Refferendwm Ewrop: mewn neu mas?

15 Mehefin 2016

Barn Huw Onllwyn am Refferendwm Ewrop

‘Rwyf am bleidleisio i ni aros fel aelod o’r Undeb Ewropeaidd.

A dweud y gwir, rwyf am bleidleisio’n gryf iawn i ni wneud hynny.

Ond pam?

Fel ymhob etholiad, ‘rwyf wedi ystyried y pwyntiau a gyflwynywd gan bob ochr o’r ddadl.

Ac, fel gyda sawl etholiad arall, mae’n amhosib gwybod pwy sy’n iawn pan ddaw at ambell i fater holl-bwysig. Er enghraifft, beth fyddai’r effaith ar economi Prydain – yn y tymor byr a’r tymor hir – pe byddem yn gadael, neu pe byddem yn aros.

Ac, i mi, iechyd ein heconomi yw un o’r pethau mwyaf pwysig. Dyma fydd yn rheoli faint o arian fydd gennym i wario ar wasanaethau hanfodol, megis iechyd ac addysg. Er hynny, nid oes ateb clir i’r cwestiwn yng nghyswllt y refferendwm (ac mae unrhyw ragolwg economiadd sy’n edrych ymhellach na chwe mis i’r dyfodol yn ddim mwy nag ‘educated guess’ yn fy marn i – fel arbenigwr economeg byd-enwog).

gold-bullion-toronto

Felly, heb i mi fedru ymddiried ym marn unrhyw un arall, dyma fy rhesymau am aros:

  1. ‘Rwy’n ffond iawn o’r syniad o wledydd Ewrop yn cydweithio, er lles pobl y cyfandir. ‘Rwy’n hoffi’r syniad ein bod yn trafod, yn hytrach nac ymladd. ‘Rwy’n hoffi’r syniad fod Ewrop yn ceisio codi safonau byw ar draws y cyfandir, er lles pawb. ‘Rwy’n hoffi’r syniad ein bod yn cydweithio ar brosiectau difyr, megis y Large Hadron Collider, a fydd yn cyfoethogi ein dealltwriaeth o’r byd a’r bydysawd. ‘Rwy’n hoffi bod yn aelod o glwb – a chael ffrindiau ymhob cornel o Ewrop.

GettyImages-463690336_light

  1. ‘Rwy’n poeni am agwedd ein ffrindiau yn Ewrop tuag atom, pe byddem yn gadael. Fe fyddwn wedi codi dau fys arnynt – a cherdded i ffwrdd o’r prosiect gwleidyddol enfawr yma sy’n ceisio creu Ewrop heddychlon a chyfoethog. ‘Twll eich tinau’ fydd agwedd y gwledydd eraill. Pa obaith fydd gennyf i gael croeso cynnes yn unrhyw le yn Ewrop wrth i mi fynd yno ar fy ngwyliau? Pa obaith i fy mreuddwyd o brynu bwthyn wrth y traeth ym Majorca, lle gallaf dreulio’r gaeaf, yn dianc o’r gwynt a’r glaw. Pwy fydd am brynu cig oen Cymru? Neu whisgi Penderyn? (“Je ne veux pas acheter cette merde, les salauds ont quitté l’UE”). Pa groeso gaiff ein cefnogwyr rygbi a phêl droed wrth ddilyn ein timoedd o amgylch y cyfandir? Fe godir dau fys arnynt, a mwy – mae hynny’n sicr.
  1. ‘Rwy’n ystyried ein haelodaeth o’r UE fel ymestyniad o sofraniaeth Prydain, yn hytrach na cholli ein sofraniaeth. Drwy ein haelodaeth mae modd i ni ddylanwadu ar ein ffrindiau Ewropeaidd – a gwneud ein gorau i sicrhau fod y drefn wleidyddol ac economaidd ar draws Ewrop yn rhywbeth sy’n fanteisiol i ni (a nhw). Yn sicr, nid yw’r UE yn berffaith o bell ffordd – ond ein gwaith ni yw gwella’r drefn. Os yw rhywbeth yn broblem, nid cerdded i ffwrdd a ‘rhoi lan’ yw’r ateb – ond gweithio gyda’n ffrindiau i’w wella. Os yw eich ffrind gorau mewn trafferth, beth yw’r peth cywir i’w wneud? Ei helpu? Neu gerdded i ffwrdd?
  1. Nid wyf yn derbyn mai’r UE yw’r prif gorff a chyfrifoldeb am ein boddi mewn biwrocratiaeth. Gyfeillion, rwyf wedi gweithio i Lywodraeth Cymru! Mae honno’n giamster o’r safon uchaf pan ddaw’n fater o greu biwrocratiaeth. Pob tro mae archwilydd, ymgynghorydd, aseswr risg, neu swyddog cydraddoldeb (ayb) yn edrych ar unrhyw broses neu bolisi sy’n gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, dim ond un peth sy’n digwydd – sef cyflwyno mwy o brosesau gweinyddol, mwy o fiwrocratiaeth a mwy o rwystrau i bawb eu brwydro. Wele, er enghraifft, f’erthygl am fiwrocratiaeth boncyrs (http://bit.ly/1VZ4FR8). Yn rhydd o’r UE, pwy a ŵyr faint yn rhagor o hyn a ddaw o Lywodraeth Cymru? Ar yr un pryd, gellir (wrth gwrs) bwyso ar yr UE i leihau’r fiwrocratiaeth a wynebir gan bawb sy’n delio gyda nhw.
  1. Mae’r lefel o fewnfudo yn fater sydd, mae’n amlwg, yn poeni nifer helaeth o bleidleiswyr. Soniais am hyn sbel yn ôl (http://bit.ly/1rpGAWJ), ac er i un neu ddau fy nghyhuddo o fod yn hiliol (wedi iddynt gamddeall holl bwynt yr erthygl) dyma, fel y disgwyl, un o’r materion llosg yn y ddadl am y refferendwm – a’r mater sydd, mwy na dim, yn mynd i gynyddu’r bleidlais ar yr ochr gadael. Yn sicr, mae’r lefel o fewnfudo yn beth newydd – ac, ar hyn o bryd, mae allan o reolaeth yn llwyr. Ond f’ymateb i hyn yw nad yw tu hwnt i allu’r UE – a gweddill y byd – i ddod a threfn i’r sefyllfa. Oherwydd y niferoedd mawr sy’n teithio i Ewrop, a’r ffaith fod natur a lefel y mewnfudo yn beth newydd, fe fydd yn cymryd amser i’r Undeb ddatblygu ffyrdd o’i reoli (a gwneud hynny o fewn Ewrop – ac wrth drechu ISIS a chefnogi datblygu gwell democratiaeth a chyfraith a threfn mewn gwledydd megis Eritrea. Y broblem yw, wrth gwrs, nad oes modd i’r Unol Daleithiau wneud yr hyn sydd angen ei wneud, i ddelio ‘da ISIS, yn dilyn y diffygion o ran cynllunio tymor hir yn dilyn rhyfel Iraq. Mae Christopher Hitchens yn werth ei ddarllen am hwnna, gyda llaw, yn ei lyfr Hitch 22). Yn y cyfamser, rwy’n cytuno ‘da Matthew Parris, sy’n esbonio yn Spectator wythnos yma: “I’m afraid immigration as an issue is fundamentally about race, but we’ve made EU migration a stand-in for those resentments”. Mae Mr Parris hefyd yn aralleirio sylwadau’r ymgyrchwyr Leave: ‘Hooray, we’ve left the EU: now we can have more immigrants with brown skins. As my colleague Hugo Rifkind writes, ‘Treasure these moments’. Hynny yw, a fedrwch chi wir ddychmygu aelodau UKIP yn croesawu’n gynnes pobl o unrhyw wlad i Brydain? O India, Jamaica, Ghana, Pakistan…Rili?!

v2-Nigel-Farage

  1. O adael yr Undeb, fe fydd ein gwleidyddion (asgell dde a chwith) yn gallu gweithredu yn hollol ddilyffethair (neu, fel mae’r Brexiters yn dweud, “We want our country back”). Dychmygwch hyn am eiliad, Michael Gove neu Jeremy Corbyn, gyda’r gallu i wneud beth bynnag a fynnent, heb y checks-and-balances a ddaw o fod yn aelodau o’r UE. Gallwn wynebu lurch to the right, neu lurch to the left. Y cyntaf yn niweidio pobl gyffredin – a’r ail yn niweidio pawb a phopeth. Dim diolch.
  1. Os ddarllenwch lyfr Hillary Clinton, (Hard Choices), fe welwch mai prin iawn yw’r sôn am Brydain yn y 500 tudalen. Yn sicr, mae ‘na fwy o son am yr Undeb Ewropeaidd. Mae’r Undeb ar radar yr Unol Daleithiau yn fwy na Phrydain. Pe byddem yn gadael yr Undeb, nid wyf yn sicr beth fydd ein dylanwad ar draws y byd, o’i gymharu â dylanwad, statws, a maint marchnad yr Undeb Ewropeaidd. Gallwn fod yn bysgodyn bach ym myd gwleidyddiaeth fyd-eang (yn enwedig o gofio mor dila yw ein cryfder milwrol erbyn hyn).
  1. Eto, rwy’n cytuno ‘da Matthew Parris wrth iddo ddadlau fod y gwrthwynebiad i fiwrocrats di-wyneb Brwsel yn rhyw fath o broxy i’r ffaith nad ydym am orfod dilyn cyfarwyddiadau unrhyw lywodraeth. O adael yr Undeb, fodd bynnag, fe fyddwn dal yn gaeth i gyfarwyddiadau llywodraethau Prydain a Chymru. Fe fyddwn wedi ennill dim, yng nghyswllt ein hawydd i fod yn rhydd o lywodraeth. Wrth gwrs, gallwn gael gwared â llywodraeth Prydain (ond ddim Llywodraeth Llafur Cymru – maen nhw yma am byth – hyd ddiwedd y bydysawd, mewn 50 biliwn o flynyddoedd) – ond unwaith y byddwn yn ethol llywodraeth Brydeinig newydd fe fydd y cwyno amdanynt yn cychwyn eto. Dyna beth yw perthynas pobl a’i llywodraeth.
  1. Nid wyf am adael y farchnad sengl, sy’n cynnwys 500 miliwn o gwsmeriaid. O ddifrif. Nid wyf am i fusnesau Cymru orfod wynebu rhwystrau wrth iddynt geisio gwerthu i gwsmeriaid ar draws Ewrop. “Vous ne pouvez pas vendre ce ici, nous n’aimons pas la taille des vis que vous utilisez” ayb. Mae’n risg erchyll a stiwpid. Mae ‘na son am y ffaith na fydd yr  Almaen am ddod i ben a gwerthu BMWs ac Audis i ni. Ond mae 45% o’r nwyddau yr ydym yn eu allforio o Brydain yn cael eu allforio i’r Undeb Ewropeaidd. Yn y cyfamser, dim ond 16% o’r nwyddau mae gweddill yr Undeb Ewropeaidd yn allforio sy’n cael eu allforio i Brydain. Rydym ni, felly, yn fwy dibynnol na gweddill yr Undeb ar gadw’r drefn allforio yn ei le. Nid wyf yn ffyddiog y byddwn yn enill y gêm enfawr o ‘chicken’ a ddaw, pe fyddwn yn gadael yr Undeb.
  1. Nid wyf am roi fy mhleidlais i ddynion afiach, slimy, un-llygeidog, arrogant, drewllyd, a pheryglus megis Nigel Farrage, Michael Gove ac Ian Duncan Smith.  Ac fe fydd gadael yr Undeb jest yn teimlo fel peth mor hiliol â little Englander i’w wneud. Fel dywedodd David Dimbleby wrth Michael Gove: “Aren’t you marching to the drum of Nigel Farrage, Donald Trump and Marie Le Pen?”

Chief Whip Michael Gove addresses delegates at the Conservative Party annual conference in the International Convention Centre, Birmingham.

‘Rwy’n caru Ewrop – pob cornel ohoni.

‘Rwyf am aros yn rhan o’r teulu.

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma