Sesiynnau Sul Clwb Ifor yn Chapter yn swyno

9 Hydref 2014

Mae nosweithiau Sul misol yn Chapter yn raddol ddod yn le arbennig i glywed cerddoriaith gyfoes Gymraeg mewn awyrgylch ymlaciol. Bu Sara Moseley yn profi y cynnig diweddaraf – y triawd gwerin Siddi, a The Gentle Good gyda eu miwsig baledol, tlws. 

Dros y degawdau mae Clwb Ifor Bach wedi fod yn dipyn o fecca i genedlaethau o Gymru Cymraeg ifanc sydd isho rhannu miwsig cyfoes, hwyl a ffrindiau. Ond i’r rhan fwyaf ohonom ni sy’n bwrw malen ychydig, atgof yn unig yw’r nosweithiau chwyslyd o giwio am y bar a gwthio i’r ffrynt i wrando a dawnsio. Falle bod ni ddim cweit mor keen ar y chwysu a ciwio erbyn hyn ond, er hyny mae na chwant i glywed peth o’r gerddoriaith fyw gafaelgar, unigryw sy’n cael ei chyfansoddi a’i chwarae yng Nghymru. Felly dyma ‘Clwb’ yn penderfynu mynd a’r mynydd at Muhammad a chynnal sessiynnau nos Sul yn Chapter gyda byrddau a cwshins, cadeiriau cyfforddus a goleuadau mwyn….

Ail ddechreuodd y sesiynnau wedi’r haf ar nos Sul 5 Hydref gyda Siddi, triawd gwerinol o Lanuwchlyn, a The Gentle Good aka Gareth Bonello. Baledwyr yw’r ddau yn y bon a cawsom noson o straeon wedi eu lapio mewn miwsig hudolus a beruddwydiol.

Siddi yw’r hen air Cymraeg am dylwyth teg ac roedd y mwyafrif o’r caneuon chwaraewyd ar y noson yn dod o’u record hir ‘Un Tro’ sydd wedi’i  seilio ar chwedl o fro mebyd y triawd ynglŷn a dyn ifanc a briododd un o’r tylwyth teg. Branwen Williams oedd yn arwain y canu gan fwyaf ac yn chwarae yr allweddellau, gyda’i brawd Osian, sydd hefyd yn canu gyda’r Candelas, yn chwarae gitar a harmoneiddio. Llio Non oedd yn cwblhau’r triawd gan ganu a chwarae glockenshpiel lliw cwstard- a -banana (nes i weld wrth ddilyn Trydar. Roedd ar fenthyg am y noson o ganlyniad i apêl am help – rho fe nôl Llio!).

Naws ramantus a thlws oedd i’r canu gyda harmoni hyfryd rhwng y tri, er fod cryfderau’r lleisiau weithiau braidd yn anwastad. Yn anisgwl, cannodd Llio Non fersiwn o One-man Guy gan Loudon Wainwright ac er iddi orfod ail ddecharu, wrth fagu hyder roedd ei llais yn felys. Cân newydd anisgwyl hefyd – Dechrau fy Nghân – yn arwydd da o bethau i ddod gan y grŵp.

Ac yna at The Gentle Good. ‘Y Bardd Anfarwol’ oedd enillydd Albwm Cymraeg y Flwyddyn  yn yr Eisteddfod eleni. Cafodd ei chyfansoddi gan Gareth wedi iddo dreulio amser yn Tsiena ac mae wedi’i  ysbrydoli gan fywyd a gwaith Li Bai, y bardd o’r wythfed ganrif. Roedd yma nifer o ganeuon nodedig gan gynnwys Yr Wylan Fry ac ‘Ymadael Dinas Brenin Gwyn’.

Gareth Bonnello yn Chapter

Gareth Bonnello yn Chapter

Dawn arbennig hefyd gyda’r gitar yn amlwg ar y nososn gyda Gareth yn dangos sut yr oedd yn efelychu synnau offerynnau Tsieniaid yn yr ail o’r caneuon hyn. Yr hyn sydd yn gwneud i’r cyfuniad yma o ddiwylliannau cerddorol weithio yw gallu Gareth i grefftio cân sydd ag ystyr yn y miswig a’r geiriau ac undod yn y sain mewn ffordd hollol ‘laid back’.

Mae’n amlwg fod Gareth wedi’i  ysbrydoli gan Tsienia a chan Li Bai. Roedd ei glywed yn hel straeon am fywyd y bardd yn ddileit ac, o bryd i’w gilydd, yn ddoniol hefyd. Pwy allai amau, er enghraifft, y byddai newid gyrfa o fod yn fardd i fod yn ymgynghorydd milwrol yn mynd i orffen yn wael….

Fe glywsom hefyd gân sydd ond newydd ei chwblhau gan Gareth – Suffer the Small Birds – ac yntau yn magu ar y cyfle o chwarae gig rownd y gornel i’w gartref i brofi’r gân yn gyhoeddus. Y  tro hwn  defnyddiodd y gitar i greu swn Celtaidd hyfryd. Falle mai symyd yn ôl yw hyn hefyd at ei waith mwy cynnar fel caneuon yr albwm ‘ ‘Tethered for the Storm’.

Anaml mae artist yn llwyddo i gyfuno ymdeimlad a’r gallu i doddi cymaint o ddylanwadau yn llwyddianus a chreu rhwybeth newydd sydd hefyd yn teimlo yn agos attoch chi. A’r mwynhad oedd cael y straeon a’r hiwmor hefyd.

Fe fydd Clwb Ifor Bach yn cynnal mwy o nosweithiau fel hyn yn fisol gyda newyddion am y dyddiadau ar bandiau ar ffrwd Trydar Pobl Caerdydd a Menter Caerdydd. Ewch draw i glywed  côr o fiwsig cyfoes cymraeg ac ambell i hen ffrind o’r hen ddyddiau ……

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma