Rhowch mwy o sbeis yn eich bywyd

27 Tachwedd 2015

Gan Meleri Bowen, ein colofnydd sy’n helpu ni fyw’n iach.

Te Turmeric unrhywun? Swnio’n rhyfedd? Wrth gwrs ei fod! Wedi’r cwbl pam fyddech chi’n rhoi sbeis mewn te?

Wel, mae’r powdwr oren yma’n un pwerus iawn! Mae ganddo lawer o nodweddion llesol ac mae’n wych fel pick me up os nad ydych yn teimlo’n 100%.

Mae’n ddiod berffaith i ostwng y chwyddo os oes gennych wddwg tost; yn gymorth wrth frwydro yn erbyn heintiau feirol/bacterol; ac yn lleihau’r colesterol gwael yn y corff gan hybu’r colesterol da. Dyma ond ychydig o’i fanteision. Mae e wir yn wyrthiol!

Rhowch bach o sbeis yn eich bywyd!

Turmeric i’ch twymo

Y cyfan sydd angen arnoch ydy:

1 cwpaned o ddŵr poeth

1 llwy de o turmeric

¼ llwy de o halen pinc himalayan

Sudd chwarter lemwn

Pwy feddylie y byddai’r powdwr oren yma mor bwerus?

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma