Pobl Glasgow yn ymfalchio yng Ngemau’r Gymanwlad

12 Awst 2014

Bu Dr Gwen Jones Edwards, gynt o Gaerdydd ond bellach yn byw yn Glasgow, yn mwynhau Gemau’r Gymanwlad. Dyma’i argraffiadau o’r gemau a’i dylanwad ar hunan-hyder Glasgow a’r Alban yng nghyswllt y refferendwm arfaethedig:

‘People make Glasgow…’

medden nhw, a dyma’r geiriau a fabwysiadwyd gan ail ddinas yr Alban fel sail, ac fel arwyddair, i’r chwaraeon mwyaf eu bri a drefnwyd yma erioed. Dyma fyddai’r gemau ‘cyfeillgar’, ac, yn unol â chymeriad hawddgar trigolion Glasgow, dyma hefyd yr union beth a gawsom. I’r sawl sydd yn gyfarwydd â naws a chymeriad y ddinas, roedd twym-galonrwydd ei dinasyddion yn amlwg i’w weld ym mhob elfen o’r digwyddiad.

Byddaf yn meddwl fod y gair Scots ‘gallus’ yn disgrifio pobl Glasgow i’r dim: pobl hunan-hyderus, mentrus, eofn, coeth a thrawiadol. Creadur digon gallus hefyd oedd Clyde, mascot y chwaraeon; creadur bach ysgallog ond annwyl tu hwnt. Yn wir cymaint oedd y galw am y ffigyrau meddal o Clyde fel nad oedd dim un yn weddill i’w brynu erbyn diwedd y chwaraeon, er cynhyrchiant o filoedd ohonynt.

Cawsom eto ddistylliad difyr o gymeriad gallus yr ardal yn y seremoni agor, gan gynnwys arddangosiad o’r egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol sydd mor hanfodol i feddylfryd Glasgow: wedi’r cwbl onid o’r ardal hon y daethai Keir Hardie, aelod seneddol cyntaf y Blaid Lafur, yr hwn a ddaeth yn aelod ar Ferthyr Tudfyl yn ei dro? Ni fyddai pobl Glasgow yn disgwyl dim llai na chodi’r £5 miliwn a gasglwyd er budd Unicef trwy’r tecstio ar y cyd a anogwyd tua diwedd y seremoni.

Tywynodd yr heulwen (wel am ambell i ddiwrnod o leiaf) a chafwyd chwaraeon ysblennydd. Roedd strydoedd y ddinas yn llawn o ymwelwyr yn rhyfeddu at ei hadnoddau a’i holl siopau; wedi’r cwbl does dim gwell canolfan siopa i’w chael y tu allan i Lundain, yn ôl pob sôn. Arddangoswyd Glasgow yn ei holl ogoniant, yn enwedig felly wrth ddilyn y marathon a’r rasus beicio o gwmpas ei lonydd, ac o gwmpas rhodfeydd mwyaf godidog, golygfeydd a berodd syndod yn sicr i’r rhai a rhagdybiai mai dinas fudr, ddiwydiannol oedd Glasgow. Lle bu stadiwm pêl droed rhyngwladol yr Alban yn Hampden safai yn awr stadiwm rhagorol ar gyfer athletau, a’i lawr wedi ei godi chwe throedfedd gan ehangu’r maes a chartrefu trac yn barod am Usain Bolt, ymysg eraill.

Ac yr oeddent yn wir yn chwaraeon i’w cofio, yn enwedig felly i’r gwesteion. Araf, efallai, oedd cynnau brwdfrydedd ymysg dinasyddion Glasgow, a rheiny yn rhagweld gorfod dygymod â rhwystrau teithio o gwmpas eu cartrefle, ond wedi diwedd yr wyl roedd y cynnwrf yn byrlymu trwy eu gwythienau. Ac er mai Lloegr a leolwyd ar frig y tabl medalau, trawiadol iawn oedd cyrhaeddiad yr Alban. Cipiwyd 53 medal ganddi, a hynny’n 20 yn fwy na’i nod gwreiddiol; sicrhaodd ei 19 medal aur bedwerydd safle i’w hathletwyr.

Mwy trawiadol fyth efallai oedd i’r Alban guro gwledydd eraill yr ynysoedd Prydeinig wrth ennill un fedal ar gyfer pob 49,057 o’i phoblogaeth. Daeth Cymru yn ail gydag un fedal am bob 52,632 o’i phoblogaeth hithau. Ond er ei lle ar frig y tabl, yn y trydydd safle glaniodd Lloegr, ac angen arni 154,728 o bobl er mwyn haeddu medal.

Darparwyd y wledd chwaraeon yma am gost o llai na £500 miliwn; talwyd 80% o’r swm  gan Lywodraeth yr Alban a’r gweddill gan Gyngor y Ddinas. Daeth dim ceiniog o gyfraniad oddi wrth Lywodraeth San Steffan ar gyfer gêmau Glasgow, er i’r llywodraeth honno fynnu tal o £880 miliwn oddi wrth Gaeredin fel cyfraniad at êmau Olympaidd Llundain yn 2012: mae’n ddadleuol, wrth gwrs,  a ddaeth unrhyw fudd i’r Alban yn eu sgil.

Cydwelwyd gan y ddwy ochr y dylid hepgor gwleidyddiaeth trwy gydol adeg chwaraeon Glasgow, a doeth oedd hynny o gofio mai rhai dyddiau oedd yn weddill cyn dyfod y Refferendwm Annibyniaeth ar Fedi’r 18fed. Hawdd yw gwneud addewidion. Beirniadwyd Alex Salmond gan elfennau o ymgyrch ‘Better Together’ am iddo hebrwng munud o dawelwch er cof am feirwon yr awyren honno o Falaysia a drengodd yn yr Wcrain rhai dyddiau cyn agoriad y chwaraeon. Ceisio denu statws iddo ef ei hun oedd Salmond, meddai ymgyrch ‘BT’, a cheisio osgoi’r cwestiynau ynglyn â’i ‘Gynllun B’, sef  y cwestiwn mawr am ba arian cyfredol y byddai’r Alban yn ei ddefnyddio pe na gytunai San Steffan iddi ddefnyddio’r bunt.

Hebryngwyd menyw o’r gemau gan yr heddlu am iddi gyhwfan banner ‘IE’, ond oedd dim cosb i’r rheiny a ddosbarthodd faneri dwyochrog, baneri gyda chroes yr Alban ar yr un ochr a Jac yr Undeb ar y llall. Hedfanodd y Saethau Coch gan ledaenu mŵg glas, coch a gwyn wedi i’r Adran Amddiffyn honni nad oedd y Saethau byth yn lledaenu dim ond y cymysgedd arbennig yma o liwiau. Ysywaeth cofiai’r Albanwyr i’r Saethau Coch ledaenu glas a gwyn yn unig yn ystod agoriad senedd Holyrood ym 1999.

A beth fydd etifeddiaeth chwaraeon Glasgow yn yr Alban? Yn sicr fe gynyddodd hunan-hyder yr Albanwyr. Roedd y pleser o weld eu pobl ifanc, nofwyr fel Ross Murdoch a phaffwyr fel Charlie Flynn, yn brofiad arbennig mewn gwlad sydd, yn aml iawn, wedi gorfod digoni ar dderbyn bwydlen o newyddion Seisnig am eu henwogion hwythau. Profodd yr Albanwyr iddyn nhw eu hunain nad oeddent yn wir yn rhy fach, nad oeddent yn rhy dlawd, nac yn rhy wirion ychwaith. Ond a ydyn nhw’n ddigon gallus i ddweud ‘IE’ar y diwrnod tyngedfenol? Y bobl sydd yn gwneud Glasgow, a’r bobl sydd yn gwneud yr Alban, ond bydd rhaid ymaros tan y 18fed er mwyn gweld a ydynt am gipio’u siawns i ddefnyddio gallu sydd yn ddiamheuol.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma