Pum Cwestiwn i Adam Price

15 Chwefror 2016

Cymru, Ewrop ac Annibyniaeth

Cyflwyniad

Dyn syml wyf.

Ond nawr mae angen i mi ddechrau meddwl am refferendwm David Cameron am aelodaeth y Deyrnas Unedig o’r Undeb Ewropeaidd.

I ni yng Nghymru, mae yna elfen arall i’w hystyried, sef y posibilrwydd y bydd yr Alban yn galw am refferendwm arall ar gyfer annibyniaeth i’r wlad honno, pe byddai Lloegr yn pleidleisio i adael yr Undeb tra fod yr Alban yn pleidleisio i aros. Os ddaw i hynny, mae’n debyg y bydd yr alwad am annibyniaeth i Gymru hefyd yn cynyddu.

Fel Cymro da, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y posibilrwydd o weld Cymru’n wlad annibynnol. Mae’r syniad o hunan-lywodraeth yn apelio – a gallaf weld y balchder a’r hyder a ddaw i ni, pe byddem yn gallu gwneud hynny’n llwyddiannus.

Wrth gwrs, mae ‘na alwad yn bodoli eisoes i ni fod yn wlad annibynnol.

Er enghraifft, mae Leanne Wood (arweinydd Plaid Cymru) wedi datgan ei bod am weld Cymru’n wlad annibynnol o fewn cenhedlaeth.

Hefyd, mae gennym ymgyrch weddol newydd, sef YesCymru  sydd i’w lansio’n swyddogol yn yr Hen Lyfrgell ar yr 20ed o Chwefror (ni allaf fynd i’r digwyddiad, yn anffodus, felly rwy’n cyflwyno fy mhwyntiau, a fy nghwestiynau, yn yr erthygl hon). Fe fydd Adam Price (neb llai) yn annerch y dorf.

Ar hyn o bryd, mae gan YesCymru 2,360 person yn dilyn ei dudalen Facebook (tua 0.07% o’r boblogaeth, felly mae rhywfaint o ffordd gan yr ymgyrch i fynd cyn gallu hawlio eu bod yn cynrychioli canran dda o bobl Cymru. Rhywbeth a fydd yn bwysig iawn o ran hygrededd yr ymgyrch).

Yn y cyfamser, dyma mae Adam yn ei ddweud:

Adam

 

 

 

 

 

 

 

Rwy’n deall ei honiad o ran grymoedd yr Alban (hynny yw, mae gan yr Alban mwy o rym na Cymru). Ond nid wyf yn siŵr pa rym sydd gan Lloegr (wedi’r cyfan, nid oes gan Loegr Senedd, er bod EVEL ar y gorwel.

Ac, wrth gwrs, fe gollodd Ed Milliband yr etholiad cyffredinol gan fod etholwyr Lloegr yn poeni am ymyrraeth yr SNP yng ngwleidyddiaeth eu gwlad.

Ta waeth, ‘grym’ ac ‘yfory gwell’ yw’r nod, yn ôl Adam (ac, rwy’n cymryd fod Leanne a YesCymru yn cytuno).

Ar hyn o bryd, fodd bynnag, rwy’n poeni’n ofnadwy wedi i mi ddeall gan Adam nad oes gennym ddyfodol (‘heb rym heb dyfodol’), na gobaith am ‘yfory gwell’ (‘dim ond gyda grym y daw gobaith am yfory gwell’), heb y grym sydd ei angen. Rwyf wedi torri’r newyddion i fy mab a’i ffrindiau, felly, rhag ofn iddynt wastraffu amser yn gweithio’n galed yn yr ysgol, gan feddwl fod ganddynt ddyfodol.

Mae gen i bum cwestiwn i Adam:

a) Beth wyt ti’n credu yw’r gwahaniaeth rhwng y swm o dreth a godir yng Nghymru a’r arian cyhoeddus a werir yma yn flynyddol?

b) Os ddaw Cymru’n wlad annibynol, ac yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, o ble y daw’r arian i lenwi unrhyw fwlch rhwng y swm o dreth a godir yng Nghymru a’r arian cyhoeddus a werir yma yn flynyddol? Faint fydd y swm hwnnw?

c) Pa dystiolaeth cadarn a sicr sydd i’w gael i gefnogi dy ateb i gwestiynnau (a) a (b)?

d) Pe fyddai Cymru yn ymuno a’r Undeb Ewropeaidd, yn annibynnol o weddill y DU, i ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu polisiau, deddfau a rheolau yn gwbl annibynol o bolisiau, deddfau a rheolau’r Undeb?

e) Pa opsiwn  a drafodaf isod, sydd fwyaf agos at dy awydd i ddod a grym ac yfory gwell i Gymru?

Yn y cyfamser, mewn ymdrech i fod o gymorth, meddyliais y gallai fod o ddefnydd i mi helpu Adam, drwy ystyried yr opsiynau o ran ein dyfodol, yng nghyswllt grym, yfory gwell, a refferendwm David Cameron.

Rwy’n ymddiheuro os yw’r erthygl yma’n codi cwestiynau sy’n swnio braidd yn negyddol – ond (fel a welwyd yn ystod refferendwm yr Alban) mae yna gwestiynau pwysig iawn sydd angen eu hateb, os ydym am fod yn hyderus y byddwn yn gallu mwynhau dyfodol da – ac yfory gwell. Ac mae angen i’r atebion fod yn rhai ffeithiol, gyda digon o dystiolaeth cadarn a chredadwy y tu cefn iddynt. Yn y pendraw, mae’n annhebyg y bydd dim mwy na gweledigaeth rhamantus yn ddigon i ennill y tir canol mewn unrhyw ymgyrch.

Wedi’r cyfan, dyma, yn ôl y Spectator  oedd y rhesymau tu cefn i’r bleidlais ‘Na’ yn yr Alban:

“No voters saw things rather differently. 30 percent of them voted No because they feel British and believe in the Union. 28 percent said their primary motivation for voting No was that there were too many unanswered questions about independence and 26 percent did so because they felt Scotland would be poorer, not richer, after independence.”

A’r hyn sydd yn fwyaf bwysig i mi yw’r dyfodol o safbwynt ein plant a’n pobl ifanc. Eu dyfodol nhw sydd yn y fantol, wedi’r cyfan.

Yr opsiynau

Rwy’n meddwl fod gennym 4 prif opsiwn:

Opsiwn 1: Cymru’n dod yn annibynnol o’r DU a ddim yn ymuno a’r Undeb Ewropeaidd.

Opsiwn 2: Cymru’n dod yn annibynnol o’r DU ac yn ymuno a’r Undeb Ewropeaidd.

Opsiwn 3: y DU yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, Cymru’n aros fel rhan o’r DU, a San Steffan yn dal ati i ddatganoli rhywfaint o bŵer i’r Cynulliad (hynny yw, dim newid).

Opsiwn 4: y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, Cymru’n aros fel rhan o’r DU, a San Steffan yn dal ati i ddatganoli rhywfaint o bŵer i’r Cynulliad.

O ran grym, Adam, rwy’n meddwl mai Opsiwn 1 yw’r gorau (Cymru’n dod yn annibynnol o’r DU a ddim yn ymuno a’r Undeb).

Gyda’r opsiwn yma fe fydd neb (heblaw ambell i lys rhyngwladol a deddfau rhyngwladol, megis deddfau’r mor, deddfau troseddol rhyngwladol a Chonfensiwn Genefa) yn gallu cyfyngu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Y Llywodraeth hwnnw fydd yn gyfrifol am bob polisi: addysg, iechyd, amaethyddiaeth, y llysoedd, yr heddlu, lluoedd arfog Cymru, diogelwch, ein perthynas efo gwledydd tramor, pensiynau, yr economi, diwylliant, darlledu a llawer mwy.

Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol am ein perthynas gyda gweddill y byd, gan gynnwys yr Undeb Ewropeaidd (na fyddwn yn aelod ohono), gwledydd eraill, NATO, y World Trade Organisation, yr IMF a mwy.

Ond Llywodraeth Cymru fydd yn gyfrifol, hefyd, am godi’r arian er mwyn talu am y cyfan. Eto, fel dyn syml, rwy’n ei chael yn anodd i ddod o hyd i set o ffigyrau cyson a chyfredol sy’n dangos faint o arian a godir yng Nghymru ar hyn o bryd (megis y treth a godir) a’r arian a werir yma (o’r pwrs cyhoeddus). Er hynny, dyma rhai o’r ffigyrau a welais, diolch i Google (ac, er y gellir fy nghyhuddo o fod yn amaturaidd drwy wneud f’ymchwil drwy Google, mae’n amlwg i mi fod nifer helaeth o’r ffynonellau wybodaeth i’w weld yn awdurdodol). Dyma a ddarganfuais:

HMRC: yn ystod 2014/15, codwyd £515 biliwn ar draws y DU, gan gynnwys £17.4bn o Gymru (sef 3.4% o’r cyfanswm).

Ymchwil y Cynulliad: gwariwyd £29.9 biliwn yng Nghymru yn 2010/11

UK Public Spending: gwariwyd £30.6 biliwn yng Nghymru yn 2013

Oxford Economics: £19.3 biliwn wedi ei godi yng Nghymru yn ystod 2006/07 a £28.2bn wedi ei wario, sef bwlch o £9.1 biliwn

Er y drafferth i ddod o hyd i ffigyrau cyson, yr argraff a gefais yw ein bod yn gwario yng Nghymru tua £9 biliwn yn fwy na ‘da ni’n ei gasglu fel treth.

Rwy’n cymryd fod y ffigwr gwariant yn cynnwys pethau megis ‘social protection spending’ (lles, credydau treth, pensiynau cyhoeddus ayb) sy’n gyfanswm o £231 biliwn ar draws y DU. Fe fyddai 5% o’r ffigwr (amcangyfrif bras iawn) i Gymru yn 11 biliwn. Fe fyddai Cymru annibynnol yn gyfrifol am y gwariant. (Mae’n debyg, fodd bynnag, y bydd Cymru’n derbyn canran o’r pot pensiwn (sydd wedi ei fuddsoddi mewn cronfeydd megis Gilts) pe byddai’n dod yn wlad annibynnol. Ond, mae’n dod yn anoddach i sicrhau fod digon o arian yn y pot, wrth i’r boblogaeth hýn dyfu.

Os mai dyna fyddai’r sefyllfa pe byddwn yn dod yn wlad annibynnol, rwy’n rhagweld y byddwn mewn peryg o fod rhywfaint yn fwy tlawd fel cenedl – ac yn ei chael yn anoddach nag erioed i dalu am wasanaethau iechyd, addysg a mwy. Yn bersonol, fe fydd angen i mi werthu’r Jag a throi at y Diamond White yn lle’r Château Margaux arferol (och a gwae).

Mae ‘na beryg hefyd, wrth gwrs, y bydd swyddi’n diflannu o Gymru (yn enwedig swyddi sector cyhoeddus megis y DVLA yn Abertawe, swyddi Cyllid a Thollau a’r Royal Mint yn Llantrisant) a fydd, eto, yn lleihau’r cyfanswm o dreth a godir yma. Ac, fel gwlad newydd efo dyfodol ansicr, pa mor hawdd fyddai denu cwmnïau i fuddsoddi yma? Fe welwn eisoes Llywodraeth Cymru yn ceisio gwrthod deddf newydd Llywodraeth y DU sydd i’w wneud yn anoddach i alw streic. Beth bynnag yw’r farn am y ddeddf honno, os bydd yn haws galw streic yng Nghymru nag yn Lloegr, fe fydd modd i Weinidogion Lloegr gyfeirio at y gwahaniaeth hwnnw pan fydd unrhyw gwmni’n ceisio dewis rhwng Cymru a Lloegr fel lle i fuddsoddi.

Ar hyn o bryd, mae 10 cwmni mwyaf Cymru yn cyflogi 38,742 o bobl rhyngddynt. Os anwybyddir Iceland Foods a Peacocks, mae’r ffigwr yn gostwng i 9,000 rhwng 8 cwmni – a ‘does dim sicrwydd bod yr holl staff wedi eu lleoli yng Nghymru. Mae trosiant y deg cwmni’n amrywio o £2 biliwn (Iceland Foods) i £390 miliwn (Dow Corning). Gellir eu cymharu efo’r deg cwmni mwyaf ym Mhrydain (8 ohonynt yn fanciau), o HSBC (£87 biliwn o drosiant) i Aviva (£71 biliwn). Mae’r gagendor yn frawychus.

GDP per capita y DU (yn 2014, yn ôl yr IMF) yw £27,914. GDP per capita Cymru yw £17,573 . Gagendor arall.

A beth fydd sefyllfa cwmnïau yng Nghymru sydd am allforio a mewnforio nwyddau? Beth, er enghraifft, fydd y drefn o ran symud nwyddau drwy Loegr, er mwyn cyrraedd marchnadoedd Ewrop a gweddill y byd? Ni wn. Ond yn sicr mae ‘na ddadl na fyddwn yn cael ein trin yn garedig iawn gan Lloegr na Ewrop, wedi i ni ddewis eu gadael .

A beth  fydd sefyllfa pobl o Gymru sydd am symud i weithio yn Lloegr? Eto, ni wn.

Ai’r cynnig gan Adam, felly yw y dylwn fod yn hapus, ond yn dlawd, fel gwlad annibynol? Gyda diwedd ein diwydiannau glo a haearn – a’n lleoliad daearyddol oer, gwlyb ac ymylol (peripheral), mae’n anodd gweld o lle y daw’r arian i lenwi’r bwlch £9 biliwn. (A wele, isod, beth fydd ein dyled cenedlaethol (enfawr), wedi i ni wahanu o’r DU).

Rwy’n amau, felly, nad dyma’r opswin a fydd yn ymateb orau i dyheadau Adam. Wedi’r cyfan, nid yw bod yn dlawd yn ymateb yn briodol i weledigaeth Adam o ran ‘dyddiau gwell’, er yr holl rym. Efallai y bydd angen cyfaddawdu o ran grym, felly.

Beth am Opsiwn 2, felly (Cymru’n dod yn annibynol o’r DU ac yn ymuno a’r Undeb, fel gwlad annibynol)?

Mae hwn yn swnio’n fwy addawol o ran arian (fel un o ardaloedd tlawd Ewrop, y gobaith yw y cawn gymorth arianol gan yr Undeb). Ond mae angen cofio, pe fyddai Lloegr / yr hen DU wedi gadael yr Undeb, fe fydd ei gyfraniad ariannol wedi gadael, hefyd. Ar hyn o bryd mae’r DU yn cyfrannu 17bn Ewro i’r Undeb (allan o’r cyllid o 150bn Ewro), ac yn cyfrannu mwy na’r 28 aelod arall, heblaw am Ffrainc a’r Almaen. Mae’n bosib, felly, efo llai o arian yng nghoffrau’r Undeb, y bydd llai o arian yn dod i Gymru.

Ac ar hyn o bryd mae Cymru’n derbyn ‘dim ond’ £500m y flwyddyn gan yr Undeb .  Mae’r ffigwr yma’n bell o’r bwlch £9 biliwn (wele uchod).

Ac hefyd, wrth gwrs, fe fydd angen i ni dalu arian i’r Undeb, er mwyn cael bod yn aelod. Ar hyn o bryd, Malta (poblogaeth 0.4 miliwn) sy’n talu’r swm lleiaf er mwyn fod yn aelod o’r Undeb, sef 57 miliwn Ewro. Gyda poblogaeth o 3 miliwn, efallai bydd cyfraniad Cymru tua chwe gwaith yn fwy na hyn, sef 342 miliwn Ewro. Fe fyddai hynny’n gwneud twll go fawr yn ein cyllid pe fyddai cyfraniad yr Undeb i ni yn aros tua £500m.

Yn ogystal a’r bwlch ariannol, mae angen i ni gofio neges holl-bwysig Adam: ‘Heb rym heb ddyfodol. Dim ond gyda grym y daw gobaith am yfory gwell‘. Er mwyn fy mab a’i ffrindiau, felly, mae wir angen mynd i’r afael a’r her o gael grym i Gynulliad a Llywodraeth Cymru.

Fodd bynnag, y sefyllfa o dan opsiwn 2 yw y bydd Cymru, fel gwlad o ychydig mwy na 3 miliwn o bobl, yn aelod o Undeb Ewropeaidd efo poblogaeth o 450 miliwn (pe fyddai Lloegr wedi gadael). Bydd Cymru, hefyd, yn fach o ran maint ei economi, o’i chymharu efo llawer o’r aelodau eraill. Mae’n anodd credu, felly, y byddwn yn aelod dylanwadol iawn pan ddaw’n amser i ddatblygu polisiau’r Undeb. Yn hytrach, fe fyddwn yn un o’r gwledydd ymylol sydd o ddiddordeb i’r Undeb yn bennaf yng nghyswllt ei allu i gyfeiro arian atynt, er mwyn ceisio eu cryfhau.

Hefyd, fel gwlad annibynol newydd, mae’n debyg y bydd angen i ni fynd drwy rhwy broses o ran ymuno’n ffurfiol a’r Undeb. Rwy’n siwr y bydd y ffaith ein bod yn ‘gyn-aelod’ (drwy’r DU) yn esmytho’r broses (er enghraifft, mae’n annhebyg iawn y cawn ein gwrthod – ac mae’n debyg y cawn ein derbyn yn ddigon cyflym). Ond mae’n anodd gweld y cawn llawer o ddylanwad yng nghyswllt natur ein aelodaeth. Bydd disgwyl i ni ymuno a’r Ewro (roedd hyn yn orfodol i Croatia, er enghraifft. Gwlad o 4.2 miliwn o bobl a ymunodd a’r Undeb yn 2013 a chytuno i ufuddhau a phob un o ddeddfau a rheolau’r Undeb – a gyda phopeth sy’n mynd a ni i gyferiad ‘ever closer union’.

O ran deddfau a rheolau, mae’n bwysig cofio, felly, fod yr Undeb yn delio gyda: amaethyddiaeth, pysgota, bwyd, busnes, newid hinsawdd, diwylliant, addysg, pobl ifanc, yr economi a threth, cyflogaeth a hawliau cymdeithasol, cydraddoldeb, ynni, yr amgylchedd, iechyd, defnyddwyr (consumers), glwedydd tu hwnt i’r Undeb, cyfiawnder, datblygu lleol a’r rhanbarthau, gwyddoniaeth, technoleg a mwy.

Yno fydd y grym, felly. Rol Llywodraeth Cymru fydd i sicrhau ein bod yn ufuddhau gyda deddfau a rheolau Ewrop, a phrin bydd gallu ein llywodrath i arwain (neu hyd yn oed dylanwadu’n llwyddianus ar) y broses o ddatblygu’r deddfau a’r rheolau hynny. Fel gwlad a fydd yn defnyddio’r Ewro, prin iawn fydd ein rheolaeth dros ein economi (o ran gwerth ein harian ayb). Ac, wrth gwrs, fe fydd yn anoddach nag erioed i Adam greu Arfor  pan fyddwn yn rhan o gytundeb Shengen

Bydd problemau eraill, hefyd. Er enghraifft beth fydd sefyllfa cwmniau yng Nghymru sydd am allforio nwyddau i Loegr (neu unigolion sydd am fynd yno am ba bynnag rheswm), pan fyddwn ninnau’n defnyddio’r Ewro, a hwythau’n defnyddio’r bunt?

I mi, felly, mae opsiwn 2 ddim i’w weld yn gyson iawn a dyheadau Adam o ran grym – ac o ran yfory gwell..

O diar.

Beth, felly, am Opsiwn 3 (y DU yn aros yn yr Undeb, Cymru’n aros fel rhan o’r DU, a San Steffan yn dal ati i ddatganoli rhywfaint o bwer i’r Cynulliad.)? Dyma, wrth gwrs, yw’r sefyllfa ar hyn o bryd. Mae gennym ychydig o rym yng Nghymru, mae ‘na fwy o rym yn San Steffan a mwy eto gan yr Undeb Ewropeaidd. Wel, gan fod YesCymru yn bodoli, mae’n amlwg nad yw Adam yn hapus ‘da opsiwn 3. Ymlaen a ni, felly, at yr opsiwn olaf.

Beth am Opswin 4? (y DU yn gadael yr Undeb, Cymru’n aros fel rhan o’r DU, a San Steffan yn dal ati i ddatganoli rhywfaint o bwer i’r Cynulliad).

Yn debyg i sefyllfa Cymru o dan Opswin 1, fe fydd y DU yn rhydd i wneud ei benderfyniadau ei hunain, o ran ei economi a’i bolisiau. Ond eto, yn debyg i Opswin 1, fe fydd yn gaeth i ddeddfau rhyngwladol – ac, wrth gwrs, yn gorfod dod i gytundeb efo’r Undeb Ewropeaidd – a gwledydd eraill – yng nghyswllt gwerthu a phrynnu nwyddau a gwasanaethau.

Fel rhan o’r DU (sydd, ar hyn o bryd yn y pumed safle o ran economiau llewyrchus y byd – ond, o bosib, ar ei ffordd i’r pedwerydd safle,  fe fydd Cymru dal yn gallu elwa’n ariannol, wrth i weddill y DU ein helpu i gau’r twll £9bn yn ein economi.

Ond beth am yr arian y byddwn yn ei golli os na fyddwn yn yr Undeb Ewropeaidd? Wel, mae’r DU ar hyn o bryd yn cyfrannu £17bn y flwyddyn i’r Undeb, sef £10.8bn y flwyddyn yn fwy na mae’n derbyn yn ol mewn grantiau  Yn y cyfamser, mae Cymru yn derbyn £500m y flwyddyn gan yr Undeb. Pe na fydd y DU yn talu £17bn y flwyddyn i’r Undeb, a bod 5% o’r arian hwnnw yn dod yn syth i Gymru, fe fyddwn yn derbyn £850m y flwyddyn. Fodd bynnag, o gofio bod Llywodraeth y DU eisoes yn gwario yng Nghymru 11% y pen yn uwch na’r gwariant cyfartaledd ar draws y DU, gallwn ddisgwyl  £943m i ni, sef codiad o tua 90% o’i gymharu a’r hyn a gawn gan yr Undeb ar hyn o bryd.

A pe fyddai’r Alban yn gadael y DU, yna fe fydd peth o’r arian a werir yno ar hyn o bryd hefyd ar gael i’w rhannu ymhlith gweddill gwleydd y DU.

Ai dyma’r opsiwn sy’n ymateb orau i ddyheadau Adam? Y grym mewn dau le yn unig (ac, wrth gwrs, gallwn ddatganoli mwy o rym o San Steffan i Gymru) a mwy o arian er mwyn sicrhau yfory gwell?

Wel. Na, mae’n debyg.

Rwyf newydd weld fod ei Blaid (Plaid Cymru) am weld Cymru’n dod yn wlad annibynol . Ac mae’r Blaid am aros o fewn yr Undeb.

Felly, opsiwn 2 yw dyhead ffurfiol y Blaid y mae Adam yn aelod ohoni (Cymru’n dod yn annibynol o’r DU ac yn ymuno a’r Undeb, fel gwlad annibynol).

Ond yn ol f’ymchwil trylwyr (diolch i Google) fe fyddwn heb llawer o rym – ac efo llai o arian wedi i ni ysgaru o weddlill y DU.

Diweddglo

Wel, ‘rwyf i wedi drysu’n llwyr!

O’r herwydd, fe edrychais am atebion ar wefan YesCymru.  Mae’n trafod y canlynol:

A yw Cymru’n rhy fach i fod yn annibynol? Mae YesCymru yn cyfeirio at gwledydd fel Luxembourg, yr Awstria, yr Iseldiroedd a Sweden fel gwledydd bach, cyfoethog. Ond nid ydynt yn wledydd mor ymylol a Chymru (dyna pam ‘da ni wedi derbyn gymaint o arian o dan gynllun ERDF, sy’n targedu ardaleodd sy’n bell o’r canol). Hefyd, mae eu GDP yn amrywio rhwng 74k Ewro a 30k Ewro y pen, o’i gymharu a 22k Ewro y pen yng Nghymru. Eto fyth, dyma dipyn o gagendor. Ac mae’r rhan fwyaf o’r gwledydd tua dwywaith maint Cymru, o ran poblogaeth. Rwy’n ei chael yn anodd, felly, i fedru gwneud fy mhenderfyniad ar sail y cymharieathau hyn.

O ran yr arian, mae YesCymru yn cyfeirio at diffyg cyllidebol y DU (national debt). Wel, mae hyn yn osgoi’r pwynt rhywfaint, o ran y bwlch rhwng treth a gwariant yng Nghymru. Ond mae’n f’atgoffa o rhywbeth arall, sef pe fyddwn yn dod yn wlad annibynnol, fe fydd disgwyl i ni fynd a’n rhan o’r £1.5 trillion (£1,500,000,000,000) o ddyled y DU efo ni (rhydd hyn bil i Gymru o £75,000,000,000; http://www.theguardian.com/politics/2014/apr/08/independent-scotland-debt-thinktank). Mae YesCymru hefyd yn disgrifo’r DU fel ‘economi wan’ (ond economi’r DU sydd yn y pumed safle o ran economiau llewyrchus y byd). Hefyd, cawn ein hatgoffa fod Cymru, yn hanesyddol, wedi bod yn gredydwr i Drysorlys y DU. Ond mae angen i ni ystyried ein sefylfa heddiw, nid ein sefyllfa hanesyddol.

Mae gweddill cynnwys y rhan ‘annibyniaeth’ o wefan YesCymru  yn brin o unrhyw ffeithiau. Yn hytrach, mae’n esbonio pethau fel:

Mae rhyng-ddibyniaeth gwledydd yn un o ffeithiau bywyd modern. Rydym eisiau chwarae ein rhan yn y gymuned ryngwladol.

Mae globaleiddo nid yn unig yn gwneud Cymru annibynnol yn berthnasol, ond ei gwneud yn fwy posibl.

Rydym eisiau bod yn rhan lawn o’r gymuned ryngwladol, yr Undeb Ewropeaidd a’r CU. Byddai Cymru annibynnol yn dal yn gymydog i wledydd eraill y Deyrnas Gyfunol.

Geiriau hyfryd, ond mae angen mwy o ddata a ffeithiau clir a chadarn gan Adam a YesCymru, os ydynt am enill annibyniaeth i Gymru. Ac mae angen gonestrwydd wrth wneud hyn, er mwyn sicrhau bod modd i ni ymddiried yn yr ymgyrch.

Os mai’r prif nod yw i sicrhau ysgariad rhyngom a Lloegr (a dial, o’r diwedd yn dilyn canrifoedd o boen yn dilyn ein gormesu gan y Saeson), beth bynnag yw’r gost, yna mae angen i ni wybod hynny. Rwy’n ofni, fodd bynnag, na fydd y tir canol yng Nghymru’n derbyn fod hynny’n ddigon o rheswm i ni fod yn wlad annibynol.

Ond os yw’n wir mai’r prif nod yw, yng ngeiriau Adam, i sicrhau ‘grym’ a chael ‘yfory gwell’, yna hoffwn atebion i’r cwestiynau a ofynais ar dop yr erthygl sef:

a) Beth wyt ti’n credu yw’r gwahaniaeth rhwng y swm o dreth a godir yng Nghymru a’r arian cyhoeddus a werir yma yn flynyddol?

b) Os ddaw Cymru’n wlad annibynol, ac yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, o ble y daw’r arian i lenwi unrhyw fwlch rhwng y swm o dreth a godir yng Nghymru a’r arian cyhoeddus a werir yma yn flynyddol? Faint fydd y swm hwnnw?

c) Pa dystiolaeth cadarn a sicr sydd i’w gael i gefnogi dy ateb i gwestiynnau (a) a (b)?

d) Pe fyddai Cymru yn ymuno a’r Undeb Ewropeaidd, yn annibynnol o weddill y DU, i ba raddau y bydd Llywodraeth Cymru yn datblygu polisiau, deddfau a rheolau yn gwbl annibynol o bolisiau, deddfau a rheolau’r Undeb?

e) Pa opsiwn (1,2, 3, 4, neu rhywbeth arall) sydd fwyaf agos at dy awydd i ddod a grym ac yfory gwell i Gymru?

Diolch yn fawr, Adam.

Rhannu'r erthygl hon