O Grangetown i Guatemala: Rhan 2 o flog teithio Ceren Roberts

26 Medi 2013

Mae Ceren Roberts yn 29 oed ac yn wreiddiol o Donteg. Erbyn hyn mae’n byw yn Grangetown ac yn gweithio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Dyma’r tro cyntaf iddi deithio ar ei phen ei hun…

cerenblog23

Rhan o dref San Pedro de Laguna dal o dan ddŵr ar ôl corwynt rhai blynyddoedd yn ôl

Ar ôl teithio mewn bws, tuc tuc a speed boat o’r diwedd dyma fi’n cyrraedd San Pedro de Laguna ar lan Lago de Atitlán. Mae Lago de Atitlán yn llyn 18km o hyd ac wedi ei hamgylchynu gan losgfynyddoedd a mynyddoedd, ac yn hawdd y lle prydfertha dwi erioed wedi bod. Mae tre San Pedro ar waelod yn o’r llosgfynyddoedd a reit ar lan y llyn. Roedd rhannau o’r dre wedi cael ei difetha gan gorwynt ychydig flynyddoedd yn ôl, a doedd lefel y llyn dal heb ostwng ers hynny.

Roeddwn wedi clywed fod golygfa orau o’r llyn fod oddi ar ben La Nariz de Indio, ond bod hi’n beryglus gwneud y daith ar ben eich hun gan fod llawer o ladrata wedi bod yno yn ddiweddar. Yn hwyrach yn y diwrnod des ar draws Samuel, dyn tua 50 oedd yn dod o San Pedro yn wreiddiol. Dywedodd wrthyf ei fod e’n fodlon cerdded y mynydd gyda mi, ar amser gorau i wneud hynny oedd yn gynnar yn y bore fel bod ni’n gweld yr haul yn gwawrio o’r copa. Cytunwyd felly i gyfarfod  3 o’r gloch y bore wedyn.

cerenblog24

Chicken Bus!

Am 3 mi oedd Samuel tu allan yr hostel a ffwrdd a ni at y mynydd. Mi oedd La Nariz de Indio rhyw hanner awr i ffwrdd, felly roedd rhaid i ni ddal ‘Chicken Bus’ yn agosach at y mynydd (‘Chicken Bus’ yw hen fysiau ysgol o’r UDA sydd yn cael ei defnyddio fel trafnidiaeth gyhoeddus yn y wlad).

Ar ôl dod i ffwrdd o’r bws sylweddolodd Samuel ei fod wedi anghofio ei dorch, felly roedd rhaid dechrau dringo heb unrhyw fath o olau, yn fuan, ar ôl cwympo tipyn o weithiau, sylweddolodd Samuel a minnau fod rhaid i ni wneud yr holl daith law yn llaw. Felly dyma fi’n cario mlaen dringo yn dal llaw’r dyn 50 oed yna oedd heb braidd dim Saesneg a finnau ddim Sbaeneg.

Rôl tipyn eto yn dringo tynnodd Samuel machete allan o’i fag. Felly dyna le oeddwn i a’r ochr mynydd, mewn tywyllwch pur, gyda dyn doeddwn ddim yn nabod oedd gyda machete yn ei law. Ond diolch byth, dechreuodd torri coed a brigau o’r ffordd yn hytrach na throi’r machete arnaf i!

Fe gyrhaeddon ni’r top mewn pryd i weld yr haul yn gwawrio, ac mi oedd yr holl daith werth yr olygfa! Roeddwn yn gweld y llosgfynyddoedd a’r llyn a gweld un llosgfynydd yn llosgi yn y cefndir. Fe arhosom ar y top tan i’r awyr droi yn hollol las.

Wedi i ni neud ein ffordd lawr, sylweddolom fod gennym ddim ffordd nol i San Pedro, felly mi roedd rhaid bodio am lift. Stopiodd pickup, ac mewn a fi a Samuel i’r cefn gyda’r holl bren a gorfod sefyll yng nghefn y pickup am yr hanner awr nol i’r dref.

Diwrnod canlynol roeddwn yn yr hostel (wel sied gyda 6 ystafell wely ynddi) a dyma’r holl le yn dechrau crynu. Doedd gen i ddim syniad beth oedd yn digwydd; dechreuodd pethau ddisgyn o’r silffoedd a dyna i gyd yr oeddwn yn gallu clywed oedd y plant ysgol yn sgrechian yn yr adeilad drws nesaf. I ddechrau roeddwn yn meddwl bod un o’r llosgfynyddoedd wedi ffrwydro a bod lafa yn dod lawr tuag at San Pedro. Es allan o’r hostel a stopiodd y crynu. Sylweddolais mai daeargryn oedd newydd fod. Parhaodd y crynu tua 25 eiliad ac fe ddilynodd dau ddaeargryn bach arall wedi hynny. Roedd y daeargryn yn un weddol fawr, yn cyrraedd 6.5 ar raddfa Richter. Diolch byth, nid oedd unrhyw farwolaethau; chydig o dai ac adeiladau simsan oedd wedi cwympo a rhai ffyrdd wedi cau oherwydd mwd a choed, ond diolch byth roedd pawb yn saff.

Tagiau erthygl

Rhannu'r erthygl hon

sylw ar yr adroddiad yma