Pensaer Sain Ffagan yn ymddeol

27 Mai 2014

Gan Iwan Llwyd

Mae ymwelwyr i Sain Ffagan yn aml yn pendroni sut mae’r adeiladwyr arbenigol yn gwybod pa garreg i’w rhoi ym mha le ac yn wir pa adeiladau mae’r Amgueddfa wedi dewis eu hachub yn y lle cyntaf.  Dros y tri degawd diwethaf y gŵr sydd wedi arwain ar hyn yw’r Curadur Gerallt Nash.

Wedi 34 mlynedd wrth yr awenau, eleni bydd Gerallt Nash yn ymddeol o’i swydd fel Uwch Guradur adeiladau Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru.

Gerallt a’r adeiladwyr arbenigol yn dymchwel Ty Tuduraidd Hwlffordd yn y 1980au”

Gerallt a’r adeiladwyr arbenigol yn dymchwel Ty Tuduraidd Hwlffordd yn y 1980au

Yn enedigol o Dŷ Ddewi, graddiodd Gerallt o Brifysgol Caerdydd fel pensaer; arweiniodd ei ddiddordeb brwd mewn pensaernïaeth werinol at gyfle yn y 1970au i astudio pensaernïaeth y Cymry ym Mhatagonia.  Wedi cyfnod yn gweithio i gwmni o benseiri, ym 1980 ymunodd â’r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan.

Gerallt sydd wedi bod yn bennaf gyfrifol am fesur a chofnodi’r adeiladau hanesyddol sydd wedi eu symud i Sain Ffagan ers y 1980au.  Mae ei gynlluniau pensaernïol manwl a hardd wedi’u dylunio â llaw yn gelfyddyd ynddynt eu hunain.  Y darluniau yma sy’n cael eu dilyn gan adeiladwyr arbenigol yr Amgueddfa wrth iddynt ail-godi’r adeiladau hanesyddol.

“Mae dros hanner ein hadeiladau ni yn yr Amgueddfa Werin wedi eu hail-godi yn ystod  y tri degawd diwethaf ac mae’n rhoi pleser mawr imi allu dweud mod i wedi chwarae rhan yn eu  hachub, eu hadeiladu a’u dehongli,” meddai.

Gellir gweld ôl ei law ar brojectau swmpus megis ail-adeiladu Sefydliad y Gweithwyr, Oakdale ac eglwys ganoloesol Sant Teilo.  Yn fwy diweddar bu’n gyfrifol am ail-godi dau adeilad o Sir Benfro, ei ardal enedigol, sef Tŷ Tuduraidd o Hwlffordd a Gweithdy’r Clocsiwr o Solfach.

Gerallt Nash o flaen Ysgol Maestir a symudwyd o ardal Llambed ym 1984”

Gerallt Nash o flaen Ysgol Maestir a symudwyd o ardal Llambed ym 1984

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am adeiladau hanesyddol yr Amgueddfa mae wedi cofnodi ac ymchwilio nifer o adeiladau traddodiadol ym mhob rhan o Gymru ac wedi cynnig cyngor proffesiynol i nifer o brojectau’n ymwneud â strwythurau hanesyddol.

Mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar bynciau’n cynnwys addysg yng Nghymru Oes Fictoria, Neuaddau a Sefydliadau Gweithwyr Cymru ac Adeiladau Ffram-goed yng Nghymru.

Mae’n aelod o nifer o gymdeithasau yn cynnwys Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru ac mae’n parhau i gadeirio cymdeithas a sefydlwyd ganddo ei hun sef Cymdeithas Melinau Cymru. Dywedodd, “Mae’n rhyfedd meddwl na fyddai’n gwneud y daith fer o’r Tyllgoed i Sain Ffagan yn feunyddiol o hyn ymlaen ond  rwy’n siwr y byddai’n dal i ymweld â’r Amgueddfa i ddilyn yr holl ddatblygiadau cyffrous sydd ar y gweill.”

Oakdale yn 1994

Oakdale yn 1994

Dywedodd Beth Thomas, Ceidwad Hanes ac Archaeoleg: “Bydd cyfraniad Gerallt Nash i Sain Ffagan yma ar ein holau ni i gyd, ac yn rhoi pleser i genedlaethau o ymwelwyr.”

Er y bydd Gerallt Nash yn gorffen ddiwedd mis Mai bydd ei gynlluniau pensaernïol yn hanfodol i orffen y gwaith sydd yn yr arfaeth o ail-greu fferm Oes yr Haearn a Llys Canoloesol Rhosyr yn ogystal â chodi Tafarn y Vulcan, Gorsaf Heddlu Ystum Taf a Gorsaf Reilffordd Rhaglan.

A sut fydd Gerallt yn treulio’u amser? “Mae Lisa’r ferch yn priodi yn Nhy Ddewi mis nesa felly bydd hynny’n ein cadw’n brysur am yr wythnosau cyntaf.

“Mae’n siwr y byddai i a Pat y wraig yn mynd ar grwydr yma ac acw yng Nghymru a thu hwnt.  Mae gennym ni awydd mynd ar daith i Ogledd yr Eidal yn gyntaf a byddai’n wych mynd nol rhywbryd i Batagonia.  Rwy’ wedi gwneud y bererindod ddwywaith erbyn hyn ac mi hoffwn fynd nol i weld hen ffrindiau.”

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma