Siarad gyda Meri Huws yn y Senedd

25 Hydref 2014

gan Isabel Bradshaw Hughes myfyriwr Prifysgol Caerdydd ar gyfer Diwrnod hyperleol yn y Senedd.

Bu Meri Huws Comisiynydd yr iaith Gymraeg yn y Senedd yw wythnos hon, i ymateb i gwestiynau reit heriol yn ymwneud a  â Bwrdd yr Iaith Cymraeg. Ar ôl i’r cyfarfod cefais gyfle i sgwrsio gyda hi ynglŷn â phopeth yn ymwneud â’r iaith Cymraeg.

Gofynnais yn gyntaf pryd ddechreuodd hi ddiddori yn yr iaith Cymraeg, gan fy mod i eisiau dysgu ble mae rhywun mor allweddol i’r byd Cymraeg heddiw wedi cael ei ysbrydoliaeth.  Dysgais i ei bod hi’n dod o gefndir Cymreig iawn. Roedd yr iaith Gymraeg yn allweddol i’w bywyd hi, ond pan symudodd hi at ardal mwy Saesneg dechreuodd hi feddwl am hawliau pobl i ddefnyddio’r Cymraeg.

Cafodd ei chadeirio yn 2012 fel Comisiynydd yr iaith Cymraeg cyntaf. Mae’m dweud bod hi wir yn mwynhau’r swydd, yn enwedig pan fo hi’n cael llwyddiannau dros fwy o hawliau ar gyfer yr iaith Cymraeg, ond ar y llaw arall mae’r swydd yn gallu bod yn heriol weithiau pan mae pobl yn ei herio am beth yw pwrpas cadw ymlaen gyda’r iaith Cymraeg.

Mae Pobl Caerdydd yn wefan weddol ddiweddar sy’n defnyddio’r byd digidol i geisio trafod pethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Roeddwn i felly’n diddori gwybod pa effaith oedd hi’n credu bod y byd digidol fel facebook a Trydar wedi cael ar yr iaith? Dywedodd bod ganddi gymysgiad o deimladau am effaith y byd digidol ar y Gymraeg. Ar un llaw mae’r byd digidol newydd wedi golygu bod ieithoedd eisoes yn gryf fel Saesneg a Sbaeneg wedi cryfhau. Ond, ar y llaw arall mae’r byd digidol wedi gweld y pwysigrwydd o fod yn ddwyieithog ac wedi codi statws yr iaith ar rhai adegau.

Un o’r pethau pwysicaf i Meri ar hyn o bryd yw codi’r defnydd o’r Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd. Mae hi’n credu’n gryf bod hawl gan Cymry Cymraeg i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae hyn yn enwedig o bwysig ar gyfer hen bobl, ond hefyd ar gyfer plant ifanc a’u hiaith gyntaf yw Cymraeg.

Dywedodd hefyd mae un o’r sialensiau mwyaf rydym yn wynebu yw’r cwestiwn o sut rydym yn sicrhau bod pobl ifanc sy’n cael addysg trwy’r Gymraeg wedyn yn gweithio trwy’r Gymraeg. Dywedodd os allwn ddatrys hyn bydd pob gweithle yn naturiol yn ddwyieithog!

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma