Perfformiad Byw Unigryw yn dathlu’r Brifysgol Agored

5 Rhagfyr 2013

UOA_comp_logo_option1 - project pages logo

Mynnwch brofiad o berfformiad byw unigryw yn dathlu ymchwil ac effaith Y Brifysgol Agored.

Mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn eich gwahodd i ddathlu 50 mlynedd ers i Harold Wilson nodi ei weledigaeth am ‘Brifysgol yr Awyr.’ Tramshed hanesyddol Caerdydd yw’r lleoliad ar gyfer perfformiad unigryw sy’n cyfuno animeiddio tafluniedig a dawns fyw.

Mae Trajectory Steve Geilot yn defnyddio technoleg flaenllaw, tafluniad ar raddfa fawr a gweithredu byw. Drwy weithio gyda’r dawnswyr Tania Råman a Jo Fong, bydd Geilot yn trawsnewid y Tramshed yn amgylchedd anhygoel, agos atoch sy’n adrodd stori Prifysgol yr Awyr.

Mae hwn yn ddigwyddiad arbennig, unigryw, am ddim a gall nifer y lleoedd fod yn gyfyngedig. Os hoffech ddod, yna cofrestrwch drwy ddilyn y ddolen hon.

Cliciwch yma i gael rhagolwg o’r perfformiad.

Nos Wener 6 Rhagfyr 6pm, 7pm a 9pm yn y Tramshed, Caerdydd. Caiff y perfformiad ei gynnal dair gwaith yn ystod y noson gyda phob perfformiad yn para tua 30 munud.

Mynediad am ddim
Tramshed
Heol Clare
(mynediad ar Stryd Pendyris)
Grangetown
Caerdydd CF11 6QP

Gobeithio y gallwch ymuno â ni!

 

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma