyn siarad, a gafwyd yn yr act gyntaf, bellach wedi ei ddileu.

Ar y cyfan, dyma ddrama bwerus sy’n adrodd stori garu deimladwy sy’n pwysleisio nad yw hi byth yn rhy hwyr i wneud unrhyw beth mewn bywyd a bod angen gwneud yn fawr o’r amser sydd gennym gyda’r bobl rydym yn eu caru cyn ei bod hi’n rhy hwyr. Mae’r ddrama’n cael ei pherfformio yn y Theatr Newydd tan ddydd Sadwrn 25ain o Fehefin ac os nad ydych, fel fi, wedi ei gweld o’r blaen, yna byddaf yn argymell i chi fynd i’w gweld.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma