Penderfyniad S4C i orfodi is-deitlau Saesneg ar ei rhaglenni

13 Ebrill 2016

Gan Miriam Hedd Williams

Dyma benderfyniad wnaeth creu dadl fawr, yn enwedig dros y cyfryngau cymdeithasol, sy’n dangos yn glir deimladau cryf y cyhoedd am ddarpariaeth rhaglenni Cymraeg.

Nôl ym mis Rhagfyr 2015 roedd un o gyn-gomisiynwyr S4C, Tweli Griffiths, o’r farn y byddai cael is-deitlau awtomatig yn denu fwy o wylwyr di-Gymraeg i’r sianel. Ac ar ddechrau mis Mawrth wnaeth S4C gosod is-deitlau Saesneg yn orfodol am wythnos gyfan ar y mwyafrif o raglenni.

Dywedodd S4C un o’r rhesymau dros wneud hyn oedd i geisio codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaeth is-deitlo dewisol. Ond yn anffodus, nid pawb oedd yn cytuno. Bu Simon Brooks yn beirniadu’r sefyllfa’n hallt gan ddatgan y byddai’n ‘difetha’ rhaglenni S4C i wylwyr Cymraeg. Mewn erthygl i ‘GAIDHLIG-TV’ dywedodd:

‘This indeed is the strange death of the Welsh language. Welsh has been displaced by a new langugae, Bilingualish. Two languages are spoken in Wales today, English and Bilingualish.’ (Simon Brooks)

Er bod rhai o’r farn fod y syniad yn un cadarnhaol, mae llawer yn anghytuno’n gryf gan gredu bod gorfodi is-deitlau Saesneg yn arwain at raglen ddwyieithog yn hytrach na chwbl Gymraeg. Onid holl bwrpas sefydlu S4C oedd amddiffyn yr iaith gan geisio sicrhau cynnydd yn nifer siaradwyr y Gymraeg? Fe wnaeth Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ysgrifennu cwyn swyddogol at Ofcom yn nodi fod y penderfyniad wedi mynd yn erbyn y Ddeddf yn 1990, sef dyletswydd S4C i gynnig a darlledu rhaglenni Cymraeg yn bennaf yn ystod yr oriau brig. Safbwynt Cymdeithas yr Iaith oedd, trwy dreialu’r arbrawf nid oedd S4C yn cadw at y ddeddf hynny, ond yn hytrach yn gorfodi eu gwylwyr i wylio eu rhaglenni gydag is-deitlau Saesneg drwy’r adeg am wythnos gyfan.

Tra bod cynifer yn gwrthwynebu ac yn beirniadu’r digwyddiad hwn, mae rhai yn cytuno gyda Tweli Griffiths ynglŷn â gosod is-deitlau awtomatig ar raglenni S4C. Ar un llaw, gall fod yn fwy cynhwysol i’r iaith gan ddenu mwy o wylwyr di-gymraeg gan gynnig, ‘neges seicolegol bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw hefyd,’ yn ôl Tweli Griffiths.

Dywedodd Dr. Eithne O’Connell o Brifysgol Dinas Dulyn ei bod hi’n deall bwriad S4C wrth gymryd y penderfyniad hwn, ond meddai: “Mi fyddai cyflwyno hyn yn mynd yn groes i friff y sianel i gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith leiafrifol.”

Yn fy marn i roedd yr arbrawf yn un ffôl, gan fod y llygad yn cael ei dynnu’n awtomatig at ysgrifen ar deledu. Felly ni fyddai’r Cymry, heb sôn am ddysgwyr, yn canolbwyntio ar y cynnwys Cymraeg. Yn hytrach byddent yn darllen a chanolbwyntio ar yr is-deitlau Saesneg. Beth bynnag, dyw gwasgu botwm er mwyn troi’r is-deitlau ymlaen ddim yn anodd! Cytunaf yn gryf â chadeirydd mudiad ‘Dyfodol yr Iaith,’ wrth iddi honni fod y digwyddiad wedi dangos yn glir ‘nad yw gwylwyr yn fodlon gweld y Gymraeg yn cael ei thanseilio.’

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma

welbru yn dweud:

“dyw gwasgu botwm er mwyn troi’r is-deitlau ymlaen ddim yn anodd!”

Dydy pobl ddim wastad yn meddwl am ei wneud. Dwi wedi siarad a phobl oedd ddim yn gwybod fod isdeitlau ar gael felly dwi’n meddwl byddai hyn yn gallu helpu.
Fuodd yna newid yn y ffigurau gwylio dros y cyfnod dan sylw?