Parch i Carys Eleri

1 Gorffennaf 2015

Carys Eleri s’yn chwarae’r brif rhan yng nghyfres ddrama newydd S4C, Parch.  Yma , mae hi wedi bod yn sgwrsio gyda Pobl Caerdydd am y gyfres, Charlotte Church a mamgu Dilys.

Mae ymateb da di bod i’r gyfres ddrama newydd Parch – disgrifia’r gyfres i ni ? 

Maer’ gyfres a sgrifennwyd gan Fflur Dafydd, yn dilyn helyntion teulu yn ystod cyfnod heriol ac annisgwyl yn eu bywydau. Er mai stori Myfanwy yw’r un ganolog – ma gan bob un o’r cymeriadau bwrpas a storion eu hunain. Hefyd, er bod elfennau digri a swreal i’r gyfres – drama yw hi yn y bôn.

 Ti sy’n chwarae’r brif rhan, Y Parch Myfanwy, pa fath o gymeriad yw hi ? 

Mae Myfanwy yn fenyw hoffus, cariadus, egwyddorol, clyfar a hwylus. Ma na deimlad fod llawer iawn o bobol yn dibynnu arni – yn ogystal a’i theulu a’i ffrindie ac oherwydd ei rôl fel ficer y plwyf – mae’ n chwarae rhan hanfodol fel angor i’r gymuned. Mae’n derbyn y rôl hynny ac yn dechrau cwestiynu os ydi hi yn hepgor gofalu am hi ei hun a’i theulu agos yn wyneb ei salwch.

 Wyt ti’n teimlo mwy o bwysau wrth chwarae prif ran mewn cyfres   ? 

Wrth gwrs. Yn enwedig gan fod Myfanwy yn dangos bron ymhob golygfa. Odd e mor bwysig ifi i wneud y gorau gallen i ac hynny yn wyneb diwrnodau hir iawn heb fawr o amser i ffwrdd oherwydd yr amserlen. Ma amserlen creu drama yn un trwm iawn, ac oherwydd natur y cymeriad – roedd llawer iawn o ddeialog i’w ddysgu. Nes i rhedeg mas o dri highlighter pen yn highliightio pennodau 1-4!! Felly ar ôl ffilmio bob dydd (codi am 6am a dod adre erbyn 7.30yh-8) yna roedd rhaid cadw ar ddihun i barhau dysgu golygfeydd y diwrnodau wedyn. Ond er y pwysedd a’r disgwyliade – nes i fwynhau SHWT gyment – odd pawb o’r tim cynhyrchu, criw, cast ayyb yn bobol hyfryd a chefnogol. Bues i yn lwcus iawn.

Roedd lluniau o ti a Charlotte Church ar twitter yn dathlu gyda Prosecco ar ôl i’r rhaglen gynta gael ei ddarlledu – noson dda ?   

Gethon ni noson a hanner! Ymhlith tua 10 o bobol y noson honno – roedd yna  3 person Di-Gymraeg gan gynnwys Charlotte felly roedd yr isdeitlau ymlaen a nath pawb wir fwynhau y rhaglen. Yn sgil Charlotte yn siarad allan am sefyllfa wleidyddol y wlad yn ddiweddar a chael ei brandio fel ‘Champagne Socialist’ nath hi sgwennu blog yn dweud bod yn well ganndi Prosecco a ‘ i bod hi yn ‘Prosecco Socialist actually!’ Felly agoron ni sawl potel i ddathlu darllediad Parch a ‘nath hi tweetio llunie ohonom ni yn hysbysebu’r rhaglen ac yn dweud ein bod ni’n cal ‘Prosecco Socialist Party’. O’dd ‘na lot o ganu erbyn diwedd y nos, druan a’r cymdogion!

Mi wyt ti’n wreiddol o Tymbl .. felly pa un yw gartre erbyn hyn ? 

Rwyf wedi byw yn Gaerdydd ers blynyddoedd bellach, ac rwy’n teimlo taw fan hyn wy getre. Nes i fyw yn Llundain am flwyddyn yn 2013 wedi i mi ennill y Norman Beaton Fellowship gyda’r BBC oedd yn golygu contract hir ar rep radio 4 – er oedd y gwaith yn gret – tasen i ddim yn fod dynol tasen i ddim wedi methu fy nheulu a ffrindie i yng Nghaerdydd. Ma’ n chwaer fawr Nia Medi yn byw ma, a ma Tymbl llai na awr i ffwrdd a ma’ mam a dad dal yna. Ma’ Caerdydd yn cynnig popeth gan gynnwys y môr. ‘Wi wrth fy modd yn seiclo lawr i’r morglawdd ar ddyddie rhydd (a sych!). Cofio sawl actor blaenllaw nes i ddramau radio gyda nhw yn radio 4 yn dweud tasen nhw yn symud i Gaerdydd ‘in a heartbeat’ ar ôl eu profiade yn ffilmio Dr Who. Achos ar ôl gorffen gwaith, allwch gal diod a bwyd yn y bae (hanner pris Llundain), ma’r bobol yn gyfeillgar a hapus a ma bob man yn llai na £10 mewn tacsi i ffwrdd! odd e hefyd yn chwith peidio siarad Cymraeg yn y gweithle. ‘Wi’n cofio mynd lawr i’r newsroom i weld Huw Edwards i ga’l siarad Cymraeg!

Hoff noson/prynhawn mas yng Nghaerdydd 

Seiclo i’r morglawdd, stopio yn y World Of Boats am beint. Noson mas fel arfer yn cynnwys Dempsey’s a Buffalo ac os ishe cario mlaen ar ol 4am  – ma’r clwb hoyw ‘Pulse’ ar agor tan 6am. Bwgi da fanna! Hefyd ma Clwb Ifor yn gret am gwd bop.

Hoff le i fynd am dro yng Nghaerdydd

Parc biwt, caeau Llandaf, Victoria park, Thompson’s park a Sain Ffagan.

Hoff le i fwyta yng Nghaerdydd

Ty John Gedru a Kevs Ford (Llwybr Llaethog) yn Grangetown

Bankok Cafe Cowbridge road

Caffi Waffle  yn Clive road

Hoff le i siopa yng Nghaerdydd

Fi’n casau siopa felly fi wastod yn mynd. Yn syth i T.K Maxx a gob’itho am y gore.

Beth yw’r peth mwyaf diddorol ar eich CV?

Oherwydd nes i ennill y Norman Beaton Fellowship, ces i ngwahodd i berfformio mewn sioe o’r enw ‘Walk in the Light’ yn y National Theatre yn Llundain ar ddiwrnod yn mhenblwydd yn 2013. Perfformiad i ddathlu pobol du yn  niwydiant theatr prydain oedd hi ac roedd Norman Beaton yn un o’r actorion croenddu cynta i weithio ym Mhrydain. Roedd rhaid i fi berfformio monolog munud o hyd yng nghanol 15 o fonologau gan bobl eraill. Rhannes i llwyfan gyda Lenny Henry, David Harewood, Tanya Moodie, Peter de Jersey O-T Fagbanele, Giles Terera a llwythu o bobl ffantastic erill ac roedd côr gospel anferth wedi agor a chloi y perfformiad ac yn y canol nath yr holl awditoriwm ganu penblwydd hapus ifi yn y canol. ‘Odd e yn ddathliad hyfryd o sawl diwylliant a chefndir gwahanol a theimlad braf teuluol ac o rhyddid.

Pa ran o’r dydd yw’r adeg gorau gennych chi?

Y bore neu’r nos. fi fel rhech yn y pnawn.

Beth yw’r peth gorau mae rhywun wedi dweud wrthych chi erioed

Bod nhw’n yn ngharu.

Pwy hoffech chi wahodd i rannu eich awr ginio ?

Mamgu Dilys buodd farw nol yn 2007. Un o’n ffrindie gore i erioed odd hi.

Pa air neu frawddeg ydych chi’n ei or-ddefnyddio?

Boncyrs, hilarious a fabulous.

Beth yw eich ofn mwyaf?

Ca’l ym mreichie wedi torri bant a ffili cwtsho neb.

Un peth rydych chi wedi ei ddysgu am fywyd?

Odd motto yn hen ysgol i Maes yr Yrfa arfer neud sawl un o ni i chwerthin ond mae e’n neud lot o sens nawr “Cofia ddysgu byw” – rhaid mwynhau a gwneud yn fawr o bob eiliad a dangos cyment o gariad a charedigrwydd ag sy’n bosib.

Beth rydych chi wedi ei gyflawni rydych chi’n fwyaf balch ohono ?

Cyrra’dd diwedd ffilmio Parch heb basio allan a heb golli’r plot!

Hoff blog/ysgrifennwr/trydar ti’n ei ddilyn

Un o’n hoff flogwyr oedd ffrind da imi buodd farw flwyddyn dwetha – Mel Fung o dan y teitl ‘Sexy Mrs Fung’ – cafodd hi ei deiagnosio gan cancr y fron a dechreuodd hi ysgrifennu blog am y profiad o’r enw ‘It’s all gone tits up!’ Odd e yn flog mor ddeallus, ysbrydol a hileriys. Nath hi ei ddarlledu ar Radio Wales yn diwedd a nes i helpu hi i’w leisio fe. ‘O’dd hi yn fenyw a hanner. ‘Wi dal yn bwrw golwg ar ei blogie weithie i’n atgoffa i ohoni ac i rhoi persbectif ar fy mywyd yn hun. Odd ei dawn o rhoi perspectif a gwneu ichi chwerthin yn hollol unigryw.

 ‘Wi’n darllen lot. O’n i wrth ym modd da Terry Pratchett, ar hyn o bryd ‘wy newydd orffen darllen llyfr Jon Ronson ‘So you’ve been publicly shamed’. Newyddiadurwr yw Jon Ronson ac mae ei lyfre fe yn debyg mewn tôn i Louis Theroux, ma’r llyfr diweddar ma yn rhoi slant arbennig ac agoriad llygad enfawr ar gyfryngau cymdeithasol. Nath e hefyd sgrifennu The Psychopath Test odd yn lyfr anhygoel am ei siwrne i fewn i ddiwydiant salwch meddwl. Ma’ cymint o hiwmor yn perthyn iddo hefyd. Mae e’n foi clyfar iawn. Mae ei drydaru fe yn ddiddorol iawn i’w ddilyn achos ei holl ymwybyddiaeth am yr hyn mae’n gwneud.

Hoff lyfr/film/ cyfres deledu? 

Ffilm -Interstellar – fi di bod yn addysgu yn hunan am wyddoniaeth yn enwedig ffiseg dros y blynyddoedd d’wetha ac yn tanysgrifio i gylchgrawn The New Scientist, felly roedd y theoriau odd yn cael eu codi yn Interstellar wedi taro deuddeg a mi. Gafodd e effaith enfawr arnai a gorfes i gal 5 munud i grio yn y tŷ bach or ol ei weld! Dal i garu Forest Gump, Kill Bill, dwli ar yr XMen hefyd.

Cyfres deledu – True blood. Yr unig gyfres gredadwy fi di weld hyd yn hyn sy’n ymwneud a vampires. O’dd pob cyfres yn mynd a chi ar daith newydd ddiddorol a chyfoes. Breaking Bad yn anhygoel hefyd. High five Brian Cranston! Wrthi’n gwylio Game of Throes nawr.

 Hoff lyfre yw cyfres Terry Pratchett am y cymeriad Tiffany Aching. Boncyrs a chlyfar ofnadwy. O’n i’ n hoffi bod y ‘nac mac feegle’ cymeriadau bach glas o’r alban odd wastod ishe ymladd wedi cal ei taflu allan o wlad y tylwyth teg am fod yn ‘drunk and disorderly’. Hileriys.

Parch

Nos Sul  9.00, S4C  

Isdeitlau Cymraeg a Saesneg, 

Hefyd, nos Fawrth, 10.00 gydag isdeitlau Saesneg ar y sgrin.

Gwefan: s4c.cymru                          Ar alw: s4c.cymru/clic

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma