Pum Merch, Tri Chopa, Un Cwch: problemau seicolegol difrifol?

26 Awst 2016

Dyma rhai o’r prif bethau rwy’n hoffi am fy soffa:

Mae’n hynod o gyfforddus. Gallaf lolian am oriau yng nghanol esmwythder ei chlustogau, unai wrth ymarfer y ‘couch-potato slouch’ clasurol, neu wrth orwedd ar fy nghefn, tra’n hawlio pob modfedd sgwar o’r dodrefnyn a gorfodi fy ngwraig i eistedd ar y stôl deircoes yng nghornel y lolfa (mae hynny’n gwneud lles iddi, fe gredaf, gan fod eistedd a’i chefn yn syth yn ei helpu i gadw’n heini).

Gallaf osod o’m cwmpas fy ffon, fy mhaned, fy mrechdan gaws, potel o gwrw, fy slippers, fy eli arbennig, pa bynnag lyfr rwyf yn ei ddarllen (rwy’n mwynhau barddoniaeth Gwalchmai ap Meilyr ar hyn o bryd, un o gogynfeirdd Owain Gwynedd), blanced Melin Tregwynt rhag oerfel yr haf, fy nghopi cyfredol o Golwg, fy radio (wedi ei gyfeirio, heb unrhyw eithriad, at arlwy ein Radio Cenedlaethol) ac, wrth gwrs, remote y teledu.

Yn wir i chi, dyna’r cyfan sydd ei angen arnaf er mwyn mwynhau bywyd cyflawn a hapus a, thrwy sgrin y set deledu, gallaf weld y byd i gyd. Nid oes angen i mi symud yn bell o fy mharadwys bach yn y lolfa, heblaw am ambell i drip i’r gegin i estyn pork pie, neu rhywbeth tebyg, o’r oergell.

Ni allaf ddeall am eiliad, felly, pa broblemau seicolegol difrifol sy’n gyrru pobl fel Lowri Morgan a Jo Jackson i godi o’u soffas er mwyn hwylio o’r Bermo i Gaernarfon, Whitehaven a Fort William – ac yna rhedeg o’r tri phorthladd i gopaoedd yr Wyddfa, Scafell Pike a Ben Nevis.

Fe ddringais fynydd unwaith, yn yr Alpau, yng nghwni ffraeth fy nhad-yng-nghyfraith. “Dyma’r llwybr!” fe waeddodd, gan ddilyn arwydd yn datgan ‘Extrême danger d’avalanche’. Ac yna, “I’r chwith nawr!” meddai, gan ddilyn yr arwydd ‘Danger de tomber à la mort’  tra’n chwibanu hapus: ‘I like to go a wandering…

Byth eto.

Ta waeth, dyma Lowri a Jo yn rhedeg ar hyd rhyw draeth yng ngogledd Cymru, tra’n paratoi ar gyfer y ras. Dysgom fod Jo yn ‘anturiaethwraig’ – ac ei bod wedi rhwyfo am 78 diwrnod er mwyn croesi Mor yr Iwerydd. Gallaf ddeall maint yr her a wynebai. Yn ddiweddar, fe rhwyfais ar hyd Llyn y Rhath. ‘Roedd yn anodd iawn – a chefais bothell cas ar fy llaw chwith.

Ac mae Lowri Morgan, mae’n debyg, yn rhedwr ‘ultra’. Mae hynny’n meddwl ei bod yn mwynhau rhedeg mewn llefydd peryglus iawn, megis yr arctig a choedwig yr Amazon (as you do). Eto fyth, gallaf uniaethu gyda hi, wedi i mi rhedeg i ffwrdd o’r Vetch mwy nag unwaith, er mwyn dianc o grafangau cefnogwyr Abertawe yn dilyn gem rhwng y Swans a fy nhim lleol, Cardiff City.

Yr hyn a wynebau Lowri a Jo oedd hwylio 390 milltir (o dan ofal eu capten, Pip Hare, sydd wedi hwylio o amgylch y byd saith gwaith), rhedeg 72 milltir (gan gynnwys i ben y tri mynydd) a dringo 14,000 o droedfeddi. Hwn yw Ras Hwylio’r Tri Chopa. Ac, er mwyn cynyddu lefel y boen a’r blinder, bu angen iddynt rhwyfo’r cwch hywlio mawr, wrth adael y Bermo, gan nad oedd yna ddigon o wynt i’w gwthio ar hyd ei thaith.

Ond, yn hytrach na chwyno neu teimlo’n ddig am eu sefyllfa, dim ond gwenu a mwynhau eu hunain a wnaeth y gennod ar eu cwch, yr Aparito Digital. Oherwydd y prinder gwynt, ‘roedd wedi nosi erbyn iddynt gyrraedd cei Caernarfon. Ond, yn hollol ddi-ofn, i ffwrdd a nhw, trwy’r tywyllwch i gyfeiriad yr Wyddfa – ac ar hyd llwybr y Snowdon Ranger i gopa’r mynydd. Erbyn iddynt gychwyn i lawr ‘roedd wedi dechrau gwawrio. Ac, erbyn hyn, roedd Jo yn cael trafferthion mawr efo’i chefn a’i choesau.

Er hynny, rhedodd y ddwy yn ol i Gaernarfon a neidio ar i’r cwch er mwyn cychwyn ar y daith i Whitehaven. Cawn weld hanes y rhan hwnnw o’r ras wythnos nesaf.

Rhaglen digon difyr a chyffrous oedd hon – ac edrychaf ymlaen at gael dilyn eu hanes wrth iddynt hwylio ymhellach i’r gogledd er mwyn concro Scafell Pike a Ben Nevis.

Ac, erbyn hyn, rwy’n meddwl fy mod yn deall seicoleg Lowri a Jo.

Mae nhw’n hollol boncyrs.

 

 

Nodyn: Mae’r uchod yn gopi o erthygl a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn Golwg yn ddiweddar.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma