Pancos! Pancws! Crempog!

14 Chwefror 2016

Dim ar gyfer dydd Mawrth Ynyd yn unig mae gwneud crempog/pancos. Mae Meleri yn dwli eu gwneud nhw unrhyw adeg o’r flwyddyn.

Pa bynnag air y’ch chi’n ei ddefnyddio, mae’r rysáit isod yn addas ar gyfer pob pryd bwyd.

Rysáit pancws allan o fanana sydd gen i! Ydy hyn yn bosib? Ydy! Banana, wy ac ychydig o sinamon! Dyna ni, syml!

Pwy ddywedodd mai ond ar ddydd Mawrth crempog y’ch chi’n gallu bwyta pancws?! Mae fideo o’r pwdin blasus yma.

Cynhwysion (ar gyfer 1 person)

1 banana

1 wy

½ i 1 llwy de o sinamon

Dull

Stwnsiwch y fanana. Ychwanegwch yr wy ato a chwisgiwch y ddau gyda’i gilydd. Cymysgwch y sinamon gyda’r cynhwysion. Toddwch ychydig o olew coconyt/menyn mewn padell ffrïo a rhowch 2 lwy bwdin o’r cymysgedd i’w goginio am 3 munud bob ochr.

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma