SIAFIO SHMAFIO

14 Mehefin 2013

Mae Pwsi Meri Mew yn fam i dri o blant dan wyth ac yn byw mewn pentref ar gyrion y brifddinas ble mae’r mamau eraill i gyd â gyrfaoedd. Mae’n casau’r Sun, Gwyneth Paltrow, slipffyrdd traffordd, doliau Bratz, bwlio a’r Teulu Brenhinol. Mae’n caru ei ffrindiau a’i theulu ac yn credu mewn pobl.

Wythnos ddwetha, roedd rhywbeth yn amlwg yn pwyso ar feddwl fy merch fach wyth oed.

“Mami”, medde hi yn sydyn (mewn Cymraeg graenus, pur). “Pam taw ti yw’r unig mami ar y stryd gyda loads o ffwr yn stico allan o armpits ti?”

Nawr te, jest er mwyn rhoi bach o gefndir i chi gyd, nid dyma’r tro cyntaf i un o’m mhlant i gynnig beirniadaeth hallt ar y goedwig drwchus, dywyll, sy’n swatio yn ogofeydd fy ngheseiliau, ac erbyn hyn, dwi di hen ddanto ar drial esbonio iddyn nhw fod gan y mwyafrif llethol o fenywod aeddfed mwy o wallt dan eu ceseiliau ac ar eu shinanis na Chewbacca. Wi di hen ddanto, hefyd, ar drial esbonio fod y pwysau sydd arnom ni i gyd i siafio, pluo, a zapo pob un gwelltyn byw oddi ar ein cyrff ni nes ein bod ni’n edrych fel merched bach saith mlwydd oed eto yn ddim byd llai na malu cachu secsist a freuddwydiwyd gan y shinachs digywilydd na draw yn Gillete yn y 20au. Ond y prif reswm imi beidio â herio fy merch, y diwrnod hwnnw, oedd fy mod i’n ddigon sensitif i sylweddoli fod twffts mega-anferthol o flew bras brown lliw pw siŵr o fod yn edrych – i blentyn wyth oed – fel y teip o le bydde cynulliad o wrachod yn lico cwrdd.

Felly’r unig beth wedes i odd, “Fflipin ec babes, nai shafo fe i ffwrdd os nag wyt ti’n lico fe”.

“Oce, mami”, medde hi. “mae e’n go iawn embarasin”.

Y noson honno, ar ôl rwbio’r llwch oddi ar y Gillette Pre-Pubescent Divine Virgin Goddess Fantasy gyda stribedi o Aloe Vera a hufen lleithio ychwanegol (neu beth bynnag ma’r côc oens cyfalafol na yn galw eu raseli y dyddie ma), fe ddechreuais i’r broses hir o ddatgelu’r Dduwies Tu Fewn. Ffroge pert gyda straps spageti o Boden? Check. Sandalau ciwt gyda wedges retro (heb orfod poeni mod i’n edrych fel Mrs Doubtfire?) Check. Corff Bikini-Barod? Wel, na. Ma da fi rhai safonau. Dim fel Beyonce.

Ac ar ddiwedd y broses hir a phoenus, daeth cwmwl dros fy ngheseiliau pur wrth i mi ddychmygu fy merched, yn un ar ddeg mlwydd oed, yn mynnu fy mod i’n prynu casgenni enfawr o Veet iddyn nhw, er mwyn iddyn nhw rwygo pob blewyn oddi arnyn nhw i fod ‘fel pawb arall’ ac hefyd osgoi a) cael eu galw’n ‘monkey trousers” neu’n “siani flewog” neu’n “ffermwr” ar y bws ysgol, a b) gorfod dioddef pobl â rhwydi enfawr a tranquilisers yn rhedeg ar eu holau yn enw Yr Ymchwil Gwyddonol Diweddaraf.  Mi fydd fy merched yn gorfod brwydro’n ddigon caled erbyn problemau hunan-barch a hunanhyder fel pawb arall, heb orfod dioddef llwyth o gachu secsist ynglŷn â rhywbeth sy’n tyfu’n naturiol ar eu cyrff.  Ond dyna ni, mae eu mam yn hen ast sur, sy’n caru cwyno, ac yn CASÁU PLESER.

Felly, yn y bore bach, mi ddangosais anialwch diffrwyth fy mhydewau i fy merch, gan ddisgwyl yn hyderus am fonllefau ei chymeradwyaeth.

“Dydw i ddim yn hoffi’r ffwr ar fy mreichiau” meddai hi.  “Mae e’n gross.”

Wyth oed.  Nid un ar ddeg.

Gallwch ddilyn helynt Pwsi Meri Mew fan hyn ac ar @FlossingtheCat

Rhannu'r erthygl hon