Shwmae Caerdydd!

14 Hydref 2014

gan Osian Rhys

Yn galw pobl Caerdydd…
Mae 15 Hydref yn ddiwrnod Shwmae Su’mae, diwrnod i ddathlu’r Gymraeg. Mae’n ddigwyddiad cenedlaethol, ond bydd pobl mewn gwahanol rannau o’r wlad yn trefnu gweithgarwch lleol.

Bydd Shwmae Caerdydd:
– yn annog pobl y brifddinas i siarad mwy o Gymraeg
– yn rhoi cyfle i estyn allan at y di-Gymraeg, gan annog pawb i ddysgu Cymraeg
– yn annog pobl i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg, gan ddechrau drwy ddweud Shwmae!

PRYD?
Mae Diwrnod Shwmae ar 15 Hydref bob blwyddyn, ond bydd effaith Shwmae yn para rownd y flwyddyn.

BETH?
Bydd pobl o gwmpas Cymru yn trefnu digwyddiadau ar 15 Hydref i wneud y Gymraeg yn amlwg, i greu cyfleoedd i ddefnyddio’r iaith ac i annog pobl newydd i ddysgu.

PWY?
Mae grwpiau Shwmae yn cael eu sefydlu ledled Cymru, fel rhan o ymgyrch genedlaethol Shwmae Su’mae. Mae’n bwysig bod y brifddinas yn cael ychydig o’r hwyl!

Ymgyrch llawr gwlad yw Shwmae Caerdydd. Does dim swyddogion, dim grant… dim rheolau! Os yw Shwmae Caerdydd yn mynd i ddigwydd, rhaid i CHI wneud iddo ddigwydd.

BE NESA?
Beth am drefnu rhywbeth? Gall fod yn unrhyw beth, yn dawel bach neu’n fawr a dramatig – rhowch gynnig arni!

Mae gwybodaeth a syniadau ar dudalen Facebook Shwmae Caerdydd. Ewch draw, hoffwch y dudalen a dechreuwch sgwrs neu ewch i wefan Shwmae Caerdydd

 

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma