Pink (ish) Floyd (ish) yn Neuadd Dewi Sant

18 Tachwedd 2013

Buodd Huw Onllwyn Jones yn trio ail ymweld a’i ieuenctid mewn cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant…

Rwy’n eithaf embarrassed. Wythnos ddiwethaf fe dalais £29.50 i fynd i Neuadd Dewi Sant i weld yr hyn a elwir yn ‘tribute band’. Ar y naffometer (patent pending) mae gweld ‘tribute band’ yn sgorio’n uchel iawn.

Fodd bynnag, rwyf nid yn unig yn dipyn o chav (wele hanes f’ymweliad a sioe Frankenstein), ‘rwyf hefyd yn hen hippy. Yn blentyn y 70au. Cyn-berchennog casgliad helaeth o grysau cheesecloth, trowsus ‘loon’ felfet porffor, casgliad enfawr o NMEs a gwallt ofnadwy o hir (meddyliwch am Robert Plant – roeddwn yn debyg iddo fe, ond heb y talent).

Dyddiau melys iawn oeddent. Ond mae nhw wedi hen fynd, fel fy ngwallt. Ta waeth, y band o dan sylw wythnos diwethaf oedd neb llai na Pink Floyd. Ac yn wir, roedd berchen copi o ‘Dark Side of the Moon’ yn orfodol i bob hippy parchus. Heb son am ‘Meddle’ – a ‘Wish You Were Here.’ A dyma fi, felly, yn mynd i dalu teyrnged i rai o aristocrats y blaned hippy.

Ac nid am y tro cyntaf! Fe ddaeth ‘Brit Floyd’ (yep – enw naff hefyd!) i Gaerdydd blwyddyn diwethaf, i’r Motorpoint Arena (y CIA, gynt). Bryd hynny, gyda fy nhocyn yn fy llaw, fe gerddais o orsaf Queen Street tuag at y neuadd – gyda phob cam yn fy ngyrru yn fwy dwfn i ganol hen hippies Caerdydd a’r cymoedd – ac i ganol sawl cwmwl o fwg melys iawn (rhyw fath o sigaret herbal, fe gredaf. Efallai ei fod yn helpu lleddfu poenau cric malau). Yn wir, roedd y golwg gwyllt (aka ‘spaced out’) ar wynebau rhai o fy nghyd-hippies yn cynnig i mi eu bod heb ddiffodd eu sigarets herbal ers y 70au.

Nodau perffaith ‘anfarwol’

Noson dda oedd honno. Gyda’r dorf, hirwallt, denim-clad, mewn mor o olew patchouli yn fy nhywys yn ôl i’r 70au – ac i ddyddiau hapus fy arddegau hwyr. Band proffesiynol iawn yw Brit Floyd – gyda’r gallu i gyflwyno ffefrynau megis ‘One of These Days’ yn ‘note-pefect’. Gyda sioe olau penigamp – ac yn dangos ar sgrîn enfawr tu cefn i’r band yr union ffilmiau ‘acid-trip’ a ddefnyddiwyd gan y band gwreiddiol.

Pwy, a fu yno’r noson honno, all anghofio eu triniaeth o’r ‘Great Gig in the Sky’? Anfarwol.

Beth aeth o’i le ?

Wel, wrth ddringo i’r trydydd llawr fe welais cyd-Gymro Cymraeg a fu, fel finnau, yn y Motorpoint. Os cofiaf yn iawn, hwn oedd ei chweched ymweliad i weld Brit Floyd. Dywedodd wrthyf fod yr ‘Australian Pink Floyd’ yn dod i Gaerdydd ym mis Mawrth – ‘ddim cweit cystal a Brit Floyd’, meddai, cyn gofyn os oeddwn am fynd. Gwenais yn nerfus arno, a dianc i gyfeiriad y cloakroom i adael fy nghot efo’r ledi.

Dechreuais deimlo fel hen fenyw sy’n mynd i’r bingo – ‘pob nos Wener’. Ac yna, ar y trydydd llawr – prinder hippies! Ni welais unrhyw berson yn perthyn i’r categori ‘spaced out’. Yn wir, ni fyddai wedi bod yn syndod gweld arwydd yn datgan ‘Mae gwisgo olew patchouli yn y fangre hon yn erbyn y gyfraith.’

Ymlaen i fy sedd. Tier 1. (Gyda llaw, dyna lle mae’r frenhines yn eistedd pan yn ymweld a’r neuadd. Tybed, felly, a fu fy mhen-ôl gwerinol yn eistedd yn yr union le y mae Hi’n gosod ei phen-ôl brenhinol? Fe fydd yn dda cael gwybod). Ac mae’r gweddill jest yn rhy ddiflas i’w ail-adrodd yma.

Plonk plonk plonk…Money. Plonk plonk plonk…Another Brick in the Wall. Plonk plonk plonk….Wish You Were Here.

Cefais sgwrs digon diddorol, hanner amser, efo’r par neis wrth f’ochor (o Gastell Newydd Emlyn – ond yn ddi-Gymraeg. ‘Roedd eu merch yn byw yng Nghaerdydd, felly roeddent yn aros gyda hi – ac yn gobeithio gwneud ‘chydig o siopa drannoeth. ‘Roeddent wrth eu bodd yng Nghastell Newydd Emlyn, wedi symud yno chwe mlynedd yn ôl. ‘Roedd ef bellach yn cadw ieir. ‘Rwy’n siwr iddo ddweud ei fod yn gyrru Mazda).

Plonk plonk plonk….Pigs on the Wing. Plonk plonk plonk….I’m out of here. 

Beth aeth o’i le?

Wel, yn gyntaf, roedd Neuadd Dewi Sant yn rhy barchus o lawer i fedru ail-greu fy saithdegau gwyllt. Yn ail, gellir maddau dyn am weld tribute band unwaith. Wedi hynny, mae’n brofiad ail-adroddus a diflas. Wrth weld, dyweder, y Rolling Stones dro ar ôl tro (fel, ahem, rwyf i wedi gwneud) mae dyn yn gweld rhywbeth gwahanol pob tro – gan gynnwys caneuon newydd a dehongliadau newydd o hen ffefrynau.

Ond, o ran creadigwrdd, peth marw yw tribute band.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma