Poirot a’r pren: adolygiad o Black Coffee, Agatha Christie

10 Mawrth 2014

Adolygiad gan Huw Onllwyn (llun gan Robert Pattinson)

 

Mae fy ngwraig yn hoff iawn o straeon ditectif. Mae wrth ei bodd yn gwylio rhaglenni megis Sherlock Holmes, Midsomer Murders, Miss Marple a New Tricks. Fe’i gwelwch yn aml yn eistedd ar y soffa yn y lolfa, yn cydio mewn paned o de a bisgien, yn gwenu’n hapus wrth i’r ‘body-count’ yn Midsomer godi’n uwch ac yn uwch.

(O’r herwydd, rwy’n cadw tools megis fy mwyell, hacksaw a drill yn y garej, mewn cwpwrdd wedi ei gloi).

Ar nos Wener, felly, cefais fy nhywys i’r Theatr Newydd, i weld ‘Black Coffee’, gan Agatha Christie.’Roedd gweddill y gynulleidfa yn dod o Rhiwbeina – ac o 1948. ‘Roedd rhywbeth cyfforddus iawn amdanynt. Gwragedd wedi ymddeol, wedi gwisgo’n dwt ac yn daclus, gyda’u gwyr bonheddig, distaw, yn eu dilyn (fel fi). Yn sicr, ‘roedd yno brinder o hipsters Pontcanna, trendies Treganna, neu yuppies o’r Bae.

Blanced cynnes

Wedi i ni fwynhau gwydred (bach iawn) o win coch (Pinot Noir, digon pleserus), aethom i’n seddi (Stalls, Row R, £25 yr un). Mae’r Theatr Newydd yn drysor. Mae fel blanced cynnes lliw burgundy, aur a hufen – gyda’r goleuadau pert a’r ysbienddrychau bach twt tu cefn i’r seddi yn datgan, yn glir, mai ‘Theatr!’ yw hwn.

‘Rwy’n cofio mynd yno’n fachgen bach, i weld ambell bantomein ac, o gyrraedd canol oed, yn mynd yno i weld yr opera (there’s posh for you) pan oedd yn gartref i’n Cwmni Opera Cenedlaethol. Pob diolch i Gyngor y brifddinas, felly, am ei gadw o 1906 hyd heddiw – ond erys pryder o ran ei ddyfodol, yng ngoleuni’r toriadau diweddar yn y cyllid i’r celfyddydau yng Nghaerdydd.

Da iawn Nick Capaldi, felly (Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru) am gyfeirio at y toriadau fel peth ‘hynod siomedig’ – ac am ddatgan: “We understand the very real pressures that the council faces. But arts and culture contributes so much to the reputation of the city and the wellbeing of its citizens. This is very sad news.

Clywch clywch!Ond beth am y ddrama? Dyma’r plot (gyda diolch i Wikipedia):

Hercule Poirot and his friend Arthur Hastings are summoned to visit a famous physicist, Sir Claud Amory, but they discover on their arrival that he has been murdered. The plot revolves around a stolen formula, with Poirot deducing which of Sir Claud’s house guests/family members is the killer.’

Yr ‘Agatha Chrisite Theatre Company’ oedd wrthi. Robert Powell (Jesus of Nazareth) oedd yn chwarae rhan Poirot, Liza Goddard oedd chwaer Sir Claud Amory. Nid wyf yn meddwl y byddech yn adnabod gweddill y criw.

Actio stiff

Dechreuais golli diddordeb yn y ddrama ar ol tua 5 munud. Ni wn os mai bai y ddrama ydoedd, yntai bai’r ‘Agatha Christie Theatre Company’. Un broblem oedd y ffaith bod bron pob cymeriad, heblaw am Poirot a’r eidalwr, Dr Carelli, mor debyg i’w gilydd. Yn wir, ni fyddwn wedi synnu pe byddai pob un cymeriad wedi dweud, yn ei dro, ‘What ho Algernon! Anyone for tennis?’.

Mae’n drueni nad oedd y cyfarwyddwr, neu unrhyw un o’r actorion, wedi ceisio datblygu eu cymeriadau y tu hwnt i’r rhes o stereoteipiau a welsom ar y llwyfan. O’r herwydd, roedd yn anodd cofio pwy oedd pwy; pwy oedd wedi dweud neu gwneud beth – ac ‘roedd yn anodd magu unrhyw ddiddordeb ynddynt.Yn waeth fyth, roedd gormod o’r actorion yn dioddef o’r ‘wooden actor syndrome’, sef dull o actio sy’n cynnwys dweud eich llinell (‘What ho!’) ac yna aros yn llonydd, nes i’r amser ddod i chi ddweud eich llinell nesaf (‘What ho!’).

Chware teg i Robert Powell a Liza Goddard, fodd bynnag, fe lwyddon nhw i greu cymeriaidau byw a lliwgar – a dod a hiwmor tawel i’r llwyfan. Ond roedd cymaint o goed o’u cwmpas, ‘roedd yr holl beth ychydig yn stiff.

Heb sbwylio’r stori, dyma’r ddeialog manwl, troellog a di-ddiwedd wedi ei ddistyllu mewn i un frawddeg:

“X was in the study, Y needed the money, Z is a shifty old cad from Italy, H was in the kitchen, J was ill in bed, B was playing the violin, E poured the coffee, F never liked him anyway, G is quite mad….so it was obviously K who dunnit…”

Lwc i mi ganolbwyntio, fodd bynnag – bu’n rhaid i mi esbonio’r hyn a ddigwyddodd yn rhan gyntaf y ddrama i fy ngwraig, gan iddi hi gael ‘snooze bach’ yn ystod y perfformiad.Cefais Pinot Noir arall yn y toriad – a phedwar toffi (Sainsbury’s Assorted Toffees: 227g am 89c) yn ystod y sioe.

Er gwaethaf yr uchod, ‘roedd yn noson digon difyr.

Hir oes i’r Theatr Newydd!

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma