Penarth yw’r lle gorau i fyw

24 Mawrth 2016

Mae’n swyddogol- mae Penarth ar frig y rhestr o’r 10 llefydd gorau i fyw yng Nghymru. O leiaf yn ôl y Sunday Times sy wedi cyhoeddi rhestr o’r 118 lle gorau i fyw ym Mhrydain. Bu’r panel o sgrifennwyr y papur yn pori drwy ystadegau fel perfformiadau ysgolion, trosedd, iechyd a phrisiau tai yn ogystal a chysylltiadau trafnidiaeth. Roedd ysbryd cymuned yn bwysig i’r beirniaid yn ogystal â safon bwyd y tafarnau lleol. Daeth Arberth, Llangollen ac Aberystwyth yn y deg ucha o lefydd gorau i fyw yng Nghymru, ond ar y brig mae Penarth.

Yn ôl y Sunday Times mae’r dref lan môr yn boblogaidd iawn da theuluoedd ifanc, “and the esplanade is a delight- recent renovations saw its stubby pier voted the country’s most treasured landmark in a poll for National Trust Wales.”

Fel rhywun sydd wedi byw yma am fwy nag wyth mlynedd ar hugain gallai gyd fynd yn hollol, ond nid jest y fi sydd ym meddwl hyn.  Fe ofynnodd Pobl Caerdydd  i ddysgwyr Cymraeg sy’n cwrdd bob wythnos yn y Waterloo Tearooms (un o’r dwsinau o lefydd i dorri syched yn y dref hon) i ysgrifennu am pam maen nhw’n dwli ar Benarth, fel rhan o’i gwaith dosbarth.

O'r chwith: Adrian,Sioned,SAndra, Alyson a Rhian

O’r chwith: Adrian, Sioned, Sandra, Alyson a Rhian

Meddai Rhian Thomas sy’n gweithio dros elusen: ” Dwi wedi bod yn byw yn ardal Penarth ers wyth mlynedd. Dwi’n gweithio yn y Barri fel Swyddog Datblygu Consortiwm ond dwi’n hoffi mynd i Benarth i siopa a threulio amser- nid y Barri!

Pam ydw i’n hoffi Penarth? Wel, mae’n hawdd i barcio (fel arfer!) a mae dewis da o siopau- bwyd, dillad, anrhegion ac fel arfer mae’n bosiib i ffeindio pethau gwahanol. Mae banc a swyddfa post yma hefyd .

“Mae pobl yn gyfeillgar. Dwi’n hoffi siop ‘Jo’s Organics’ am fwyd a phethau arbennig ac mae Cathy yn siop ddillad ‘Ginger’s’ yn llawn hwyl ac yn onest am sut mae dillad yn edrych!

“Os daw ffrindiau i aros ‘wnai ddod i Benarth- coffi yn ‘Lolfa Ocho’ (Ocho Lounge), cinio yn Prezzo ac wedyn ymweld â’r Pier i weld ffilm yn y sinema. Mae e’n fach ond ‘cosy’ ac mae’n hawdd drefnu tocynnau dros y wê. Mae llawer o bethau eraill i wneud- ymweld âg orsaf y Bad Achub neu fynd am dro ar y promenâd.”

Mae’r môr hefyd yn atyniad i Sandra Chapman, llyfrgellydd. :” Dwi’n hoffi byw ar lan y môr. Dwi’n hoffi gallu cerdded o gwmpas yr ardal. Ces i fy magu ym Mhenarth ond symudais i i Lundain pan o’n i’n ddwy ar hugain. Dychwelais i ddwy flynedd yn ôl. Beth dwi’n gwneud pan ddaw ymwelwyr? Dyn ni’n mynd i’r Pafiliwn Pier a bwyta hufen iâ. Hefyd dyn ni’n mynd i Fae Caerdydd a’r ‘barrage’ i fynd am dro.” A ble mae hoff le bwyta Sandra?  “Dyn ni’n mwynhau Red Hot Buffet ar hyn o bryd achos dyn ni’n hoffi pethau gwahanol.  Gyda’r plant dyn ni’n mynd i Gastell Caerffili ar y trên, mynd am dro i barc Cosmeston neu’r traeth, cerdded i’r Ganolfan Dŵr Gwyllt i wylio pobl ar y dŵr a cherdded i’r barrage i weld y cychod.”

Yn ôl y papur mae’r cynllun i adeiladu 41,400 o dai yng Nghaerdydd, y rhan fwyaf ohonyn nhw yng ngogledd y ddinas yn mynd i greu problemau i deithwyr ac fydd prisiau tai yn codi yn ardal Penarth wrth i bobl edrych am lefydd mwy hwylus i fyw.

Parc Cosmeston

Parc Cosmeston

Mae Sioned Warrell wedi byw yma ers chwe blynedd a chafodd ei chariad  ei fagu yma. Mae hi’n gweithio gyda gwasanaethau argyfwng saith cyngor a mudiadau eraill i baratoi ar gyfer argyfwng.

“Dwi’n hoffi bod Penarth yn fach a distaw achos dwi’n dod o Ddolgellau, a dwi’n fwy cyffyrddus yn llefydd bach, ond os wyt ti eisiau mynd i Gaerdydd am noson, mae’n hawdd trafeilio.” Mae na amryw o lefydd i fwyta yma ac fe aeth Sioned i un o gaffes enwoca’r dref, y Pelican cafe yn Hamptons yn ddiweddar i ddathlu penblwydd ei mam. Cawson nhw frechdannau a thê, “Ac ar ôl cael ‘slab’ mawr o gacen, roedd rhaid cerdded o i ffwrdd. Cerddon ni ar hyd Ffordd Rectory drwy’r parc, a stopio i weld yr adar, cyn i ni fynd draw i’r ‘clifftops’. Cerddon ni dros y prom i’r Pier lle gafon ni baned o de i gynhesu cyn cerdded yn ôl i’r car.”

Digon o lefydd i ymlacio

Digon o lefydd i ymlacio

Mae llawer o bethau yn plesio Alyson Hadley am Benarth. ” Dwi’n  byw ym Mhenarth ers tair blynedd ond pan ron i’n blentyn, es i i’r ysgol yma. Dwi’n hoffi byw yma achos mae hi’n bosib i fynd i’r traeth, sinema ar y Pier, siopa a mynd am dro rownd Cosmeston- llawer o bethau. I blant mae lot o chwaraeon, clwbiau a gweithgareddau ac i’r oedolion mae llefydd neis i ymlacio ac i gwrdd â ffrindiau.”

Mae Adrian Jackson yn fargyfreithwr. “Des i i Benarth dair blynedd yn ôl. Penderfynais ar Benarth achos mae’n agos i’r môr a’r brifddinas. Mae’n ffantastig gallu byw mewn pentre bach  ac yn gallu mynd ar y tren ac wedyn ar ôl dim ond pymtheg munud, allan wrth stadiwm Principality. Ym Mhenarth mae na lot o lefydd i fynd i fwyta neu i gerdded o gwmpas. Y Pier, sydd wedi’i ail adeiladu gyda sinema bach, yw’r lle mwyaf arbennig – ac enwocaf, oherwydd ei olwg hardd ar luniau a chardiau post.”

Mae’r pier eiconig yn denu miloedd o ymwelwyr ac  mae’r pobl leol yn browd iawn o’i ”stubby Pier” fel mae’r dysgwyr wedi esbonio. Ys dywed y Sunday Times “Move over, Brighton Pier” felly.

 

 

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma