Sharon Morgan

20 Mehefin 2013

Yr awdur a’r actores Sharon Morgan sy’n trafod ei ddrama newydd yn y Sherman gyda Bethan Jones.  Llun gan: GERAINT TODD

BJ Mae Trwy’r Ddinas Hon yn berfformiad o dri stori am Gaerdydd yn adlweyrchu themau fel pŵer, perthyn ac annibyniaeth. Ar ba thema mae eich ddrama chi yn bennaf?

SM Mae o am ddarganfod hunaniaeth. Mae’r fenyw yn glanio yng Nghaerdydd wedi byw yng nghefn gwlad yn wraig ac yn fam i bump o blant am flynyddoedd. Mae popeth wedi’w chwalu o’i chwmpas hi ac mae’n dod i drio neud sens o rhywbeth, hynny yw mae hi mewn gwewyr. Mae hefyd yn rhywfath o fetaffor ar gyfer Cymru.

BJ Beth oedd eich ysbrydoliaeth wrth ysgrifennu eich ddrama ‘Myfanwy yn y Moorlands?

SM Wel, rhan o gwrs y Sherman oedd e, a gafodd y brif thema o Gaerdydd ei rhoi i ti. Dwi’ dod o bentre’ bach cefn gwlad a symudais i fan hyn i’r coleg, a dwi wastad yn ffeindio fod e’n ddiddorol ein bod ni fel Cymry methu uniaethu Cymreictod gyda’r syniad o ddinas. Mae’r ddinas felly yn metaffor ar gyfer bywyd amrywiol iawn ac annisgwyl, lle bod bywyd pentref bach falle yn cael ei gweld yn fywyd syml iawn. Mae o fel ein bod ni methu cofleidio’r syniad dinesig, tydi o ddim yn rhan o’n psyche ni fel Cenedl rhywsut. Roeddwn i eisiau dathlu Caerdydd, dweud y gwir, a’r y syniad o beth yw ddinas. Dwi’n defnyddio’r syniad o ddinas fel metaffor o’r modd y dyle ni symud ymlaen yng Nghymru, nid yn unig mewn dinas ond cefn gwlad hefyd, i ail ddiffinio Cymreictod fel rhywbeth llawer mwy amryliw, amlhaenog nag ydyn ni’n deueddol o wneud ar hyn o bryd.

BJ A wnaethoch chi gydweithio hefo Dyfed Edwards a Mared Parry wrth ysgrifennu o gwbl, neu a wnaethoch chi weithio’n annibynnol?

SM Doedd Marged ddim yn rhan o’r grŵp gwreiddiol yn y Sherman, Finne, Dyfed Edwards ac tri ysgrifennydd arall oedd yn rhan o’r grŵp i gychwyn. Fe gafon ni wythnos i fynd o gwmpas Caerdydd, a trafod syniadau a sgwennu darnau bach a cymeryd lluniau ac yn y blaen. Am rhesymau amrywiol ni aeth y gweddill yn y grwp ymlaen hefo’r syniad a daeth Marged atom ni yn diweddarach. Felly dim cydweithio o gwbl heblaw’r wythnos gychwynol.

BJ Ers faint ydych chi yn byw yng Nghaerdydd a pa mor bwysig yw Caerdydd i chi?

SM Er i mi fyw mewn amryw o lefydd ers graddio a gadael Caerdydd yn 1970, dwi nol yma yn byw ers 1982. Dwi wedi ymgartrefu yma a gafodd fy mhlant eu fagu yng Nghaerdydd. Mae’r plant yn caru Caerdydd ac yn eniaethu yn llwyr hefo’r ddinas, dwi’n dal i ddweud fy mod i o Gaerfyrddin, er hwn wir yw fy nghartref i nawr a wnai ddim symud o ‘ma.

Dwi wedi gweld Caerdydd yn newid shwd gymaint, dros y cyfnod ers i mi ddod yn gyntaf. Doedd Cymraeg ddim i’w glywed yn unman wrth gwrs bryd hynny, ac mae o nawr wedi blodeuo i fod yn un o brif ddinasoedd Gwledydd Ewrop. Dwi’n browd iawn o Gaerdydd.

BJ Os gennych chi hoff le i ysgrifennu yng Nghaerdydd?

SM Yn fy study, yn y tŷ, fyddai’n ysgrifennu. Pan symudais i yma i fyw yn Pontcanna, roedd pawb arall yn symud allan, ond erbyn hyn dyma’r lle i fyw, mae o lot fwy trendi! Mae rhai pobl yn ysgrifennu mewn caffi’s ond byddwn i ddim yn mynd i gaffi ym Mhontcanna oherwydd byddwn i’n gweld gymaint o bobl sy’n nabod fi dwi’n credu fyddwn i ddim yn cael y cyfle i sgwennu dim byd! 

BJ Diolch yn fawr iawn Sharon.

SM Gret diolch i ti, mae PoblCaerdydd.com yn syniad ffantastig. Pob lwc i chi!

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma