Rhandir Mwyn Rhiannon

3 Gorffennaf 2013

Sdim byd yn well i’r enaid na cael bod mas yn yr awyr iach a bwyta llysiau i chi wedi tyfu’ch  hunan, yn ol Rhiannon Bianchi. Ma hi’n mynd i rannu ei phrofiadau hi o arddio ar randir gyda’i theulu yng ngogledd y brifddinas,  yn gyson gyda Pobl Caerdydd. Dyma ei blog cynta:

“Rhywbeth i hen bobl oedd garddio roeddwn i’n meddwl pan on i’n ferch fach. Dwy’n cofio fi a fy chwaer pan roeddem yn blant , yn cael ein  llusgo o gwmpas  sawl ganolfan garddio ar brynhawn Sul. “Perennials, Annuals, dom ceffyl  yn dda i’r blodau, blah blah blah”. Dwy’n cofio fy Mam ac  anti Thelma yn cloncian am oriau am syniadau garddio.  Rydw i wastad wedi bod wrth fy modd yn yr awyr agored, yn yr ardd ac o amgylch natur, ond roedd meddwl am chwynnu a phlannu, dim yn fy nifyrru  mi o gwbl.   Rhyfedd sut y mae amser yn newid person.!  Dyma fi nawr, yn fy nhridegau efo Gareth fy nghŵr,Logi fy mab a  mam,yn perthyn ar randir yn Leckwith yng nghanol Ddinas Caerdydd.

Y gwaith caled wedi'i neud

Y plannu yn dechrau

Ar ôl  bod ar y rhestr- aros am ychydig o flynyddoedd, dyma ni yn cael cynnig ar randir fawr  oedd  ddim wedi gweld strimmer ers tipyn. Mi roedd y flwyddyn cyntaf yn anodd iawn wrth i ni gael gwared ô’r sbwriel, chwynnu di -ben a thacluso’r lle. Mi rydym nawr yn ein hail flwyddyn, ac rydym wedi bod yn gweithio yn galed iawn . Mae Gareth wedi bod yn adeiladu ffens (pwy base’n meddwl bod “pallets” yn gwneud ffensys da), creu llwybrau a lot o bethau DIY. Mae mam, anti Thelma, fy nghefnder Rhodri a minnau wedi  bod yn palu, plannu blodau, coed ffrwythau, perlysiau, moron, bresych, broccoli porffor a phob math o bethau i blesio’r dant.

Hafan berffaith i deuluoedd

Mae Logi wedi plannu ei bwmpen gyntaf efo’r gobaith ei bydd yn barod  i’w gerfio  erbyn Calan Gaeaf .

Logi yn plannu'r bwmpen

Logi yn plannu’r bwmpen

Rydym yn ein helfen  i lawr ar y rhandir, Ar ddiwrnod braf mae e’n le perffaith i wahodd y teulu i gyd draw am bicnic a chlonc  dros botel neu ddwy o win. Mae’r teimlad rydym yn cael wrth droi’r tir, plannu a gweld ein cynhyrch yn tyfu yn un braf iawn.

 

Rydw i yn cofio rhai blynyddoedd yn ôl, tra yn aros am ein plot, dywedodd Gareth “Un peth rydw i yn edrych ‘mlan i wneud ar y Rhandir ,ydy pigo moron ffres efo Logi ar fore ‘Dolig er gyfer ein cinio”. Gobeithio gawn y cyfle i wneud hynny  y flwyddyn hon.

Gadewch imi ddisgrifio y lle wrthoch  chi,.Wrth i chi fynd tryw’r gatiau ,mae yna lot o wrych, ac mae’r lle yn llond  o’r byd natur. Mae yna adar gwahanol yn hedfan a nythu yn yr coed, mae yna gwningod yn prancian , ac ambell i waith, os ydych yn lwcus iawn mi welwch ein cadno lleol  yn ymlwybro o amgylch y tir yn chwilio am ei bryd nesaf.  Mae yna mwyar duon dros y lle i gyd yn tyfu yn wyllt a mae yna gymuned dda yno.

Lles i’r enaid

Mae pawb yn gyfeillgar iawn ac yn hael iawn efo’i cynnyrch. Os oes digonedd o lysiau neu ffrwythau gyda nhw, mae nhw’n  eu rhannu nhw gyda phawb. Rydym wedi derbyn ffennigl, march ysgall, a phren llawryf o’n cymdogion ni y flwyddyn hon.

Y plant yn pigo letys

Y plant yn pigo letys

Mae yna nifer mawr o randiroedd yma, rhai bach a rhai mawr, rhai sydd yn perthyn i unigolion a rhai sydd yn perthyn i grwpiau o bobl efo anghenion arbennig.  Ar eu  rhandir  nhw mi welwch arwydd sy’n  dweud “not everyone learns the same”.

Rydym wedi closi fel teulu ers bod ar y rhandir. Mae bod mas yn yr awyr agored yn gwneud  gwyrthoedd i’r enaid. Mae yn dda i Logi weld o ble mae bwyd yn dod ac i ddysgu pa mor bwysig ydy hi i beidio gwastraffu bwyd.

Y Picnic gorau

Y Picnic gorau

Rydym yn gweithio fel tïm ac yn mwynhau y cyfoeth mae’r rhandir yn rhoi i ni. Ar ddiwrnod braf fe welwch chi ni ar y rhandir yn gweithio ac yn mwynhau. Galwch am baned. Bydd yna fflasg twym o goffi a bisgedi wastad yn barod i chi!”

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

Rhys yn dweud:

Mae gen i randir yn Leckwith-Droves ‘fyd, neu mi oedd gen i un – dwi heb fod lawr ‘na ers misoedd! Teimlo’n ofnadwy o euog wrth ddarllen hwn!!

Rhiannon Bianchi Jones yn dweud:

Mae o yn waith caled I gadw fynd lawr, yn enwedig mewn tywydd gwael. Ond mae gweld y Rhandir yn datblygu yn werth yr holl oriau caled. Mae hefyd yn fwy bleserus I gael cwmni wrth arddio, pam na wnewch chi ailgydio ynddo fe, nawr yw’r amser perffaith, cyn ir tywydd droi yn oer 🙂

Iestyn Davies yn dweud:

Rydw i newydd gymryd rhandir ymlaen yn nghaeau Pontcanna ac mae e fel jwngl. Dwi’n ei baratoi ar gyfer blwyddyn nesaf nawr.

Os oes gan un o bobl Caerdydd rhandir yng nghaeau Pontcanna hoffwn glywed gennych.

Siôn yn dweud:

Mae’n rhaid fod gair Cymraeg am Leckwith, neu, onid yw Leckwith yn Seisnigiad o Llechwedd?

Ar bwnc rhandiroedd …. fase’n dda cael rhywun jyst i ddweud wrthoch chi pryd mae plannu stwff a sut!

Mair yn dweud:

Lecwydd yw’r enw Cymraeg ar Lecwith. Yn ôl y wê, “the name Leckwith probably derives from the personal name Helygwydd (possibly the name of a saint)”

Cofnod neis – sdim byd gwell na randir 😉

Rhiannon Bianchi Jones yn dweud:

Diolch am y sylw. Da chi’n iawn, sdim byd yn well na Rhandir. Oes un efo chi? 🙂

Rhiannon Bianchi Jones yn dweud:

Diolch am y sylw, a rydych yn iawn, sdim byd yn well na Rhandir :). Lle mae eich Rhandir chi?

Heledd Bianchi (Chwaer) yn dweud:

Wel, darllen pleserus iawn. Yn anffodus, ni alla’u rhannu yng nghlod y llafur caled! Roeddwn yn fishi yn carcio’r ceffyl neu’r plant, mae’n siwr! Chwarae teg i Mam, Rhiannon, Gareth, Logan, Thelma a Rhodri am eich dyfalparhad ymhob tywydd. Diolch i chi hefyd am wahodd fy mhlant i ymuno yn y sbort.

Y bu tywallt rhaeadr o chwys a chariad y Bianchi’s, Y Bianchi-Jones’s a’r Hynds dros pob un hedyn a phlanwyd yn Rhandir Mwyn.